Monday 21 May 2018

Twyll y refferendwm

Pan benderfynodd yr Undeb Ewropeaidd I gefnogi Gweriniaeth Iwerddon I wrthod unrhyw ddel oedd yn rhoi unrhyw isadeiledd ar y ffin rhwng y weriniaeth a Gogledd Iwerddon, roedd waeth I Brydain rhoi’r ffidil yn y to am gael cytundeb masnachu rhydd rhwng y Deyrnas a’r Undeb.

Er nad yw'r llywodraeth yn San Steffan wedi derbyn y ffaith  eto ond mae bron yn anochel  bydd yn rhaid i’r wlad aros i mewn yn yr Undeb Tollau (UT) ac yn y Farchnad Sengl (FS). 

Mae Teressa a’i chriw wedi rhoi dau ddewis ar y bwrdd. Un na’i gallai Prydain rhoi ffin galed rhwng y Weriniaeth a ‘r Gogledd a chefnu a del gydag Ewrop neu greu ffin yn ganol mor Iwerddon.  Annhebyg iawn yw hwn o gael ei gymeradwyo gan fwyafrif o Aelodau Senedd San Steffan.

Gwrthod codi eu penna o'r tywod

Tydi'r ddau arweinydd y pleidiau mwyaf yn San Steffan ddim wedi gweld neu wedi cyfaddef dyma ganlyniad anochel o ffin yr Iwerddon. Mae’r rhithdyb ar ei mwyaf yn meddwl Terresa May os ydi hi’n meddwl y gallai gwneud del ar Undeb Ewropeaidd a chadw’r brecsitiars ar eu hochor.

Felly mae gennych y sefyllfa dwp o gabinet y DU yn dadlau a’i gilydd ar ddau gynllun amhosib. Fel mae nos yn dilyn dydd bydd y ddau yn cael ei gwrthod gan yr Undeb Ewropeaidd yn nes ymlaen. Yn y diwedd bydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud wrth May bod rhaid i’r wlad aros yn UT ac yn y farchnad sengl.

Yn sicr mae’r UT o bosib yn mynd i ddigwydd ond  mae arweinydd Llafur yn dal  i lynu at y syniad  fel mae rhai o’i  gyd-aelodau seneddol yn meddwl y gallai trafod termau arbennig o’r farchnad sengl sydd yn osgoi'r rheolau ar gymorth gwladol ac sy’n osgoi symudiad rhydd o bobol o’r UE. Fel dywedodd Daniel Owen gynt ‘scarcely believe.’

Y faith amdani yw nid oes rhaid I Ewrop cynhemlu hyn gan eu bod yn gwybod na fydd aelodau senedd y DU ddim yn fodlon derbyn dim del. Felly mae’r cardiau i gyd yn
nwylo Ewrop I’w defnyddio fel y mynna.

Y broblem i wleidyddion y DU yw bod ganddynt rithdyb o rym. Ar un pryd, yn wahanol i feddylfryd y brecsiteers mi oedd gan Brydain llawer iawn o rym pan yn aelod o’r UE, yn eironig mae’r farchnad sengl wedi tyfu i fod y llwyddiant y mae, o dan bwysa a dylanwad y DU yn Ewrop. Ond nawr ar ôl tynnu’r ergyd ar adran 50 does gennym nwy dim dylanwad  o gwbl– nil pwnt i ddefnyddio Eurovision. Mae wedi cymryd blwyddyn boenus i ddysgu  yn y trafodaethau na’r UE sydd yn galw’r ergydau i gyd.

Dallineb ideolegol

Dallineb ideolegol llwyr sydd yn llywyddu. Mae hun yn sicr yn achos y brecsiteers ond mae i'w weld ymysg eraill hefyd. Mae yna ddeinameg sydd wedi ei greu yn codi o’r refferendwm. Roedd y bleidlais i adael wedi ei phriodoli ar y rhith na fase'r wlad ddim yn waeth allan gan fase’r UE yn anobeithiol o barod i gytuno i’n gofynion. 

Unwaith mae gwleidyddion wedi cytuno i fynd gyda ‘ewyllys y  werin’, maen nhw yn ffeindio hi’n anodd mynd yn ôl at y 52% a dweud bod eich credau chwi yn rhithdyb. 

Does ru’n gwleidydd eisio dweud yn gyhoeddus bod yn rhaid i’r DU nweud beth mae’r UE yn dweud. Mae’n anodd i wleidyddion i sefyll i fyny i Genedlaetholdeb Seisnig, cenedlaetholdeb sydd yn cael ei ecsbloetio a’i aflunio gan y wasg asgell dde.

Mewn magl

Felly mae’r DU mewn magl ffurfiad ei hun. Mae’n berffaith glir yn y diwedd bydd rhaid i’r DU fod  yn y farchnad sengl ac yn UT - un nai i mewn neu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Ond nid i’w ein harweinyddion yn y ddwy blaid nag rhan hynny rhan fwyaf o eu’n  haelodau seneddol wedi gweld hyn eto, neu maen nhw yn ei weld ond yn gwrthod cymryd y camau i wneud e un ffaith.

Os ydi brecsid am oroesi er ei fod yn brosiect ffantasi bydd o’n gorffen gyda chwynfan, ond fydd yn cymryd llawer blwyddyn a llawer o niwed economaidd tan i ni gyrraedd y trwyn. 

Does ‘mond un ffordd i arbed embaras ein gwleidyddion ac ailfywhau ein heconomi a hynna ydi cynnal ail refferendwm ar y gwrthrych terfynol pan mae cost economaidd y del yn cael eu hegluro yn glir.