Monday, 24 April 2017

Ceidwadwyr ar y blaen yng Nghymru

Yn ganol torf o  rhwng 2,000 a 3,000 o ddilynwyr brwd fe ddaeth Jeremy Corbyn i Gaerdydd I ddechrau ei ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol. Dyma’r arweinydd cyntaf i ddod traws clawdd Offa.

Nid hawdd oedd clywed neges arweinydd Llafur roedd y system PA yn warthus, gyda rhai aelodau Llafur yn holi bod swyddogion y blaid yn creu difrod i’w arweinydd trwy natur y trefniant.

Ond fel dywedodd Carwyn Jones mae gan y blaid Lafur “mynydd i ddringo” i ennill grym. Ac mae’r pôl piniwn diweddar yn cadarnhau barn prif weinidog Cymru.

Gobaith Corbyn yw bydd y miliynau o’r aelodau newydd sydd gan ei blaid yn  trechu ar y garreg drws. Fel fase un o gymeriadau Daniel Owen yn dweud “Scarcely believe.”

Yn ôl pôl diweddar ITV Cymru  a Phrifysgol Caerdydd mae'r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen hefo 40%(+12), Llafur 30% (-3), Plaid Cymru 13%(d.n.), Democratiaid Rhyddfrydol 8% (-1), UKIP 6% (-7), Gwyrdd 2% a Gweddill 1% (-1). 

Os trowch yr arolwg i seddi fel mae’r Athro Roger Scully wedi ei wneud bydd yn golygu  y Ceidwadwyr i fyny 10 sedd ar yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda 21 o seddi sydd yn ei gwneud yn blaid fwyaf Cymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith. Y rheswm mwyaf, pleidleiswyr UKIP yn troi atynt.

Llafur i lawr 10 sedd i 15 a dim newid I Blaid Cymru gyda 3 a’r Rhyddfrydwyr Democratiaid yn dal hefo 1.

Y deg sedd base'r Ceidwadwyr yn ennill  base Alun a Dyfrdwy, Pen-y-bont, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, De Clwyd , Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam ac Ynys Môn.


Ond o bosib mae bod yn y blaen gymaint yn mynd i gael effaith ar y rhif o seddi enillwn hwy yn y diwedd. Mae’n gwrth-sythweledol, mwyaf yn y blaen yn y polau llai o seddi enillwch yn y diwedd

Ond dyma rhai elfennau sydd o bosib yn gwneud pethe yn fwy ansicr nag mae'r Athro Scully yn dehongli.

Yn gyntaf y mwyaf byd mae’r polau piniwn yn dangos y Ceidwadwyr yn y blaen mae hun yn mynd i leihau'r nifer sydd yn mynd i droi allan i bleidleisio. Os ydy’r canlyniad yn y ‘bag’ i’r Ceidwadwyr bydd na llai yn dueddol o drafferthu i bleidleisio. Mi fedrwch weld Llafur yn dal ei gafael ar seddi mae’r polau piniwn yn dweud dylent golli am fod y nifer ddaru bleidleisio yn isel.

Mae yna lawer yn casáu Corbyn ond yn gefnogol iawn o rhai aelodau seneddol Llafur yn eu hetholaethau. Beth wnewch chi? Ethol aelod Ceidwadol neu gefnogi aelodau seneddol Llafur sydd yn wrth-Corbyn. Fawr o ddewis, pleidleisio Llafur.

Maen na grŵp arall sydd yn gweld nad yw’n beth iach i’r wlad i adael Teresa May cael eu’i ffordd a rhoi mwyafrif  mawr iddi. Byddan yn cymryd piti ar Lafur wrth weld y polau piniwn ac ar y funud ddiwethaf yn rhoi ei phleidlais i’r iddynt.

Dyna pam rhaid cymryd y canlyniad o droi arolwg barn i seddi hefo pinsiad mawr o halen.

Thursday, 20 April 2017

Pa seddi fydd yn newid dwylo?


Pa seddi fydd o ddiddordeb i’r pleidiau yng Nghymru?

Mae’r ras yn dechrau gyda Llafur hefo 25 sedd, y Ceidwadwyr 11, Plaid Cymru 3, Rhyddfrydwyr Democrataidd 1. Sut fydd hi erbyn y diwedd?

Tro diwethaf yng Nghymru fe enillwyd y Ceidwadwyr 3 sedd 2 oddi wrth Lafur ac 1 oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Fe gollodd Llafur 2 sedd i’r Ceidwadwyr ond enillwyd nwy 1 sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Ond beth am y tro yma? O ddiddordeb mwyaf i ganlyniad yr etholiad ei hun ydi’r ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Yn ôl y polau piniwn mae’r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen gyda mantais o 20% ar Lafur. 

Ceidwadwyr v Llafur

Os fydd hynna yn cael ei throsglwyddo i seddi mae 'na fyny i wyth sedd Llafur yng Nghymru yn edrych yn fregus. Sef Pen-y-bont ar Ogwr ble mae gan Lafur dim ond 4.89% o fwyafrif. Wrecsam Llafur 5.60% ar y blaen; De Clwyd 6.85%; Delyn 7.83%; Alun a Dyfrdwy 8.09%; Gorllewin Casnewydd 9.00%. Ac os fydd pethe yn ddrwg I Lafur ar y noson fe all De Caerdydd 14.6% a Gorllewin Caerdydd gyda mwyafrif 17.7% disgyn. Fase hynna yn ddipyn o sioc, daeargryn gwleidyddol.

Llafur v Ceidwadwyr

Os bydd yna newid byd ar Lafur mae ei gobeithion am ennill yn ôl y Gwŷr lle mae’r Ceidwadwy yn dal y sedd gyda 27 pleidlais (0.10%) a Dyffryn Clwyd gyda mwyafrif o 0.67%. Ar noson dda I Lafur fe fedrwn ennill  Gogledd Caerdydd (4.18%), Gorllewin Caerfyrddin (8.4%) a Preseli Penfro (12.26%)

Pleidiau eraill yn herio'r ddau blaid mawr

Mae Llafur yn cael ei herio hefyd gan Blaid Cymru yn Ynys Môn a gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Ganol Caerdydd.

Os fydd y polau piniwn yn hollol anghywir mi all y
Democratiaid Rhyddfrydol herio’r Ceidwadwyr yn
Brycheiniog Maesyfed (12.73%) a Drefaldwyn (13.77%)

Ac mae’n siŵr bydd Plaid Cymru yn llygadu sedd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yng Ngheredigion. Yr her - mwyafrif o 8.20%.


Ond un peth fydd  yn hollol sicr disgwyliwch yr annisgwyl ar y noson. Dyna sydd yn gwneud etholiad cyffredinol mor ddiddorol. Bydd llawer i geffyl blaen yn cael ei siomi, hwre dywedaf am hynny.

Tuesday, 18 April 2017

Etholiad Cyffredinol 2017

“Rydym angen etholiad cyffredinol ac rydym eisio un nawr.”geiriau Teresa May tu allan i rif deg wrth gyhoeddi etholiad cyffredinol am 8 Mehefin.

Dyna’r u-bedol mwyaf mae’r prif weinidog wedi gwneud erioed. A pwy mae hi yn beio am yr ail etholiad cyffredinol yn ychydig dros 2 mlynedd? Yr wrth bleidiau wrth gwrs.

Mae eisio undod yn San  Steffan tra mae’r wlad yn trafod termau’r ysgariad o Ewrop. Eu bai nwy ydi’r cyfan! Er iddi gael ei ffordd yn rhwydd ar ergydio Erthygl 50.

Na'r unig reswm mae’r dyddiad wedi ei enwi ydi fantais bleidiol, mae’r blaid Geidwadol dros 20 pwnt  ymlaen yn y polau piniwn ac mae hi am chwyddo ei mwyafrif yn Dŷ’r Cyffredin.

Pum gwaith mae wedi mynnu na fydd yna etholiad cyffredinol tan 2020.

Yn Fehefin wrth lansio eu hymgyrch am arweinyddiaeth eu plaid dywedodd “Ni ddylai fod yna Etholiad Cyffredinol tan 2020.”

Wedyn yn Hydref 2016 dywedodd mewn cyfweliad gyda’r BBC “Beth da ni angen ydi sefydlogrwydd. Rydych wedi sôn am y sefyllfa economaidd ac am y farchnad, mewn gwirionedd beth mae’r farchnad eisio ydi sefydlogrwydd.”
Roedd yn iawn ar hwnna o beth fel danom ni’n gweld beth sydd wedi digwydd i’r bunt ers ei chyhoeddiad bore ‘mha.

Fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan yn Dachwedd 2016 “ Mae’n sefyllfa yn hollol  glir ni ddylif fod yna etholiad tan 2020 – dyna ydi dal barn y prif weinidog.”

Eleni yn dechrau mis Mawrth fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan pan ofynnwyd cwestiwn am etholiad cyffredinol buan “Rydio ddim am ddigwydd, rydio ddim yn rhywbeth mae yn cynllunio i neud nag yn dymuno gwneud.”

Ac erbyn diwedd y mis fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan “Does 'na ddim newid y lein safbwynt ar etholiad cyffredinol buan. Ni fydd yna etholiad cyffredinol.”

Beth sydd wedi newid eu meddwl – mantais wleidyddol yn unig. Mae wedi gweld sefyllfa Llafur yn wan ac mae am gymryd mantais. Dim egwyddorion uchel ond oportiwnistiaeth wleidyddol.

Monday, 10 April 2017

Hollt y Ceidwadwyr


Pan benderfynodd Mark Reckless i adael UKIP fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ei fod am ymuno a’i grŵp   yn y Cynulliad.

Fe ddisgrifiwyd yr achos fel rhiw fath o fuddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn y bae – ar unwaith nwy oedd yr wrthblaid fwyaf yn Bae Caerdydd ac roedd Andrew RT Davies nawr yn medru galw ei hun yn ‘arweinydd yr wrthblaid’ - er nad oes y fath beth yn bodoli yn swyddogol.

Swyddogion y grŵp Ceidwadol oedd yn actio fel ‘minders’ i Mark Reckless wrth ei symud o gwmpas y Bae i ddarlledu a rhoi cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau

Ond mae’r brolio nawr wedi troi yn rhywbeth chwerw. Yn gyntaf fe gwynodd aelodau seneddol y blaid Geidwadol nag oedd gan y blaid yr hawl i dderbyn Mark Reckless I fod yn rhan o’r grŵp.

Ac mae’r colofnydd yma ar ddeall fod ffynonellau uchel yn y blaid Geidwadol wedi gofyn I Andrew RT Davies ymddiswyddo dros y mater a bod yr ACau Ceidwadol wedi "peryglu" eu safleoedd wrth ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw.

Wedyn dros y Saboth fe aeth Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay, ar yr awyr i fynegi ei farn. Ac nid farn o gefnogaeth i’w arweinydd yn y bae oedd. Ond cwestiynu nath y bonheddwr o Fynwy ble yn union oedd e'n  sefyll. Nid oedd yn gwybod bellach a oedd yn aelod o grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad yn dilyn y digwyddiadau.

Ac nid e oedd yr unig un o’r grŵp oedd yn anhapus, mi roedd yna dau arall wedi codi eu gofidion am y penderfyniad yn ôl pob tebyg.

Er bod arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynegu nad oedd y cyfansoddiad wedi ei atal er mwyn croesawu Mr Reckless i'r grŵp, a bod y grŵp wedi cytuno'n "unfrydol" i'w groesawu.

Holltiad yn rhenciau’r blaid ydi’r peth diwethaf mae’r Ceidwadwyr eisio wrth ymladd i ennill seddi ar Cynghorau Cymru. Ond mae’n debyg bydd y ffrae rhwng aelodau’r cynulliad ac aelodau seneddol ac arweinyddion y blaid Geidwadol yn Llundain yn rhedeg am dipyn bellach yn sicr.

Roedd yna anhapusrwydd yn erbyn Andrew RT Davies ar ôl canlyniadau sâl etholiad y Cynulliad ac roedd rhai eisio fo ymddiswyddo ar y pryd. Nawr fydd y pwyso yn cynyddu arno i fynd.


Monday, 3 April 2017

Y tlawd sydd yn cael y bwrdwm


Mae George Osborne wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am ei holl swyddi ond ei hen swydd fel Canghellor fydd yn poeni pobol yr wythnos yma. Pam, am y newidiadau  a chreodd i’r tlawd yn ei gyllideb haf 2015.

Yn ôl Child Poverty Action Group (CPAG) dyma’r effaith.

Toriad  1: Budd-dal Tai I bobol ifanc.
Pryd: 4 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Oedran 18 i 21 mi fyddant yn colli’r hawl i fuddsoddiad tai
Faint: £35 miliwn
Toriad 2: Lwfans cynhaliad cyflogaeth
Pryd: Llun  3 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd i’r lwfans cynhaliad cyflogaeth sydd wedi eu barnu i fod yn abl i weithio, mi fyddant yn colli  £1,510 y flwyddyn.
Faint: £350 miliwn
Toriad 3: Cyfyngu budd I Ddau Blentyn
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd am Gredydau Cyffredinol, credydau treth i blant a budd-dal tai yn cael ei chyfyngu i ddau blentyn yn unig. Bydd yn effeithio 500,000 o deuluoedd erbyn  2019 ac yn golygu bydd yna golled o £2,780 i bob plentyn anghymwys. Yn ôl CPAG mae’n “torri'r cysylltiad rhwng cymorth ac angen” yn y system budd-daliadau a fydd yn golygu mi fydd yn  gwthio t200,000  o deuluoedd i dlodi.
Faint:£1.2 biliwn
Toriad 4: Credyd treth plentyn elfen deuluol ac elfen y plentyn cyntaf yn y Credyd Cyffredinol
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: mae’r ddau fudd yn cael ei sgrapio i geiswyr newydd. Bydd yn gadael 970,000 o deuluoedd  £545 y flwyddyn yn dlotach erbyn 2019.
Faint: £540 miliwn
Toriad 5: Buddion Profedigaeth
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be:  Bydd y “taliadau buddion profedigaeth” newydd yn golygu bod 91% o rieni yn cael ei chefnogi am lai o amser a bydd 75% yn  cael llai o arian -   £12,000 y flwyddyn i’r rhiant sydd yn gweithio.
Faint: £100 miliwn

Mae’r cyfanswm yn creu toriadau o £2.1 biliwn fydd yn effeithio canodd ar filoedd o bobol o’r wythnos yma ymlaen

Annhebyg iawn fyddwch yn darllen y stori yma yn yr Evening Standard.…

Monday, 27 March 2017

Prinder nyrsys


24,000 ydi nifer o swyddi gwag nyrsio ym Mhrydain yn ôl Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN). Ac yn ôl yr RCN mae Brexit wedi gwneud  prinder nyrsys yn waeth.

Mae dadansoddiad gan yr RCN yn dangos llai na 200 o nyrsys o’r UE y mis yn cofrestru gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth rhwng Medi a Rhagfyr 2016. Mae hun yn cymharu ag 800 y mis yn yr un cyfnod yn 2015.

Nid yn unig bod yna cwymp yn y recriwtio ond mae yna 2,700 o nyrsys o’r UE wedi gadael cofrestr y nyrsys yn wirfoddol.

Eglurodd Janet Davies Prif Swyddog y RCN y broblem. “Mae Llywodraeth y DU yn troi i ffwrdd y cyflenwad o nyrsys cymwysedig o gwmpas y byd ar yr union bryd mae’r gwasanaeth iechyd mewn argyfwng fel erioed o’r blaen.”

Fe scrapwyd George Osborne tra yn Ganghellor y bwrsariaethau i nyrsys dan hyfforddiant o ganlyniad roedd y ceisiadau am gyrsiau gradd nyrsio i lawr 20%.

Piti fase rhywun ddim yn addo gwario £350m ecstra yr wythnos ar y gwasanaeth iechyd fase huna yn ddigon i gyflogi 600,000 o nyrsys ychwanegol.


Monday, 20 March 2017

Amser gwell i ddyfod? neu Omnishambles

“Dwi yn gwneud fy ngwaith wedi ei selio ar ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol ac i ffwrdd o hun mi roddaf atebion sy’n ffeithiol ac yn gywir. Nid llinellau  sydd yn cael ei thaflu allan.”

Dyna sut dechreuodd yr ysgrifennydd Brexit David Davis wrth bwyllgor Brexit Tŷ’r Gyffredin wythnos diwethaf. Gwir dweud ar ôl yr agoriad positif yna i lawr aeth ei dystiolaeth.

Bron ar unwaith roedd rhaid I Davis cyfaddef nad oedd ei lywodraeth wedi gwneud asesiad economaidd o effaith gadael yr UE heb gael bargen ar fasnachu – er I Terresa May dweud “Fase dim bargen yn well na bargen wael.”

Ac er mewn twll, dal i gloddio y gwnaeth. Pan ofynnwyd iddo pam nag oedd yna asesiad, ei ateb “Mae’r pethe yma yn cael eu gwneud darn fel darn. Ar ôl creu'r bloc Lego, mi adeiladwn y tŷ.”

Er i ddeddf Brexit cael ei basio dywedodd y gwleidydd bydd yn cymryd dipyn hirach i weithio allan yr effaith economaidd,  “Fedra I ddim mesur ichwi'r manylion eto, mae’n bosib y medraf wneud hun pen rhyw flwyddyn.”

Pan ofynnwyd iddo eto a oedd o yn bersonol wedi gwneud asesiad o effaith gadael yr UE heb fargen, dywedodd “Mae gennyf farn eithaf clir sut bydd yn gweithio allan. Dwi jest ddim wedi ei dadansoddi eto.”

Fe aeth ymlaen i ddweud “ does ddim rhaid cael darn o bapur gyda rhif arno i gael asesiad economaidd.”

Fe drïodd cysuro'r pwyllgor drwy ddweud “ Bu imi dreulio rhan fwyaf o’m mywyd yn gweithio fel dyn busnes cyn dod i wleidyddiaeth. Yn amyl da chi’n gwybod beth sydd yn fargen dda er ichwi ddim cael y ffigyrau.”

Mae diffyg “ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol” yn dweud y cwbl mi dybiwn. Mae’n debyg bod David Davis yn gweithio ar well yr hun a fegir na’r hyn a brynir.



Monday, 13 March 2017

Arian da i rhai

Ar ddiwrnod y Gyllideb fe roedd yna ddatganiad arall. Yn gyfleus iawn fe gyhoeddwyd swydd newydd George Osborne.

Tra roedd  Philip Hammond yn difyrru’r genedl gyda’i gyllideb gyntaf fe gyhoeddwyd tri chofnod newydd yn gofrestr diddordebau Aelodau Seneddol gan ei rhagflaenydd fel Canghellor.

Roedd un yn dangos bod Osborne wedi ei gyflogi fel ymgynghorydd gan gwmni  rheolaeth Blackrock, bydd yn cael ei dalu “£162,500 y chwarter am ymrwymiad o 12 diwrnod y chwarter.”

Mae hwn yn gweithio allan fel cyflog o £13,541 y diwrnod, neu £54,166 y mis neu glamp o £650,000 y flwyddyn  – am weithio un diwrnod yr wythnos. Wrth gwrs mae hwn ar ben ei gyflog  o £74,962 fel Aelod Seneddol.

Ond ydi ei threfniant gyda Blackrock ddim yn edrych yn rhy dda i gymharu â faint mae wedi cael fel ffi am ddarlithio.

Mae 'na ddau gofnod arall yn y gofrestr yn dangos bod yr AS Torri dros Tatton wedi cael  £51,082 gan gymdeithas fasnach a diwydiant Fflandrys a £15,081 gan Fanc Lloyds am siarad â hwy.

Mae hyn yn gwneud 10 araith ers cael y sac gan Theresa May Gorffennaf diwethaf.

Mae hun yn golygu ei fod wedi pocedi
£771,367 mewn ffioedd siarad am weithio 32 awr – yn golygu £24,105 yr awr.

Wel y cyfoethog sydd yn cael y pleser ar dlawd yn cael y bai, neu fel dywed yr hen ddihareb Cyfoeth, fel gelyn a ddwg ei gyrch ar y gwannaf.


Friday, 27 January 2017

Ar ol y dyfarniad


Ar ôl dyfarniad y Goruchaf Lys na allai Terresa May tanio erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd heb ganiatâd y senedd mae’r pantomeim yn symud yn ôl i San Steffan. Fe gyhoeddwyd y bil sef y European Union (Notification of Withdrawal) Bill.

Yn sicr mae’r fantais gyda llywodraeth May yn y senedd pan mae’n dod i ddeddfwriaeth. Mae’r prif weinidog  wedi ceisio mynnu bod y senedd yn cael rôl finimal yn broses erthygl 50 ac er  y consesiwn diweddara bod y senedd yn cael pleidlais ar y fargen derfynol mae hynna yn llai o gonsesiwn na fase rhywun yn tybio gan ei fod yn ddewis rhwng derbyn bargen gwael neu dim bargen o gwbl.

Ar y llaw arall mae May wedi cyngwystlo llawer o’i chredadwyaeth ar drigir Erthygl 50 cyn diwedd Mawrth ac felly fydd ddim yn hapus os fydd y broses seneddol yn dal ei hamserlen i fyny.

Mae 'na ddau ddiwrnod wedi ei chlustnodi i ail ddarlleniad y bil – fydd hun yn canolbwyntio ar yr egwyddor o adael y UE. Er bydd na phleidlais ar y diwedd bydd hun yn fawr o broblem i’r llywodraeth ac mae nwy yn annhebyg o golli’r bleidlais.

Y broblem i’r llywodraeth ydi’r cam pan mae’r mesur yn y pwyllgor sydd yn cymryd lle ar lawr y Tŷ. Mae 'na lawer i welliannau ar eu ffordd – gan Lafur, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol ac efallai rhai aelodau Ceidwadol sydd yn hollol yn erbyn gadael Ewrop. Yn amyl mae cam y pwyllgor yn un cynhyrfus gyda llawer o welliannau yn cael ei thrafod ar yr un amser. Mae yn bosib bydd Tŷ Cyffredin yn rhoi amser caled i’r llywodraeth ar yr achlysur.

Ond heb os yn Dŷ’r Arglwyddi fydd y sialens fwyaf i’r llywodraeth. Fe all y llywodraeth dominyddu’r Tŷ Cyffredin ond nid oes ganddynt fwyafrif yn yr Arglwyddi. Felly nid oed ganddynt reolaeth ar  amserlen y bil. Fe allai’r Arglwyddi cymryd llawer fwy o amser i ddadlau’r mesur na fase'r llywodraeth yn dymuno ac o bosib mynd  heibio terfyn amser Mawrth. Bydd rhaid i’r llywodraeth penderfynu un a’i rhoi consesiynau i’r gwrthbleidiau neu golli eu hamserlen.

Ond nid dechrau’r broses fydd y gwir frwydr ond y broses trafod wedyn.  Mae’r bil wedi cael ei linio yn gyfyng er mwyn lleihau’r gwelliannau.

Mi fydd yn ddiddorol gweld pa mor dyn y bydd y ddeddf gan mae yn rhaid i’r gwelliannu bod mewn cwmpas y bil.  Y Dirprwy llywydd Lindsay Hoyle bydd yn cadeirio’r cam y pwyllgor a fydd i fyny iddo fo yn unig benderfynu fain o welliannau fydd yn cael eu derbyn. Cawn weld wedyn pa mor llwyddiannus mae’r llywodraeth wedi bod gyda llunio ei bil yn dynn. 

Mae llawer yn dibynnu os oes 'na wahaniaeth cyfreithiol clir yn y bil rhwng hysbysiad ar drafodaethau. Os fydd aelodau seneddol  yn medru llunio gwellianna sydd yn delio ar drafodaethau bydd hyn yn agor y liforddau a bydd y llywodraeth o dan bwysau mawr i loywi ei chynlluniau ar Brexit a chryfha rôl y senedd yn yr holl broses.

Bydd brexit yn cymryd ein sylw am beth amser eto a fydd yna fwy o niwl nag oleuni mae ofn. Gwael y peth ni chael ei ofyn.



Thursday, 19 January 2017

Trugaredd i fwy na Chelsea Manning


Fe newidwyd Barak Obama yn ei ddyddiau olaf fel Arlywydd y ddedfryd o 35 mlynedd o garchar ar Chelsea Manning. Mi fydd Ms Manning a chafodd rhan o’i haddysg yn Sir Benfro yn cael ei rhyddha Mis Mai.

Disgrifiwyd Stephen Crabb AS Benfro'r "Gweithred o drugaredd a thosturi yn nyddiau olaf arlywyddiaeth Obama. Bydd ffrindiau a theulu Manning yn fy etholaeth yn croesawu hyn."

Ychwanegodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd: "Newyddion gwych i Chelsea, ei theulu a'i ffrindiau fu'n ymgyrchu mor galed. Diolch yn fawr i'r Arlywydd Obama."

Ond roedd gan Obama fawr o drugaredd at un arall sydd wedi ei garcharu ers saith degau'r ganrif ddiwethaf sef yr actifedd dros hawliau'r Indiaid Americanaidd, Leonard Peltier.  Bron  sicr mae ei gyfle olaf o gael ei rhyddid wedi diflannu gyda’r penderfyniad. Er I’r Pab ofyn I Obama ei rhyddhau.

Bu cafodd Peltier yn euog o  lofruddio dau asiant FBI ar ôl brwydr saethu yn Diriogaeth Indiaid Americanaidd Pine Ridge yn De Dakotsa yn 1975.

Mae rhai yn gweld y penderfyniad fel symbal o’r gamdriniaeth o’r Indiaid Americanaidd yn system cyfiawnder troseddol yr UD; tra mha eraill yn ei weld fel llofruddiwr a ddylai dal talu ei ddyled i’r gymdeithas.

Mae Peltier erioed wedi haeru ei ddiniweidrwydd ac mae cefnogaeth llawer drwy’r byd yn cynnwys y Pab.
Ond yn fwy pwysig roedd Atwrni yr Unol Daleithiau oedd yn rhan o’r erlyniad wedi annog Obama I roi trugaredd I Peltier wrth sgwennu yn y Chicago Tribune fe ddywedodd James Reynolds “Er nad ydi unrhyw brawf yn berffaith  roedd un Peltier yn anarferol o drwblus, yn enwedig o edrych yn ôl……Roedd yr achos yn un tenau ac yn annhebyg o gael ei gynnal yn y llysoedd heddiw. Mae yn llwyr gorbwysais i labeli Peltier fel ‘llofrydd gwaed oer’ ar y ffeithiau a’r ychydig prawf ddaru oroesi’r apeliai yn yr achos.”

Fase rhywun yn meddwl bod 41 blynedd yn y ddalfa yn ddigon o gosb ac mae penderfyniad Obama yn un sydd yn un siomedig.


Fel dywedodd John Ryan cyn asiant yn yr FBI tra yn annog I Obama I weithredu trugaredd “Fel y mwyafrif o asiantau yr FBI, fe ymunais ar asiantaeth I gwneud y byd yn well lle. Roedd yn credu yr amser honno fel rwyn credu nawr bod yn yr America gwerthoedd am cyfiawnder a tecwch, ond wrth edrych yn ol tros y 41 blynedd dwi yn gweld yr un yn achos Peltier.”

Wednesday, 11 January 2017

Ail-lansio Jeremy Corbyn

Gyda mwyafrif o aelodau'r blaid Lafur eisio aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond hen gadarnleoedd Llafur wedi pleidleisio i adael Ewrop mae arweinydd Llafur mewn sefyllfa anodd fel dyweded yr hen ddihareb ‘rhwng y dyn a thinau’r gwartheg.’ Ac fel mae’r polau piniwn yn dangos mae cefnogaeth i’r blaid Lafur yn isel sydd yn tan linellu'r teimlad bod Llafur wedi colli ei ffordd ac yn ansicr  i ba gyfeiriad i symud.

Fe fy Jeremy Corbyn yn crwydro’r stiwdios ac yn annerch cyfarfod yn Peterborough I geisio ennill tir i’w blaid. Roedd y cyfan yn cael ei ddisgrifio fel  “ail-lansiad” o ymgyrch Jeremy Corbyn.

Ar Ewrop roedd Corbyn yn cofleidio’r syniad o adael Ewrop.
 Dywedodd bod y Torïaid am flynyddoedd wedi cuddio heibio rheolau'r UE ar gymorth gwladol gan nad oeddent eisio ymyrryd. “Ond mae rheolau’r UE yn amyl yn rhwystro gweithredu ar gymorth i’r economi, swyddi gweddus a safonau byw.”

'Lexit' y chwith

Beth oedd yn ceisio cyflawni oedd y syniad o “Lexit” – ymadawiad asgell chwith o’r UE wedi ei sefydlu ar egwyddorion sosialaidd. Mae ceisio derbyn realiti canlyniad y refferendwm yn gwneud synnwyr ond yn sicr fydd yn cael ei ddefnyddio gan ei elynion i geisio dweud bod Corbyn yn sgeptig ar Ewrop o’r dechrau er iddo ddweud ddoe bod e wedi pleidleisio i aros yn y clwb.

Ond roedd eisio aros yn y farchnad sengl ac o ganlyniad roedd llafur mudol yn debyg i fod yn rhan o gost o aros yn y farchnad. Er hynny roedd yn fodlon derbyn y ffaith bod yna pryderon can llawer ar mewn mudo ac roedd yn “fodlon derbyn rheolaeth resymol ar mewn mudo.” Symudiad go fawr o’i  safiant ar y pwnc yn y gorffennol. Er iddo geisio chwarae i lawr y newid a mynnu bod o yn dal at ei egwyddorion gwreiddiol.

Cap ar gyflog

Ond nid Ewrop a gafodd y sylw mwyaf ond ei gynllun beiddgar sosialaidd i roi cap ar gyflog y gor-gyfaethog. Mae hyn yn sicr o fod yn boblogaidd gyda llawer iawn o bobol gyffredin sydd yn grac gydag anghydraddoldeb cyflogau.

Er bod yn ‘soundbite’ da, ond fel polisi mae’n debyg o fod yn un anodd i weithredu. Bydd yr un cwyn yn cael ei ddweud ag oedd yn cael ei ddweud am Ed Miliband bod e’n  ‘gwrth-dyheadol.’

Ond yn sicr mae e wedi llwyddo cael sylw ac mae’n rhan o’r ail brandio o Corbyn er mwyn gadael “Corbyn I fod yn Corbyn” er mwyn ennill tir yn bolau a cheisio manteisio ar y teimlad poblyddol  a gwelwyd y bleidlais Brexit ac ethol Trump tros yr Iwerydd. Amser a ddengys a fydd hun yn llwyddiannus ond bydd ei dîm mewnol yn hapus a sylw y cyfryngau a gafodd ei ymdrechion.