Thursday, 1 December 2016

Gadael y Farchnad Sengl.


Fe enillwyd y bleidlais ar refferendwm ymgynghorol gan fwyafrif bychan i adael yr Undeb Ewropeaidd.  A dyna’r unig beth ddaru'r mwyafrif tenau  benderfynu.

Ddaru nhw ddim pleidleisio i adael y farchnad sengl (FS)  gan fod rhan fwyaf o’ arweinydd yr ymgyrch gadael wedi dweud wrthym fod gadael yr UE yn gydnaws o aros yn y FS. Ddaru nwy  ddim pleidleisio i ddod a rhyddid symud i ben er bod rhai yn sicr eisio lleihau mewnfudo. 

Y ffaith am dani ydi gadael yr UE ddim yn un polisi ond amrywiaeth eang o bolisïau gydag effeithiau gwahanol a tydi’r etholwyr wedi dweud dim am eu blaenoriaethau rhwng yr holl bosibiliadau. Yn fyr, roedd y refferendwm am yr UE ac nid y FS, a beth bynnag mae nwy yn dweud nawr mae yn bosib bod yn rhan o’r FS heb fod yn rhan o’r UE.

Ond mae  Teresa May a’i llywodraeth newydd heb unrhyw fandad wedi penderfynu na nwy a nwy yn unig fydd yn cael yr hawl i ddehongli beth fydd gadael y r UE yn golygu, ac ni ddylai’r etholwyr trwy eu cynrychiolwyr gael unrhyw ddweud ar y mater. Dyna pam mae llywodraeth Cymru yn mynd i’r uchel lys yr wythnos nesaf, i sicrhau bod llais pobol Cymru trwy eu cynrychiolwyr yn y cynulliad yn cael eu dweud ar y mater.

Os caiff Teresa a’i chriw ei ffordd ni caiff y bobol unrhyw ddylanwad ar le yn union mae nwy yn cael eu harwain. Mae’r gwahaniaethau rhwng y llwybrau o adael yr UE yn enfawr, a bydd y dewis o ba ffordd i adael yn cael anferth o effaith ar bob dinesydd. Er hynny tydi’r bobol na eu cynrychiolwyr ddim yn hud nod cael gwybod pa opsiynau mae’r llywodraeth yn  anelu at.

Ond mae’r propagandwyr ar ideolegwyr o’r ochor ‘allan’ yn disgrifio unrhyw gais i gael llais i’r senedd yn San Steffan ac i’r cynulliad fel rhyw fath o frad ar y bobol. Dyma oedd agwedd UKIP yn y Cynulliad yr wythnos yma. Mae unrhyw ymgais i aros yn y FS a hyd nod jest ofyn y cwestiwn yn cael ei disgrifio fel ymdrech i roi stop ar Brexit er nad ydyw. Pam dim ond gweld beth sydd ar gael, cyn i’r cloc dechrau a ni'n gael ein taflu allan heb ddim?

Beth am ail refferendwm ar ôl gwybod beth sydd ar gael yn y diwedd? Mae trio cael gwybod beth mae’r etholwyr yn meddwl ar y peth yn erbyn ewyllys y bobol, ac yn hollol annerbyniol i’r ochor ‘allan.’ Dyna ichwi eironi. Pan mae rhywun yn dweud bod cysylltu'r bobol neu ei chynrychiolwyr yn erbyn ewyllys y bobl yn rhywbeth fase rhywun yn disgwyl yn y nofel 1984 dim yn wlad ddemocratig fodern.

Y gobaith yw bydd y goruchaf lys yn rhoi'r hawl yn ôl i’r aelodau seneddol cael dweud pryd a sut mae erthygl 50 yn cael ei danio. Ond oes 'na ddim arwydd bod San Steffan am wneud llawer i arbed y llywodraeth daflyd i ffwrdd ein haelodaeth o’r FS, mae'r ASau fel tyrcwn am pleidleisio dros Nadolig. Felly ein gobaith yw bydd ein cynulliad Cenedlaethol yn dangos dipyn mwy o asgwrn cefn a dal pethe i fyny tan bod 'na sicrwydd am ddyfodol economaidd Cymru. 


Thursday, 24 November 2016

Datganiad yr Hydref

Datganiad yr Hydref oedd y cyfle cyntaf i gymryd stoc economaidd ar ôl y bleidlais y genedl i adael Ewrop.

Daeth Y Canghellor I’r Tŷ Cyffredin ac mae’n rhaid dweud bod y cyfan fel sgwib llaith.

O flaen llaw roedd y 'spin' i gyd oedd  sôn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Ond yn y diwedd codiad dim ond codiad o 0.3%  I 0.4% o’r GDP ym mhob blwyddyn ariannol rhwng  2017 i2020. Mae’r ffigyrau jest tipyn yn uwch na beth oedd y llywodraeth Llafur yn gwario cyn yr argyfwng ariannol.

Gan fod lefelau llog mor isel mi ddylai ni fod yn gwario llawer llawer mwy.  Mae Philip Hammond wedi cymryd mantra Ed Balls o ddifri a rhoi hwb i isadeileddau, tai a sgiliau ond nid i’r graddau i sefydlu economi cadarn a llai o lawer na’r gwledydd  diwydiannol yn ein cylch cyfoedion.

Beth roedd yr economi eisio oedd ei ailgychwyn ond be gafodd o roedd dipyn o ‘makeover’ ysgafn.

Fe roedd ‘cap’ ar wariant ar fudd-daliadau a bydd y tlawd – rhai yn gweithio a’r di-waith – yn colli tua 2% y flwyddyn. Bydd ei safonau byw yn dirywio.
Ac yn ôl Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) mae’r rhagolwg a’r gyflog yn “ofnadwy.” Yn ôl yr IFS bydd gweithwyr yn ennill llai  o gyflogau yn 2021 ac roeddent yn ennill yn 2008.

Ac yn ôl y datganiad Philip Hammond  bydd cost gadael yr Undeb Ewropeaidd I’r economi tua £58.6 biliwn. Pam? Llai o ymfudiad, llai o gynhyrchaeth a’r economi ar ei lawr gan fod yna ansicrwydd.

Pris go fawr i dalu am adael Ewrop.


Thursday, 10 November 2016

Pam Trump?

Heb ddeall bod 'na lawer o bobol yn y gorllewin mewn poen fedrwn ni ddim deall y ffenomena o Donald Trump, Brexit  a dyrchafiad y De eithafol yn wleidyddiaeth llawer i wlad.

A’r rheswm am hun neo-rhyddfrydiaeth a’r polisïau sy’n dilyn yn uniongyrchol o’r athroniaeth. Mae 'na niferoedd o bobol  sydd wedi gweld ei safonau byw yn dirywio yn ddiffwysol o dan bolisïau o ddadreoleiddio, preifateiddio, llymder a masnacha corfforedig.

Colli gwaith, pensiynau ac y rhwyd ddiogelwch a oedd ar gael dan y wladwriaeth les oedd hanes niferoedd o bobol yn wledydd y gorllewin yn cynnwys wrth gwrs Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddifrifol Iddynt hwy a’i phlant.

Ar y llaw arall maent yn gweld llawer yn cael bywyd cyffyrddus. Y dosbarth uwch, bancwyr, gwleidyddion  ar fyd sy’n llawn o ‘selebs. ’ Mae’n na pharti yn mynd ymlaen a ydynt ddim yn cael gwadd i’r bwrdd. Cyfoeth yn codi a grym yn codi i rai a dyled a thlodi i nwy.

Mae arweinyddion fel  Donald Trump a Nigel Farrage wedi sylweddoli’r poen ac yn ei ecsbloetio. Felly hefyd y pleidiau asgell Dde ar y cyfandir. Mae’n rhwydd troi pobol yn erbyn  ei gilydd. Rhoi’r bai  ar fewnfudwyr, Mwslimiaid, Merched, y croenddu. Troi I mewn ar ei hunain ac edrych yn ôl gyda hiraeth am yr hen ddyddiau.

Y diffyg ydi ei siomi y cawn gan y sefyllfa newydd, gan fydd ei harweinydd ddim yn fodlon delio ar broblem sef gwneud yr economi gweithio i’r llawer. Nid hynna yw natur cyfalafiaeth.

Nid fydd hi yn hir tan fydd pobol yn cael ei siomi gan Trump a hefyd  Brexit yn y wlad yma, ond yn anffodus fydd na llawer mwy o boen iddynt o dan y drefn maent wedi pleidleisio i hebrwng i mewn.

Yr ateb ydi troi ein cefn ar neo-rhyddfrydiaeth a threfnu ei’n economi a’n cymdeithas a’r llinella sy’n rhoi gobaith, cymdeithas gynhwysfawr ble mae pawb yn cael chwarae teg. 

Gobaith leddfa y galon luddedig.

Friday, 4 November 2016

Y wasg a barnwyr

Un o elfennau pwysig  cyfansoddiad yr DU ydi rheolaeth cyfraith ac annibyniaeth barnwyr. Ond yn sicr nid felly mae rhai o’n papurau yn ei gweld hi yn dilyn dyfarniad yr uchel Lys  ar Erthygl 50. Mae eu hymateb wedi bod yn ffyrnig, yn llawn casineb at y barnwyr, rhai yn mynd mor bell a  gofyn iddynt gael y sac.

A heb golli cyfle roedd David Davies aelod Mynwy yn trydar
‪”@DavidTCDavies
Unelected judges calling the shots. This is precisely why we voted out. Power to the people!” a Douglas Carswell AS yn awgrymu bod rhaid cael barnwyr gwahanol trwy ddiwygio'r system o ddewis barnwyr. Er mwyn cael rhai fase yn siwtio eu hagwedd gwleidyddol o, mae’n debyg.

Ond beth yn union oedd trosedd y barnwyr? Edrych ar y gyfraith  ac nid ar wleidyddiaeth. Roeddent yn gadarn yn eu barn nad oedd yr hun yn ddim i wneud a’r teilyngdod o fod i mewn neu allan o’r UE ond ar gwestiwn a oedd hi’n gyfreithiol i’r llywodraeth penderfynu ar erthygl 50 neu’r senedd.

Ac yn unfrydol fe benderfynwyd nad oedd gan y llywodraeth y grym. Pam? Am fod hi’n egwyddor sylfaenol o’r cyfansoddiad fod y rhagorfraint y Goron ddim yw defnyddio i gymryd hawliau roedd wedi eu trosglwyddo i ddinasyddion trwy’r senedd. A dyna fase wedi digwydd pe bau’r llywodraeth yn cael eu ffordd.

Yn y bôn a’ yw ein papurau newydd ac ein gwleidyddion eisio cyrtiau annibynnol neu ddim. Yn sicr ar ôl yr ymateb yr ateb i’w “na.” Ac yn wir  mae hun yn mynd a ni i lawr ffordd lithrig tros ben fel cymdeithas.



Wednesday, 26 October 2016

'Balans'

Yn ddiweddar cefais y fraint o fod ar banel o ddarlledwyr a newyddiadurwyr yn trafod darlledu gwleidyddiaeth i bobol ifanc a fu trafodaeth ar y cwestiwn o ‘balans.’

Does dim dwywaith bod y cyfryngau darlledu ac yn enwedig y BBC yn gwneud job ragorol o gyfleu gwybodaeth i’r gwyliwr yn hygyrch, rhwydd i ddeall ac yn addysgiadol. Ond y munud mae’r pwnc yn un gwleidyddol mae’r ddawn yn mynd allan drwy’r ffenestr.

Y rheswm, os yw’r pwnc yn wleidyddol mae rhaid rhoi ‘balans’ dros bob dim arall.  Mae gwleidyddiaeth yn cymryd lle cywirdeb ac yn amyl  y gwir.

Daeth hun yn amlwg yn y refferendwm diwethaf  pan roedd barn mwyafrif helaeth (364 i fod yn fanwl gywir) o economegwyr yn dweud bod gadael yr undeb Ewropeaidd am wneud niwed i economi ein gwlad yn cael ei balansio gyda barn un neu ddau o rhai yn dal y syniad i’r gwrthwyneb ond roedd y darlledwr dim yn crybwyll ei fod yn farn leiafrifol o dra un neu ddau o economegwyr ac nid rhan o’r brif ffrwd.

Esiampl arall o esgeulusid ein darlledwyr ydi gadael i wleidyddion dweud anwiredd heb ei herio ar bob achlysur mae’r anwiredd yn cael eu dweud. Enghraifft o hun oedd creu'r myth fod afradlonedd Llafur wedi creu llymder. Os nad yw ein cyfryngau yn cywiro gwleidyddion pan mae’n yn dweud celwydd, mae hun yn rhoi cymhelliad i’r gwleidyddion i gelwydda. Mae hun yn ystumio ein democratiaeth.

Gyda’r twf  o rwydweithiau cymdeithasol sydd yn cyfleu rhagfarnau fel ffeithiau does neb ond ein darlledwyr cyhoeddus i fynegi i’r cyhoedd y gwir. Mae yn ddyletswydd arnynt i wahaniaethu rhwng y ‘ffeithiau’ ar ’spin.’ Ond yn amyl mae hun yn cael ei foddi gan wleidyddion yn  gweiddi - ‘bias.’


Does 'na ddim ond un ffordd o osgoi ffeithiau yn cael eu hystumio, a hynny drwy eu cywiro yn y fan ar le. Fel y gwelir yn y ddadl rhwng Trump a Clinton un o oblygiadau'r cymedrolwr ydi cywiro. Os oes un o’r ymgeisydd yn dweud X ac X ddim yn wir mi ddylai'r cymedrolwr dweud hun. Ac mi ddylai hun fod yn rhan o ddyletswydd pob cyfwelydd.

Mae eisiau trin a thrafod gwleidyddiaeth ar y tonfeddi, ond mae’n rhaid i’r drafodaeth  dod a goleuni i’r gwrandäwr ac nid eu camarwain. Mae’r rheolau presennol ar balans yn camarwain.


Thursday, 20 October 2016

Donald Trump yn iawn



Mae Donald Trump yn iawn. Dyna chi frawddeg roeddwn roed wedi meddwl baswn ni yn sgwennu.  Mae'r ymgeisydd yn iawn i sôn am ddiffygion yn system pleidleisio'r Unol Daleithiau, ond nid yn y ffordd mae o yn ei drafod.

Os cofiwch pan roedd Al Gore yn sefyll yn erbyn George Bush ar bleidlais yn Florida. Yn y dalaith fe fu terfyn ar y cyfrif ac o ganlyniad fe gafodd Bush y fuddugoliaeth ac yr arlywyddiaeth ar gefn 567 o bleidleisiau  dadleuol.

Yn 1960 pan lwyddodd Kennedy I drechu Nixon ar ganran tenau cenedlaethol ar gefn llawer i gyhuddiad bod  “y mob” wedi newid taleithiau allweddol fel Illinois er enghraifft.

Mae’r Gweriniaethwyr am ddegau wedi bod yn ymarfer ataliadau’r pleidleiswyr ac yn gyrru pleidleiswyr croenddu i ffwrdd o’r rôl pleidleisio. Mae 'na hefyd gerimandro gan y ddwy blaid ar lefel y dalaith  a'r Tŷ.

Yn fwy elfennol mae 'na wahaniaeth enfawr rhwng y rhifodd sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio a’r pleidleiswyr potensial ble mae’r sustem wedi ei sgiwio yn erbyn pleidleisiwr   groenddu,  y tlawd  ar ifainc.

Symptom yw Donald Trump o’r poen, y loes ar anhrefn sydd i lawer o gwynion difreintiedig America. Ond mae wedi cyflwyno cennad dychrynllyd i’r dyfodol: hiliaeth, senoffobia a misogonistaith a fawr ddim o wybodaeth am polosiau a materion tramor.

Ond efallai bydd ddadl neithiwr yn cosi pryder gyda’r sôn am “etholiad wedi ei rigio” a “rhyfel cartref” os nad yw yn ennill ac e’n gwrthod dweud ei fod am dderbyn y canlyniad pe fase yn colli.

Oes, mae na ddiffygion mawr yn democratiaeth yr UD ond nid Donald Trump yw'r ateb.  Nid democrat yw’r dyn ond demagog.



Thursday, 6 October 2016

Pwyso am newidiadau i Mesur Cymru

“Tydi Mesur Cymru ddim yn ddigon da i’r pwrpas ac mae yn gam yn ôl.” Crynodeb o farn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Cymru ar Fesur Cymru.

Yn ôl Cadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, bydd rhaid i’r Tŷ Arglwyddi, sydd yn dechrau trafod y Mesur dydd Llun nesaf (Hydref ’16), newid llawer ar y Mesur i wneud e’n deilwng o’r pwrpas gwreiddiol, sef cryfhau a symleiddio cyfansoddiad llywodraeth Cymru.

Fe aeth yn bellach gan ddweud bod y Mesur “yn gam yn ôl i'r broses ddatganoli.” Heb newidiadau sylfaenol ni fydd y mesur yn ddigon i sicrhau setliad datganoli parhaol. 

Pwrpas y Mesur yw diffinio'n gliriach pa lywodraeth, un a'i San Steffan neu Bad Caerdydd, sy'n gwneud beth. 

Felly mae Bil Cymru yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y fframwaith fel y gall y Cynulliad deddfu yng Nghymru mewn meysydd megis iechyd ac addysg i wella  bywydau a chyfleoedd trigolion y wlad.

Ar lawer achlysur mae Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol wedi mynnu y byddai'r Mesur yn gwneud  datganoli yn gryfach, clir a theg.

Bwriad aelodau’r pwyllgor ydi nawr ceisio dylanwadu ar Dŷ’r Arglwyddi i wneud gwelliannau sylweddol tra mae’r mesur yn mynd ar ei siwrne drwy’r Tŷ.

Sylw

Pan gyhoeddwyd y mesur diweddara y bwriad oedd y base’n para oes.  Hyd nod fase’r ysgrifennydd gwladol yn gwneud tro bedol a derbyn holl argymhellion pwyllgor Huw Iranca-Davies mae’n debyg bydd rhaid cael deddf arall yn hwyr neu'n hwyrach. Pam? Yn syml ‘brexit.’ Bydd termau gadael yr UE yn rhoi straen  cyfansoddiadol ar y Deyrnas. Yn y pen draw fydd rhaid cael confensiwn cyfansoddiadol i ddelio a’r newidiadau ac fydd rhaid gofyn y cwestiwn ble mae’r DU yn mynd? Beth yw ei phwrpas? a pham ddylem fod yn rhan ohoni? Cwestiynau fydd rhaid eu hateb.  Fydd had y felltith brexit yn tyfu yn rhwydd  ond yn wahanol yn dir ein pedwar gwlad.