Saturday 25 May 2013

Y Curragh


Dros y dŵr heddiw. Na nid i sir Fôn, mae pawb wedi cael llond bol am sôn am yr etholiadau ar yr ynys, ond i’r Iwerddon. I fod yn gywir i’r Curragh yn sir Kildare. Pam? Dyna ras y dydd y 2000 ginis Gwyddelig.

Mae 'na ddigon o geffylau fydd yn herio ei gilydd dros dipyn dros filltir. Yn ôl system yr hen Hughes,  mae 'na ddewis  o bedwar sef Magician, Flying the Flag, Gale Force a George Vancover. O’r pedwar fy newis i fydd Magician. Y rheswm nes tipyn o arian arno yn Gaer pan enillodd o bedwar hyd. Yn ôl Aidon O’Brien ei hyfforddwr mae yn hapus hefo ers Caer wrth gwrs mae  yn rhedeg llai o bellter heddiw nag yn Gaer.
Ogystal ar Curragh mae 'na ddigon o rasys eraill ar Sianel Pedwar heddiw i siwtio pawb.

Be fydd yn cymryd fy sylw fydd y ras yn Haydock rhwng Reckless Abandon a Sole Power. A fydd Reckless Abandon  yn ddigon o geffyl i drechu Sole Power yn Haydock.
Dyma ddewis rasys S4
1.50 York:                 PINTURA / Spiritual Star
2.00 Goodwood:        AFSARE / Cameron Highland
2.20 York:                 ADDRESS UNKNOWN / Songcraft
2.40 Haydock:           RED RUNAWAY (nap) / Rundell
2.55 York:                 YORK GLORY / Ancient Cross
3.15 Haydock:           HER COMES WHEN / Baltic Knight
3.20 Curragh:            MAGICIAN / Van Der Neer
3.35 Goodwood:        BRETON ROCK (nb) / Gworn
3.50 Haydock:           RECKLESS ABANDON / Sole Power

I’r rhai sydd yn hoff o ganolbwyntio ar gwrs dwi yn dewis Haydock.

Haydock

2.10: PRIME EXHIBIT
2.40: RED RUNAWAY
3.15: HERE COMES WHEN
3.50: RECKLESS ABANDON
4.20: SALOOMY
4.55: TANGO SKY
5.30: SANDY LANE
6.00: CAPO ROSSO

Pob lwc a chofiwch oes 'na fawr o elw o gadw eich arian yn y banc.

Saturday 18 May 2013

Trip i Newbury a Newmarket


Gornest fawr heddiw, y ferch o Abertawe Bonnie Tyler yn gystadleuaeth Eurovision. Ydi’r bwci dim yn rhoi llawer o siawns iddi 66/1 gyda Denmarc yn ffefryn 4/6 a Norwy wedyn 5/1.

Fel sylwebydd gwleidyddol mi ddylwn fedru mentro barn, gan fod y gystadleuaeth wedi ei seilio ar ragfarnau cenedlaethol  ond a bod yn onest riw yn osgoi'r cyfan. Well gen i gystadleuaeth pedwar coes nid dau.

Wel mae’r tymor pêl droed yn dod i ben gemau’r “Premier” y fory. Fe ddechreuodd tymor Abertawe yn erbyn tîm o Lundain a nawr mae’n gorffen yn yr un modd, Abertawe adref I Fulham. Y diddordeb o hun ymlaen fydd pwy fydd yn cael ei gwerthu a’i brynu, a pa hyfforddwr fydd yn gadael am well pethe. Laudrup am Real Madrid?

Heddiw mae Sianel 4 Lloegr yn ganol bwyntio ar Newbury a Newmarket. Felly beth amdani. Blwyddyn yn nol fe enillodd Frankel yn Newbury y cwestion di oes 'na seren arall o gwmpas i gymryd ei le. Os oes 'na, fe newis base “Declaration of War” sydd wedi syrthio yn yr ods trwy’r wythnos. Ond wrth gwrs mae Farhh yn y ras ac mae’n geffyl hynod gyson felly dewis rhwng y ddau.

Yn Newmarket y Coral King Charles II Stakes(listed) am 3.30 fydd yn cymryd fy sylw ar geffyl “Baltic Knight”. Fe enillodd o’r dechrau i’r diwedd y tro diwethaf oedd o allan yn Newbury. 

Dwi yn rhoi dau ddewis i bob ras. Y trwm fydd yn cael fy arian.
Pob lwc.

2.05 Newbury            Jehannedarc/Harris Tweed
2.20 Newmarket        Biographer/Kashaan
2.40 Newbury            Khawatim/Prodigaality
2.55 Newmarket        Secretinthepark/Lewisham
3.15 Newbury            Spillway/Kitten on the Run
3.30 Newmarket        Baltic Knight/Music Master
3.50 Newbury            Declaration of War/Farhh

Saturday 11 May 2013

Yr FA a mwy



Cwpan yr FA fydd yn cymryd sylw pawb heddiw mae’n debyg. Manchester City yn erbyn Wigan. Mae’r ornest yma tros y blynyddoedd wedi ei selio ar ein synnu.  Ond heddiw, dwi ddim  yn meddwl. Fe fase yn syndod mawr pe bai Wigan  yn cael buddugoliaeth gan fod Manchester City yn ddim owtffit llawer gwell.

Dwi yn gweld y gêm drosodd i bob pwrpas cyn hanner amser.  Yn y saith tro diwethaf i’r ddau gyfarfod mae City wedi ennill heb ildio un gôl ac maen nhw 40 pwn o’i blaen yn y “premier.” Ar ben hun maen nhw wedi ennill ei 13 gem ddiwethaf. Felly fawr o obaith I Wigan ydi’r casgliad. Mi welwch y cyfan ar ITV.

Fory fydd Syr Alex Ferguson yn cymryd ei gem olaf yn Old Trafford ac fe fydd na seremoni o drosglwyddo cwpan y premier i’r tîm ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe.  A budd Abertawe yn medru cymryd y sglein o’r achlysur go annhebyg, ond cawn weld.

Yn ôl gartref mae ‘play-offs’ Cynghrair Cymru rhwng Bangor yn erbyn Bala a Phort Talbot yn erbyn Caerfyrddin. C’mon Bangor ar ôl siomedig Cwpan Cymru buddugoliaeth a lle yn gwpan Ewropa yw’r nod.

A nawr y ceffylau. Dwi am ganolbwyntio ar Ascot heddiw oherwydd mwy na thebyg bydd pawb yn gwylio'r bêl droed ac nid y rasio. Felly dyma’r dewis.
Ascot
1.30         Ifwecan
2.05         Scatter Dice
2.40         Thomas Chippendale
3.15         Sharp and Smart
3.50         Tartiflette
4.25         Apollo D’Negro

Mae’r rhwyd waith yn gadael rhyw un wybod yn syth pam nad mha ddyn  yn plesio. Dwi ar ddeall bod rhai o’n dilynwyr mwyaf selog yn mynd i edrych ar y rasio ar Sianel 4, felly dyma’r dewis yn llawn
1.50 Haydock         Battlegroup
2.05 Ascot              Scatter Dice
2.20 Lingfield          Secret Gesture
2.40 Ascot              Thomas Chippendale
2.55 Lingfield          Greatwood
3.15 Ascot              Sharp and Smart
3.30 Haydock          Forgotten Voice
3.50 Ascot              Tartiflette        


Pob lwc.

Saturday 4 May 2013

Y 2000 gini



Pen wythnos wych o chwaraeon. Gem fwyaf Cymru dydd Llun Bangor yn erbyn Prestatyn yn gae'r Ras am Gwpan Cymru. C’mon y gleision. Dwi’n falch o gael hwnna i ffwrdd o’m mrest. 
Nawr  am fan bethe, Casnewydd yn erbyn Wrecsam yn Wembley er mwyn gael chwarae yn gynghrair Lloegr, Fel Gog sy’n byw yng Ngwent dipyn o ddewis ond Wrecsam sydd yn cael fy newis.
Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Manchester City. A Caerdydd I ffwrdd yn Hull. Ond does 'na fawr newydd i ddweud am y ddau glwb ar ddiwedd tymor llwyddiannus i’r ddau. 
Mater pwysig y dydd. Clasur Cynaf y tymor fflat yn Newmarket y 2000 ginis. I’r ifainc bunt a swllt. O na, tydi hynny ddim yn gwneud synnwyr, 105c ta. Ddim cweit mor rhamantus .
Yn ôl at y ras. Mi fydd yna tri ar ddeg o’r ceffylau gorau yn ceisio buddugoliaeth jest tros filltir.  Mwy na thebyg ras rhwng dau geffyl y bydd, Dawn Approach a Thornado. Mae Dawn Approach wedi bod yn ffefryn ers rhai misoedd.  Mae un wedi ennill ei pum ras ddiwethaf ar llall wedi ennill pedwar heb gamgymeriad o gwbl. 
Mae hyfforddwr Dawn Approach Jim Bolger yn dweud na dyma’r ceffyl gorau mae wedi ei hyfforddi erioed. Mae joci Tornado, Richard Hughes yn dweud o bosib mae dyma’r ceffyl gorau iddo fod ar ei gefn erioed. Dipyn o ddweud gan y ddau. Fel y gwelwch Tornado  yw fy newis.
Heddiw dwi wedi dewis y rasys sydd ar Sianel Pedwar ond rwyf wedi hefyd mynd trwy gerdyn gŵyl Newmarket. Felly ddigon o ddewis ichwi. Rwyf wedi rhoi pwy mae’ r papurau yn eu tipio. Gawn weld ar diwedd y dydd pwy fydd y tipster  fuddugol. 
Pob lwc.


Newmarket 2.05 Boonga Roogeta/Whispering Warrior
Goodwood   2.20 Jehannedare /Reckoning
Newmarket 2.35 Heerat/SpiritQuartz
Goodwood   2.55 Head of Steam/Silverheel
Newmarket 3.10 Noble Mission/Universal
Goodwood   3.30 Naabegha/ Captain Carey
Newmarket 3.50 Tornado/Dawn Approach/Garswood



Ras 1
Ras 2
Ras 3
Ras 4
Ras 5
Ras 6
Ras 7
Times
Danchai
Sole Power
Universal
Dawn Approach
Vallarata
Windhoek
Country Western
Telegraph
Ocean Tempest
Elusivity
Universal
Dawn Approach
Robot Boy
High Octane
Glean
Guardian
Whispering Warrior
Sole Power
Dandino
George Vancouver
Robot Boy
High Octane
Country Western
Daily Mail
Danchai
Heerat
Noble Mission
Tornado
Fils Anges
Windhoek
Ayaar
Express
Patriotic
Sole Power
Dandino
Dawn Approach
Vallarata
High Octane
Ayaar
Daily Mirror
Basseterre
Sole Power
Universal
Tornado
Vallarata
Windhoek
Country Western
Sun
Basseterre
Bungle in the  Jungle
Universal
Dawn Approach
Secretinthepark
Windhoek
Country Western
Star
Basseterre
Sole Power
Dandino
Dawn Approach
Fils Anges
Windhoek
Country Western
Gareth Hughes
Boonga Roogeta
Heerat
Noble Mission
Tornado
Shadara
oba
Windhoek
Country Western