Sunday 13 June 2021

Cymru a'r Swistir




Does dim dwy waith roedd Cymru yn eithradol lwcus. Mae’r ystadegau yn dweud y cwbl y Swistir a 62 o’r cant o feddiant, yn cwblhau 464 pass tua bod Cymru efo 245 ac dim and 79 o hwy yn llwyddianus.


Roedd blaenwr Borussia Monchengladbach, Breel Embolo yn bygythiad cyson, yn scorio y gol cyntaf and yn gwneud i Danny Ward gwneud dau arbediad eithriadol..


Ond y ffaith am dan i rydym dal yn yr ornest drwy penniad Kieffer Moore. 


Ond bydd yn rhaid i ni fod ar ben ein gem dydd Mercher pan disgwylir tua 30,000 o cefnogwyr Twrci yn y stadium Olympaidd yn Baku.



Peidiwch a tanbrisio cyfranniad Joe Morrell  a Moore. 


Er nad yw’r ddau yn chwarae yn y ‘premiership’ maen’t bob amber yn disgleirio i Gymru. Roedd croesiad Morrell o cornel cras bur wedi cael eu osod yn berffaith I Moore orffen y dasg gyda gol.


Mae gan Moore nawr 6 gol allan o 18 cap I’w wlad..


Roedd ei ymgais yn yr hanner gyntal o croesiad gan Daniel James bron yr un fata ar gol scoriodd yn erbyn Slofakia ac roedd rhaid i Yann Summer gwneud arbediad arbennig i rhoi y cais dros y postyn.


Cyn yr ornest roedd y dadl am pwy fase’r gol geidwad, rhwng Hennessey a Ward ac er bod Ward yn ail gol geidwad i Caerlyr fe stepiodd i fyny’n wych. Fe arbedodd fflic Fabius Schar gydai draed, fe wadodd Embolo un ar un gydai law ac rhywsut fe wadodd ergyd Mario Gravranovic reit yn yr amser ychwanegol.


Mi oedd gan Bale a Ramsey eiliadau pan roeddent yn dangos ei pwysicrwydd i’r tim ond ar y cyfan roedd y ddau ddim ar eu gorau ac roeddent yn edrych yn hollol flinedig erbyn y diwedd gyda Ramsey yn gadael y maes dwy funud cy’n y diwedd.


Cafodd Daniel James gem gwych ac roedd yn siomedig pan cael ei symud i ffwrdd yn y 75 munyd..


Bydd yn rhaid i’r rheolwr sortio allan yr amddiffyn cy’n y gem nesaf, ydio ddim yn gwneud llawer o synwyr i roi amiffynwyr mor bach yn erbyn  rhywun mawr 6 troedfedd, fel Embolo. Ac rhaid hefyd mynnu bod yna chwaraewr ar gornel y postyn i rhoi cymorth i Ward.


No comments:

Post a Comment