Saturday 7 June 2014

Y Derby

Diwrnod y Derby, un o rasys mwyaf y byd. A’r ffefryn ydi  Australia. Yn ôl ei hyfforddwr,  Aidan O’Brien tydi e ddim wedi cael gwell ceffyl i  hyfforddi. Mae  O’Brian wedi ennill yr ornest clasurol hwn pedair gwaith felly mae’n dipyn o ddweud. Yn sicr mae’r bwci yn sylweddoli bod y ceffyl yn ‘special’ a phris gwael iawn a gewch am eich arian.

Fy nghyngor i chwiliwch am geffyl a phris da a baciwch e bob ffordd i ddod yn ail neu yn drydydd. Ond pa un ydi’r cwestiwn?  Wel, imi'r ceffyl sydd am roi ras I Australia ydi Kingston Hill, mae’n geffyl sydd wedi arfer ennill. Un arall sydd a mesur Australia ydi ceffyl arall O’Brian, Geoffrey Chaucer. Mae 'na sibrwd ei fod yn cael y gwell ar Australia yn y rasys hyfforddi. Ond fy newis i fydd Orchestra, welais e yn rhedeg yn Gaer a dwi yn meddwl ei fod yn ddigon abl i ddod yn ail ond ar bris da.

Y dewis felly i ddod yn ail i Australia.  Orchestra, Kingston Hill, Geoffrey Chaucer.

Gweddill y rasys

1.35 Black Shadow
2.05 Baitha Alga
2.40 Talent
3.15 Caspian Prince
4.00 Kingston Hill
4.50 Kelinni

5.25 Normal Equilibrium

Friday 6 June 2014

Yr Oaks

Diwrnod yr Oaks yn Epsom ar y twyni. Ras yr ebolesau yw hyn a digon o ddewis.  Mae 'na bedwar ceffyl yn cymryd fy sylw. 
Mae Marvellous yn gaseg sydd wedi ennill y 1000 gini yn Iwerddon a fydd ddigon o gyflymder ganddi i losgi ond  dwi yn amau braidd eu stamina.  Fedrwch  byth dibrisio Aidan O’Brien yn y rasys mawr mae ganddo dau arall yn rhedeg sef Dazzling a Palace.

Yn ddiddorol nid rhan o gynllun Hughie Morrison, hyfforddwr  Marsh Daisy  oedd eu rhedeg yn yr Oaks rhedeg yn yr Hydref oedd y nod.  Ond ail feddwl ddaru nhw ar y fyned olaf. Dim ar chwarae plant mae hyfforddwr yn newid ei chanllawiau felly mae hi yn werth meddwl am ryw fet neu ddau.

Mae gan  Taghrooda ddigon o gwmpas i wella  ar y pellter hir yma. Fe laniodd y  Pretty Polly Stakes, sy’n ganllaw da i’r ras yma.

Ond i fi IHTIMAL ydi’r gaseg. Mae eillith rhoi llwyddiant cyntaf i stabl Godolphin yn yr Oaks, mi oedd yn trydydd  Qipco 1000 gini tu ôl i Miss France. Heddiw fydd Kieron Fallon ar ei chefn, joci profiadol.

Felly dyma’r drefn i mi Ihtimal, Marsh Daisy, Marvellous a Taghrooda.

Dyma ddewis gweddill y rasys.
1.35          Odeliz Just the Judge
2.10         Tres Coronas Steckonian Star
2.45         French Navy Gregorian
3.20         Llanarmon Lad Abseil        
4.00         Ihtimal Marsh Diary
4.45         This is the Spirit
5.20         Kafeel





.