Saturday 7 June 2014

Y Derby

Diwrnod y Derby, un o rasys mwyaf y byd. A’r ffefryn ydi  Australia. Yn ôl ei hyfforddwr,  Aidan O’Brien tydi e ddim wedi cael gwell ceffyl i  hyfforddi. Mae  O’Brian wedi ennill yr ornest clasurol hwn pedair gwaith felly mae’n dipyn o ddweud. Yn sicr mae’r bwci yn sylweddoli bod y ceffyl yn ‘special’ a phris gwael iawn a gewch am eich arian.

Fy nghyngor i chwiliwch am geffyl a phris da a baciwch e bob ffordd i ddod yn ail neu yn drydydd. Ond pa un ydi’r cwestiwn?  Wel, imi'r ceffyl sydd am roi ras I Australia ydi Kingston Hill, mae’n geffyl sydd wedi arfer ennill. Un arall sydd a mesur Australia ydi ceffyl arall O’Brian, Geoffrey Chaucer. Mae 'na sibrwd ei fod yn cael y gwell ar Australia yn y rasys hyfforddi. Ond fy newis i fydd Orchestra, welais e yn rhedeg yn Gaer a dwi yn meddwl ei fod yn ddigon abl i ddod yn ail ond ar bris da.

Y dewis felly i ddod yn ail i Australia.  Orchestra, Kingston Hill, Geoffrey Chaucer.

Gweddill y rasys

1.35 Black Shadow
2.05 Baitha Alga
2.40 Talent
3.15 Caspian Prince
4.00 Kingston Hill
4.50 Kelinni

5.25 Normal Equilibrium

No comments:

Post a Comment