Mae George
Osborne wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am ei holl swyddi ond ei hen swydd
fel Canghellor fydd yn poeni pobol yr wythnos yma. Pam, am y newidiadau a chreodd i’r tlawd yn ei gyllideb haf
2015.
Yn ôl Child Poverty Action Group (CPAG) dyma’r
effaith.
Toriad
1: Budd-dal Tai I bobol ifanc.
Pryd: 4
Ebrill
Pwy fydd yn
colli be: Oedran 18 i 21 mi fyddant yn colli’r hawl i fuddsoddiad tai
Faint: £35
miliwn
Toriad 2: Lwfans cynhaliad cyflogaeth
Pryd: Llun 3 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd i’r
lwfans cynhaliad cyflogaeth sydd wedi eu barnu i fod yn abl i weithio, mi
fyddant yn colli £1,510 y
flwyddyn.
Faint: £350 miliwn
Toriad 3: Cyfyngu budd I Ddau Blentyn
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd am
Gredydau Cyffredinol, credydau treth i blant a budd-dal tai yn cael ei chyfyngu
i ddau blentyn yn unig. Bydd yn effeithio 500,000 o deuluoedd erbyn 2019 ac yn golygu bydd yna golled o
£2,780 i bob plentyn anghymwys. Yn ôl CPAG mae’n “torri'r cysylltiad rhwng
cymorth ac angen” yn y system budd-daliadau a fydd yn golygu mi fydd yn gwthio t200,000 o deuluoedd i dlodi.
Faint:£1.2 biliwn
Toriad 4: Credyd treth plentyn elfen deuluol ac elfen y plentyn cyntaf yn
y Credyd Cyffredinol
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: mae’r ddau fudd yn cael
ei sgrapio i geiswyr newydd. Bydd yn gadael 970,000 o deuluoedd £545 y flwyddyn yn dlotach erbyn 2019.
Faint: £540 miliwn
Toriad 5: Buddion Profedigaeth
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Bydd y “taliadau buddion profedigaeth”
newydd yn golygu bod 91% o rieni yn cael ei chefnogi am lai o amser a bydd 75%
yn cael llai o arian - £12,000 y flwyddyn i’r rhiant
sydd yn gweithio.
Faint: £100 miliwn
Mae’r cyfanswm yn creu toriadau o £2.1 biliwn
fydd yn effeithio canodd ar filoedd o bobol o’r wythnos yma ymlaen
Annhebyg
iawn fyddwch yn darllen y stori yma yn yr Evening Standard.…
No comments:
Post a Comment