Ras y flwyddyn. Os oes yna unrhyw
ddiwrnod mae rasys ceffylau yn cyffwrdd meddwl y genedl dyma’r diwrnod.
Anghofiwch ddyled, y sefyllfa economaidd,
gwleidyddiaeth a fan pethe felly dyma ddiwrnod y “Grand National.” Mae 'na
urddas hyn y nod yn y teitl. Mae rhin fath ar gemau Olympaidd, da chi yn
rhannu'r profiad hefo gynulleidfa’r byd.
Mae 'na fwy yn gofyn am dip i’r ras yma,
na sydd yn holi gweddill y flwyddyn. A’r ateb pob tro, mae eich siawns cystal
trwy roi pin yn y papur na gwrando ar rywun fel fi am fath. Lwc lwyr yw’r ras.
Dyna pam mae’r bwci mor awyddus i gael eich arian.
Pam? Yn gyntaf mae yna deugain o geffylau
yn y ras ac yn naw o’r deg blwyddyn ddiwethaf mae llai na hanner y ceffylau
wedi gorffen y ras. Felly fedrith rhywbeth ddigwydd. Llawer gwaith mae’r
ffefryn ar y llawr cyn diwedd y ras.
Dyna’r bregeth drosodd.
Wel, beth amdani, ceffyl o Gymru? Y gorau
ydi “Teaforthree” ond mae 'na bedwar arall, sef “Always Waining” “Mumbles Head”
“Cappa Bleu” a “Saint Are.” D’oes 'na geffyl wedi ei hyfforddi yng Nghymru wedi
cael buddugoliaeth ers 1905. Ond pwy a ŵyr ella dyma’r flwyddyn i newid pethe
a’i Cappa Bleu sydd yn cael ei
hyfforddi gan Evan Williams fydd yn newid yr ystadegau.
Beth am fynd ar ol joci ynte. Mae Ruby Walsh yn trio am ei drydydd fuddugoliaeth yn yr ras.. D’oes na
dim ond un joci wedi gwneud hun o’r blaen sef Brian Fletcher are Red Rum. Dewis
yr hen Ruby Walsh yn y ras – “On His
Own”
Fy hoff joci i Tony McCoy ar “Colbert Station” mi ro i geiniog neu
ddau arno mae’n debyg
Cofiwch dyma'r diwrnod i facio bob
ffordd.
Yn gyntaf y National 5 dewis ar joci (J)
Hyfforddwr(H) a’r ods neithiwr.
1
Colbert Station (J) A P McCoy (H) T M
Walsh 12/1
2
Chicago Grey (J) P Carberry (H)
Gordon Elliot 12/1
3
Imperial Commander (J) Sam
Twiston-Davies (H) Nigel Twiston Davies 18/1
4
Big Fella Thanks (J) Denis O’Regan
(H) Tom George 33/1
5
Cappa Bleu (J) Paul Maloney (H) Evan Williams 12/1
Gweddil rasys Aintree, dau ddewis I bob
ras
1.45 Up and Go/Utopia Des Bordes
2.15 Alderwood/Baily Green
2.50 Solwhit/African Gold
3.25 Battle Group/Cantlow
4.15 Colbert Station/Chicago Grey
5.10 Shotavodka/Prince of Fire
Pob lwc i bawb.
O ie mae 'na pêl-droed hefyd, Abertawe
yn ymweld a Norwich a Caerdydd i
ffwrdd yn erbyn Watford sydd yn trydydd yn y tablau. Gem galed i'r ymwelwyr..
No comments:
Post a Comment