Pan benderfynodd Mark
Reckless i adael UKIP fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ei fod am ymuno a’i grŵp yn y Cynulliad.
Fe ddisgrifiwyd yr achos fel
rhiw fath o fuddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn y bae – ar unwaith nwy oedd yr
wrthblaid fwyaf yn Bae Caerdydd ac roedd Andrew RT Davies nawr yn medru galw ei
hun yn ‘arweinydd yr wrthblaid’ - er nad oes y fath beth yn bodoli yn swyddogol.
Swyddogion y
grŵp Ceidwadol oedd yn actio fel ‘minders’ i Mark Reckless wrth ei symud o
gwmpas y Bae i ddarlledu a rhoi cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau
Ond mae’r brolio nawr wedi
troi yn rhywbeth chwerw. Yn gyntaf fe gwynodd aelodau seneddol y blaid
Geidwadol nag oedd gan y blaid yr hawl i dderbyn Mark Reckless I fod yn rhan
o’r grŵp.
Ac mae’r colofnydd yma ar
ddeall fod ffynonellau uchel yn y blaid Geidwadol wedi gofyn I Andrew RT Davies
ymddiswyddo dros y mater a bod yr ACau Ceidwadol wedi "peryglu" eu
safleoedd wrth ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw.
Wedyn dros y Saboth fe aeth
Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay, ar yr awyr i fynegi ei farn. Ac
nid farn o gefnogaeth i’w arweinydd yn y bae oedd. Ond cwestiynu nath y bonheddwr o Fynwy ble yn union oedd e'n sefyll. Nid oedd yn gwybod bellach a oedd yn aelod o grŵp Ceidwadol yn
y Cynulliad yn dilyn y digwyddiadau.
Ac nid e oedd yr unig un o’r
grŵp oedd yn anhapus, mi roedd yna dau arall wedi codi eu gofidion am y
penderfyniad yn ôl pob tebyg.
Er bod arweinydd y
Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynegu nad oedd y cyfansoddiad wedi ei atal er mwyn
croesawu Mr Reckless i'r grŵp, a bod y grŵp wedi cytuno'n "unfrydol"
i'w groesawu.
Holltiad yn rhenciau’r blaid
ydi’r peth diwethaf mae’r Ceidwadwyr eisio wrth ymladd i ennill seddi ar Cynghorau Cymru. Ond mae’n debyg bydd y ffrae rhwng aelodau’r cynulliad ac
aelodau seneddol ac arweinyddion y blaid Geidwadol yn Llundain yn rhedeg am dipyn
bellach yn sicr.
Roedd yna anhapusrwydd yn
erbyn Andrew RT Davies ar ôl canlyniadau sâl etholiad y Cynulliad ac roedd rhai
eisio fo ymddiswyddo ar y pryd. Nawr fydd y pwyso yn cynyddu arno i fynd.
No comments:
Post a Comment