Ail le mae’r economi yn cymryd i effaith y coronavirus ar gyfrifiaeth marwolaeth o dan pandemic.
Ond mae economeg yn bwysig fel rhybudd i beidio cymryd mesurau llymion sydd ddim yn dylanwadu rhifodd y marwolaethau.
Yr effaith lleiaf pwysig ar yr economi ydi cwymp cynhyrchiant gan fod gweithwyr yn cymryd amser i ffwrdd trwy salwch. Mae’n llai pwysig gan fod cwmnïau yn medru ffeindio ffyrdd o ddigolledu hyn os ydi salwch yn lledaenu dros chwarter. Er enghraifft bydd y rhai a oedd yn sâl yn medru gweithio oriau ychwanegol ar ôl dod yn ôl. OK bydd yn codi costau a gelli greu chwyddiant dros dro ond dylai'r banc canolog anwybyddu hun.
Bydd canlyniad ‘uniongyrchol’ y pandemic yn lleihau’r GDP yn y chwarter yna o ychydig ganrannau. Faint yn union bydd y rhifau yn ddibynnol ar garfan y boblogaeth fydd yn sâl, a faint yn union fydd rhifau'r marwolaethau yn y DU, a faint o bobol fydd yn aros o’i gwaith i osgoi’r salwch.
Mae’r effaith ar y GDP am y flwyddyn gyfan yn dilyn pandemic yn llai gan fod cynnyrch ar ôl pandemic yn uwch tra bod cwmnïau yn ailgyflenwi stoc wrth gyflenwi galwadau oedd wedi ei gohirio gan y cwsmeriaid.
Ond nid ar ochor y cyflenwad mae’r broblem fwyaf ond ar yr ochor galw.
Mae rhai sectorau yn mynd i gael hi’n anodd yn dibynnu ar sut dda ni’n ymddwyn - y sector cymdeithasol. Sector sydd yn dod a ni mewn cysylltiad â phobol eraill. Pethau fel mynd i’r dafarn, bwytai neu bêl droed neu deithio.
Os ydi pobol yn ofn cael y salwch yn torri i lawr ar gymdeithasu mae hun yn cael dylanwad ar yr GDP. A does fawr ddim fedrith y Canghellor gwneud i arbed hun ond dylanwadu ar y banciau i fenthig i’r busnesau sydd cael eu heffeithiol i gael nwy dros yr argyfwng.
Ond mae’r economi yn cael effaith ar y sefyllfa mewn un ffordd. Mae’r sector hunangyflogedig heb fudd-dal salwch yn gwneud hi’n anodd iddynt hunan-neilltuo os yn sâl. Heb I’r llywodraeth ffeindio ffordd i’w helpu maent am ledu’r afiechyd.
Mae’n rhaid i’n gwleidyddion dechrau meddwl am sut maen nhw am gadw ein gwasanaethau cyhoeddus ar fynd pan fydd gweithwyr yn dechrau syrthio gyda’r afiechyd.
Ar amseroedd fel rhain mae’n rhaid i’n llywodraethau ân wleidyddion cymryd penderfyniadau sydyn a meddwl ymlaen. Mae coronvirus yn rhoi'r her fwyaf iddynt i gyd.
No comments:
Post a Comment