Saturday 30 March 2013

Rasys y dydd


Gwledd o rasys heddiw a digon o chwaraeon eraill i blesio pawb.

Ar ôl y siomedigaeth yn y Liberty nos Fawrth gobeithio bydd na well hwyl ar bethau heddiw.

Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Spurs. Bydd dau o dîm Cymru yn wynebu ei gilydd sef Bale a Davies. Ar yr achlysur yma rydym yn gobeithio na fydd Bale ar ei ora. Bydd amddiffynnwr ifanc Abertawe Ben Davies ar dasg o ddarostwng seren y Spurs.
Bydd yn ddiddorol  gweld sut eith at y gwaith. 

Mae Bale wedi bod mewn hwyl aruthrol yn ddiweddar, er ei fod wedi methu gôl rwydd dydd Mawrth i’r tîm cenedlaethol. Bydd ar ei orau i’w glwb rwyn tybio £. Mae Bale yn sicr o fod yn her i chwaraewr pedwar ar bymtheg,  Abertawe. Bydd yn brawf mawr i’r gŵr ifanc sydd wedi disgleirio i’w dîm eleni. 

Mae ei gyd chwaraewr Michu wedi rhoi Abertawe ar rybudd ei fod am cloi ei yrfa pêl-droed yn ei gyn clwb, Real Oviedo. Rwn siŵr bod yr Elyrch yn gobeithio bydd na ychydig mwy o gôliau allan o’r Sbaenwr cyn hynny.

Caerdydd yn ymweld â Peterboro sydd jest trydydd o’r gwaelod. Mi ddylai fod yn rhwydd i Gaerdydd ond mae unrhyw dîm yn beryg pan mha nhw yn ymladd i gadw ei hunan yn y cynghrair. Felly fydd Peterboro ddim yn gwneud hi’n rhwydd i Gaerdydd.

Mae 'na o hyd dipyn o ddisgynneb ar ôl ennill cwpan ond fedrith Wrecsam ddim fforddio rhedeg allan o stem os ydynt am ennill eu lle yn ôl yn y Gynghrair Lloegr. Maen nhw i ffwrdd yn ymweld â Hyde heddiw. Casnewydd adref yn erbyn Dartford.

A Bangor adref yn erbyn  Porth Talbort. Gobeithiwn am y gorau!

Nawr am y pethau pwysig, y rasys. Ar ôl i’r tywydd ein siomi wythnos diwethaf mae 'na wledd yn ein disgwyl heddiw. Cawn weld os fedrwn ni wella ar y pedwar a enillwyd wythnos diwethaf yn Southwell.

Yn olaf ras  Cwpan y Byd Dubai. Pwy fase’n meddwl rhyw hanner canrif yn ôl bod darn bach o anialwch yn Arabia yn mynd i gynnal ras ceffylau cyfoethoga’r byd. Dyna wahaniaeth mae ein dibyniaeth ar olew yn ei wneud. Ta waeth, yn ôl at y ras £3,680,982 o wobr. Werth ei gael yn y poced cefn. A’n ddau ddewis Hunters Delight a Royal Delta. Cewch ei weld ar C4.

Gweddill y dewis. Oll ar C4

1.55 Doncaster Dubai Hills
2.05 Haydock Monsieur Cadou
2.20 Kempton Robin Hoods Bay (NAP)
2.40 Haydock Capellanus
2.55 Kempton Buckland (NB)
3.05 Doncaster Strictly Silver ( Y Lincoln a gohirwyd oblegid yr eira) 
3.35 Musselburgh Newstead Abbey
3,50 Haydock Frontier Spirit

Y Grand National wythnos nesaf, digon o ddewis.

No comments:

Post a Comment