Saturday 30 March 2013

Rasys y dydd


Gwledd o rasys heddiw a digon o chwaraeon eraill i blesio pawb.

Ar ôl y siomedigaeth yn y Liberty nos Fawrth gobeithio bydd na well hwyl ar bethau heddiw.

Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Spurs. Bydd dau o dîm Cymru yn wynebu ei gilydd sef Bale a Davies. Ar yr achlysur yma rydym yn gobeithio na fydd Bale ar ei ora. Bydd amddiffynnwr ifanc Abertawe Ben Davies ar dasg o ddarostwng seren y Spurs.
Bydd yn ddiddorol  gweld sut eith at y gwaith. 

Mae Bale wedi bod mewn hwyl aruthrol yn ddiweddar, er ei fod wedi methu gôl rwydd dydd Mawrth i’r tîm cenedlaethol. Bydd ar ei orau i’w glwb rwyn tybio £. Mae Bale yn sicr o fod yn her i chwaraewr pedwar ar bymtheg,  Abertawe. Bydd yn brawf mawr i’r gŵr ifanc sydd wedi disgleirio i’w dîm eleni. 

Mae ei gyd chwaraewr Michu wedi rhoi Abertawe ar rybudd ei fod am cloi ei yrfa pêl-droed yn ei gyn clwb, Real Oviedo. Rwn siŵr bod yr Elyrch yn gobeithio bydd na ychydig mwy o gôliau allan o’r Sbaenwr cyn hynny.

Caerdydd yn ymweld â Peterboro sydd jest trydydd o’r gwaelod. Mi ddylai fod yn rhwydd i Gaerdydd ond mae unrhyw dîm yn beryg pan mha nhw yn ymladd i gadw ei hunan yn y cynghrair. Felly fydd Peterboro ddim yn gwneud hi’n rhwydd i Gaerdydd.

Mae 'na o hyd dipyn o ddisgynneb ar ôl ennill cwpan ond fedrith Wrecsam ddim fforddio rhedeg allan o stem os ydynt am ennill eu lle yn ôl yn y Gynghrair Lloegr. Maen nhw i ffwrdd yn ymweld â Hyde heddiw. Casnewydd adref yn erbyn Dartford.

A Bangor adref yn erbyn  Porth Talbort. Gobeithiwn am y gorau!

Nawr am y pethau pwysig, y rasys. Ar ôl i’r tywydd ein siomi wythnos diwethaf mae 'na wledd yn ein disgwyl heddiw. Cawn weld os fedrwn ni wella ar y pedwar a enillwyd wythnos diwethaf yn Southwell.

Yn olaf ras  Cwpan y Byd Dubai. Pwy fase’n meddwl rhyw hanner canrif yn ôl bod darn bach o anialwch yn Arabia yn mynd i gynnal ras ceffylau cyfoethoga’r byd. Dyna wahaniaeth mae ein dibyniaeth ar olew yn ei wneud. Ta waeth, yn ôl at y ras £3,680,982 o wobr. Werth ei gael yn y poced cefn. A’n ddau ddewis Hunters Delight a Royal Delta. Cewch ei weld ar C4.

Gweddill y dewis. Oll ar C4

1.55 Doncaster Dubai Hills
2.05 Haydock Monsieur Cadou
2.20 Kempton Robin Hoods Bay (NAP)
2.40 Haydock Capellanus
2.55 Kempton Buckland (NB)
3.05 Doncaster Strictly Silver ( Y Lincoln a gohirwyd oblegid yr eira) 
3.35 Musselburgh Newstead Abbey
3,50 Haydock Frontier Spirit

Y Grand National wythnos nesaf, digon o ddewis.

Saturday 23 March 2013

Wrecsam a'r fflat


Fel sylwebydd gwleidyddol rwy’n cael amyl i E-bost nad wyf yn cytuno o gwbl ar gynnwys. Ond ddoe cefais y canlynol gan Lywydd y Cynulliad ac rwy’n cytuno cant y cant a hi. Na chi wyrth, fi'n cytuno a gwleidydd.
Y cynnwys.
“Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gobeithio mai Clwb Pêl-droed Wrecsam a fydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Tlws yr FA ddydd Sul (24 Mawrth).
Bydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Tref Grimsby ar yr achlysur cyntaf iddynt gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley.
“Mae Wrecsam wedi gwneud camp aruthrol i gyrraedd y rownd derfynol,” meddai Rosemary Butler, y Llywydd.
“Mae Andy Morrell yn cael cryn lwyddiant gyda’r tîm, sydd hefyd yn gwneud ymdrech fawr i ennill cystadleuaeth y Gyngres a chael ei ddyrchafu yn ôl i’r Gynghrair Bêl-Droed.
“Mae’n dymor ardderchog i’r cefnogwyr, yn enwedig o ystyried y problemau y mae’r clwb wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rwyf yn hynod falch ei fod bellach yn llwyddo gryn dipyn ar y cae a hoffwn ddymuno’n dda i’r tîm yn y gêm dyngedfennol hon yn Wembley.”
Fedrwn ddim i ddweud o’n well, Rosemary a chithau o Gasnewydd hefyd. C’mon Wrecsam. 
Mae stadiwm pêl-droed Wembley bron a bod yn faes cartref i lawer o glybiau Cymraeg.  Mae lluniau’r blog heddiw cwrteisi fy nghyfaill Lynn Courtney pan aeth hi i Wembley fel sylwebydd. Hi'n darlledu ar ymweliad yr Elyrch i’r stadiwm yn ddiweddar.


Abertawe a Caerdydd yn cael seibiant gan fod hi’n benwythnos gemau rhyngwladol. Buddugoliaeth wych i Gymru neithiwr, beth fedrai ddweud ond bod hen bryd imi ddysgu Portiwgaleg.  
(llun o drydar Cyngor Bêl-droed Cymru)

Heb Bale yn yr ail hanner,  dwy gôl yn dilyn. Nid tîm un dyn yw Cymru Bachgen Caerffili Ramsey a pheniad gwych gan Robson-Kanu. Ac ymddangosiad cyntaf Jonny Williams seren y dyfodol. Mi fyddaf yn Abertawe i’w cefnogi yn erbyn Croatia Mercher nesaf. C’mon yr hogiau. Mae 'na fwy o fanylion am yr em ar y blog yma a chewch yn bapurau newydd Lloegr. Siom arnynt ond dim syndod.
Mae Bangor i fod ac ymweld â Phrestatyn ond go brin fydd na unrhyw gic, y tywydd wrth gwrs fydd yn fuddugol. Nawn ni ddim sôn am ganlyniad wythnos ddiwethaf yn erbyn TNS. Mha rhai pethau yn well eu hanghofio rhwng ffrindiau, ac yn o sydyn hefyd. 

Ac os ydych eisio rhywbeth mwy cyflym na cheffylau.  Y 'Grand Prix' ym Malaysia am dani. Y cyfan yn fyw ar Sky Sport. 


Fydd Fernando Alonso digon o foi i gipio'r wobr eto lenni? Mae'n debyg na'r tîm sydd yn medru newid teiars yn sydyn fydd ar fantais. Pam? Mae hi'n addo tri diwrnod o ddyranna a glaw trofannol. Mwy o law na Chymru? Chwiliai ddim.


Nawr am fater holl bwysig y diwrnod, pa geffyl yw bacio. Er yr holl dywydd gaeafol ga’ i gyhoeddi bod tymor yr haf wedi cyrraedd. Ok ddim yn hollol ond mae tymor rasys y fflat wedi dechrau ddoe yn Doncaster. Ond dim byd heddiw, ormod o eira. Gobeithio cawn haf llwyddiannus. Buddugoliaeth dros y bwci di'r nod. Cawn weld.


Ond yn ôl at bethau wrth law, fy newis heddiw. Dim ond Southwell sydd ar gael. Ac fel arfer rasys a welwch ar C4 ydynt. Beth amdani S4C? Beth am wasanaeth i gamblwyr Cymru?
1.25 Royal Skies
2.00 Petrol
2.35 Man of my Word
3.10 Dubai Hills
3.45 Mataajr
4.20 Bispham Green
4.50 Putin

Gwell lwc na'r tywydd, gobeithio.


Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/



Friday 15 March 2013

Y stadiwm a mwy



Stadiwm y Mileniwm fydd yn cael sylw’r genedl heddiw. A fydd ein tîm cenedlaethol digon da i rwystro’r hen elyn gael y ‘grand slam’ ar goron triphlyg. Mae’n ‘na ots o 3/1 ar fuddugoliaeth i Gymru eu rhwystro. Beth amdani? Arian a buddugoliaeth, a fydd yna well Sadwrn.

I lawr yr M4 gem fawr i Abertawe. Arsenal fydd yr ymwelwyr. Bydd y ‘Gunners’ yn trio cael ei chais o orffen yn y pedwar uchel o’r cynghrair yn ôl ar drac ar ôl gael ei bwrw allan o Gynghrair Pencampwyr  Ewrop yn yr wythnos.

Mae Michael Laudrop yn gobeithio gael Leon Britton yn y tim ers ei anafiad yn West Brom lle cafoodd y tim ei twyllo o gol i wneud y canlyniad yn gyfartal. Wel, dyna ydi pel droed, cymysgedd o sgi`l a lwc.

Bydd Caerdydd yn teithio i Swydd Efrog i drio gwella ar ei chanlyniadau diwethaf yn erbyn  Sheffield Wednesday. Dave Jones cyn rheolwyr Caerdydd sydd nawr yn rheoli'r tîm cartref. Does ganddo ddim problem gyda'i ddewis neb wedi ei hanafu ond mae’n colli  Connor Wickham  sgoriwr  y gôl fuddugol iddynt yn erbyn Leicester. Mae wedi cael ei alw yn ôl i Sunderland gan fod ar fenthig i Wednesday

Nid felly Caerdydd. Mae’r capten Mark Hudson ai partner canol yr amddiffyn Ben Turner mewn amheuaeth am y gêm. Dyna pam mae Malky Macay wedi arwyddo amddiffynnwr o Norwich sef Leon Barnett am fis i lenwi’r bwlch.
Mae’r ‘Gleision’ neu’r ‘Cochion’, cymerwch eich dewis, wedi rhedeg allan o stem yn ddiweddar. A’i heddiw byddent yn dod o hyd i’w hwyl unwaith eto?

 Y gêm fwyaf pwysig y dydd wrth gwrs fydd yr ail yn erbyn y cyntaf yn gynghrair Cymru. TNS adref a rhoi croeso  i Fangor. C’mon y ddinas.

Ac ar ôl hwyl a sbri Cheltenham ein traed yn ôl ar y ddaear yn Uttoxer a Lingfield. Beth fedrai ddweud ond rhoi ichwi fy newis am y diwrnod. Dyma graff ar dipwyr gorau Cheltenham


Dewis y dydd i gyd i’w gweld ar C4. C'mon S4C beth amdani rasys ceffylau i Gymry Cymraeg eu hiaith.


2.05 Uttoxeter                       Rocky Elsom/Khazium

2.20 Lingfield (pob tywydd)   Intransigent(nb)/Farmleigh      House

2.40 Uttoxeter                       Savant Bleu/ Grouse Lodge

2.55 Lingfield (pt)                  Ashamaly/Hoarding

3.15 Uttoxeter                       Connectivity/ The Tracey Shuffle

3.30 Lingfield (pt)                  Farraaj(nap)/ Robin Hood Bay

3.50 Uttoxeter                       Master Overseer/ Cool Operator


Pob Hwyl, Joiwch


Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb y “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/

Y cwpan aur



Diwrnod y cwpan Aur. Uchafbwynt yr wythnos. Pwy fydd yn dilyn rhai o’r mawrion a hefyd y bisâr sydd wedi ennill y ras? Ras a enillwyd gan Arkle yn 1966 neu ar ben arall o’r sbectrwm Norton’s Coin ar ots o 100/1 yn 1990.

Un peth sydd yn sicr mae’r tair milltir a chwarter y ras yn mynd i ddangos unrhyw ddiffyg yn y cystadleuwyr.

Wel pwy amdani felly? Bobs worth sydd wedi bod ar frig y farchnad ers ennill yr Hennessy. Peidiwch anwybyddir hen Long Run enillodd dwy flynedd yn ôl a bydd yn y pedwar cyntaf heddiw mi dybiwn. Ond imi Siviniaco Conti ydi’r un. Mi oedd ar yr ymylon hefo amcangyfrif o 154 nawr maen 175 ac yn swyddogol y ceffyl gorau yn y ras. Yn anffodus ydi cael y teitl o fod yn orau yn cyfri dim ar y diwrnod. Ond mae wedi ennill tair ras helfa'r tymor yma.

Os ydych "outsider" beth am enillydd y Grand National Cymraeg sef ceffyl a hyfforddwyd gan Michael Scudmore  Monbeg Dude.Yr ots, 66/1.

Roedd ddoe yn ddiwrnod uffernol ran enillwyr, ces aml i le. Ond colli ychydig o arian roedd y stori, gobeithio bydd diwrnod olaf yr ŵyl yn un mwy ffafriol. Rwy’n ffyddiog bydd pethau yn gwella. Wrth gwrs mae bob gamblwr yn canu’r un gân . 


1.30 Far West(Nb)/Rolling Star

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Rolling Star
Telegraph
Our Conor
The Guardian
Far West
Daily Mail
Our Conor
The Express
Rolling Star
Daily Mirror
Rolling Star
The Sun 
Rolling Star
The Star
Our Conor


2.05 Tankero Emery/Ifandbutwhynot

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Manyriverstocross
Telegraph
Olofi
The Guardian
Ifandbutwhynot
Daily Mail
Ifandbutwhynot
The Express
Ranjaan
Daily Mirror
Ifandbutwhynot
The Sun 
Ifandbutwhynot
The Star
Tennis Cap


2.40 At Fishers Cross/O’Faolain’s Boy

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
At Fishers Cross
Telegraph
African Gold
The Guardian
At Fishers Cross
Daily Mail
Cloudy Copper
The Express
Ballycasey
Daily Mirror
At Fishers Cross
The Sun 
African Gold
The Star
Ballycasey


3.20 Silviniaco Conti(Nap)/Bobs Worth

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Bobs Worth
Telegraph
Silviniaco  Conti
The Guardian
Bobs Worth
Daily Mail
Bobs Worth
The Express
Bobs Worth
Daily Mirror
Bobs Worth
The Sun 
Sir Des Champs
The Star
Silviniaco  Conti


4.00 Salsify/Cottage Oak

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Salisfy
Telegraph
Salisfy
The Guardian
Salisfy
Daily Mail
Salisfy
The Express
Salisfy
Daily Mirror
Salisfy
The Sun 
Salisfy
The Star
Chapoturgeon


4.40 Gevrey Chambertin/Salubrious

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Edeymi
Telegraph
Ma Filleule
The Guardian
Edeymi
Daily Mail
Toner D’Oudairies
The Express
Toner D’Oudairies
Daily Mirror
Gevrey Chambertin
The Sun 
Village Vic
The Star
Ma Filleule


5.15 Benefficient/Tetlami

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Tetlami
Telegraph
Ulck Du Lin
The Guardian
Kid Cassidy
Daily Mail
Viva Colonia
The Express
Rody
Daily Mirror
Kid Cassidy
The Sun 
Rody
The Star
Alderwood


Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r ŵyl, bydd blog y penwythnos ar gael fory yn delio a fan pethau fel rygbi a phêl droed a hefyd rasys wrth gwrs. Ymunwch a fi. Tan hynny pob lwc, peidiwch â gwneud y bwci yn gyfoethog.


Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb y “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/



Thursday 14 March 2013

Cheltenham ar yr Iau


Cyffrous. Na nid i ddisgrifio'r uchod. Ond y gair i ddisgrifio Sprinter Sacre ddoe. Ennill o 19 hyd. Yn dilyn arddangosfa bron perffaith, ddaru Sprinter Sacre ar y gongl ddiwethaf newid gêr a thynnodd i ffwrdd o Sizing Europe. Roedd y pâr wedi gadael y gwrthwynebwyr o’r safon uchaf, yn llonydd tra roeddent yn dod i lawr y rhiw. 

Fe dwedodd y joci, Barry Geraghty “rwyf roed wedi reidio ceffyl sy’n gwneud o mor rhwydd. Mha ryn fath a Pele, oedd yn gwneud o mor rhwydd gan fod ei gyflymder a’i nerth yn rhoi yr amser iddo ei wneud o.” 

Na ddigon am ddoe, beth am heddiw. Wel, mha i wedi bod yn wythnos o gyswllt teuluol felly beth a thro i’r teulu Moore gyda Vino Greigo. Enillodd dros y cwrs a’r pellter yn Ionawr os bydd mab yr hyfforddwr ar ben ei dasg mae ganddo pob gobaith o fuddugoliaeth heddiw. 

A’i thro i fenyw ennill heddiw gyda Katie Walsh ar ben No Secrets. Mha na siawns reit dda ganddi. 

Mae’n rhaid adeiladau ar y tri “enillydd” o ddoe ac un pob ffordd reit dda. Fel mae’r hen gan yn ei ddweud “I’m in the money.” A bydd y lwc yn para. Cawn weld.

1.30 Dynaste/Captain Canon

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Aupcharlie
Telegraph
Dynaste
The Guardian
Captain Conan
Daily Mail
Aupcharlie
The Express
Dynaste
Daily Mirror
Dynaste
The Sun 
Dynaste
The Star
Dynaste


2.05 Shut the front door/Top of the range

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Stonemaster
Telegraph
Close House
The Guardian
Fair Along
Daily Mail
Top of the Range
The Express
Captain Sunshine
Daily Mirror
Sam Winner
The Sun 
American Trilogy
The Star
Close House


2.40 First Lieutenant/Cue Card

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
First Lieutenant
Telegraph
Riverside Theatre
The Guardian
Cue Card
Daily Mail
First Lieutenant
The Express
First Lieutenant
Daily Mirror
Cue Card
The Sun 
Cue Card
The Star
Champion Court


3.20 Oscar Whiskey/Reve De Sivola

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Small Place
Telegraph
Reve De Sivola
The Guardian
Oscar Whiskey
Daily Mail
Reve De Sivola
The Express
Oscar Whiskey
Daily Mirror
Bog Warrior
The Sun 
Reve De Sivola
The Star
Reve De Sivola


4.00 Vino Greigo(Nap)/Hunt Ball

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Divers
Telegraph
Cantlow
The Guardian
Casey Top
Daily Mail
Ballynagour
The Express
Poquelin
Daily Mirror
Vino Griego
The Sun 
Ballynagour
The Star
Ballynagour


4.40 No Secrets(nb)/Super Duty

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Romanesco
Telegraph
Sain Are
The Guardian
Prince of Pirates
Daily Mail
Alfie Sherrin
The Express
Sain Are
Daily Mirror
Becauseicouldntsee
The Sun 
Relax
The Star
Super Duty


5.15 Outlaw Pete/Arabella Boy

Tipwyr proffesiynol y papurau
The Times
Arabella Boy
Telegraph
Arabella Boy
The Guardian
Arabella Boy
Daily Mail
Outlaw Pete
The Express
A New Story
Daily Mirror
Outlaw Pete
The Sun 
Arabella Boy
The Star
Uncle Junior


Pob hwyl, joiwch.

Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb y “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/