Yn Chwefror mi ddaru’r WHO rhoi gwybodaeth allan ar be oedd yn digwydd yn China, a'i chyngor i wledydd eraill oedd profion a neilltuo cymdeithasol. Yn araf iawn ymatebodd gwledydd y gorllewin i’r cyngor.
Ond roedd y DU yn sefyll allan am ei bod am ddilyn polisi gwahanol. Tydi’r llywodraeth ddim nawr yn hoff o’r enw, ond imiwnedd poblogaeth oedd eu hymateb yn y dechrau i COVID-19.
Pam ddaru'r DU mynd am imiwnedd poblogaeth pam roedd arbenigwyr y WHO yn rhoi cyngor gwahanol?
Roedd barn y gwyddonwyr ddim yn un fydrol. Roedd rhai yn dadlau bod yn rhaid ar unwaith dechrau ar arwahaniad cymdeithasol. Roedd rhai eisio’r llywodraeth i newid y polisi ar unwaith neu base'r canlyniadau yn arswydus.
Ond roedd rhai yn credu base arwahaniad cymdeithasol yn anghynaladwy am amser hir a fase yn arwain am ail don drychinebus o’r feirws.
Yn sicr roedd 'na ddim gwyddoniaeth unedig, ond anghydfod rhwng yr arbenigwyr oedd yn rhoi cyngor i Lywodraeth y DU.
Felly pam dilyn y gwyddonwyr oedd yn y lleiafrif yn rhyngwladol?
Rhaid sôn am flaenoriaeth ein prif weinidog, Boris Johnson.
Yn fis Ionawr daeth yn amlwg difrifoldeb y sefyllfa yn Tsiena. Mae ffynonellau yn dweud bod prif Swyddog meddygol Lloegr wedi rhybuddio’r cabinet yn dechrau’r flwyddyn byddai gwledydd eraill yn cynnwys y DU yn wynebu pandemic, ond gwrthsefyll ‘cracdown’ wnaeth Johnson a Dominic Cummings.
Roedd y ddau mor argyhoeddes nad oedd rhaid gwneud dim. Ddaru nwy dim gwneud beth fase rhywun yn disgwyl gan wleidyddion da a chynllunio am amodoldeb.
Fe gollwyd amser cyn newid y polisi o imiwnedd poblogaeth a dyna pam mae pethe wedi mynd yn ofnadwy anghywir ers hynny.
Mae’n amredu o Johnson yn dal i ysgwyd llaw a'r methiant allweddol o gynhwysedd y profion (y DU oedd y wlad gyntaf i ddatblygu'r profion, ond rydym yn cynnal llai o brofion na gwledydd eraill), dim yn archebu cyflenwadau o awyriaduron tan oedd hi’n berygl hwyres a methu darparu dillad diogelu i’n doctoriaid a’n nyrsys.
Mae diogi Johnson a’r difrod mae wedi creu yw mesur yn y bywydau a gollwyd yn ofer. Mae beth ddigwyddodd yn sgandal Cenedlaethol. Gobeithio bydd yna ymchwiliad cyhoeddus i beth digwyddodd. Mae ein llywodraeth wedi methu yn eu cyfrifoldeb sylfaenol o gadw'r genedl yn saff.
No comments:
Post a Comment