“Rydym
angen etholiad cyffredinol ac rydym eisio un nawr.”geiriau Teresa May tu allan
i rif deg wrth gyhoeddi etholiad cyffredinol am 8 Mehefin.
Dyna’r
u-bedol mwyaf mae’r prif weinidog wedi gwneud erioed. A pwy mae hi yn beio am
yr ail etholiad cyffredinol yn ychydig dros 2 mlynedd? Yr wrth bleidiau wrth
gwrs.
Mae eisio
undod yn San Steffan tra mae’r
wlad yn trafod termau’r ysgariad o Ewrop. Eu bai nwy ydi’r cyfan! Er iddi gael
ei ffordd yn rhwydd ar ergydio Erthygl 50.
Na'r unig
reswm mae’r dyddiad wedi ei enwi ydi fantais bleidiol, mae’r blaid Geidwadol
dros 20 pwnt ymlaen yn y polau
piniwn ac mae hi am chwyddo ei mwyafrif yn Dŷ’r Cyffredin.
Pum gwaith
mae wedi mynnu na fydd yna etholiad cyffredinol tan 2020.
Yn Fehefin
wrth lansio eu hymgyrch am arweinyddiaeth eu plaid dywedodd “Ni ddylai fod yna
Etholiad Cyffredinol tan 2020.”
Wedyn yn
Hydref 2016 dywedodd mewn cyfweliad gyda’r BBC “Beth da ni angen ydi
sefydlogrwydd. Rydych wedi sôn am y sefyllfa economaidd ac am y farchnad, mewn
gwirionedd beth mae’r farchnad eisio ydi sefydlogrwydd.”
Roedd yn
iawn ar hwnna o beth fel danom ni’n gweld beth sydd wedi digwydd i’r bunt ers
ei chyhoeddiad bore ‘mha.
Fe
ddywedodd llefarydd ar eu rhan yn Dachwedd 2016 “ Mae’n sefyllfa yn hollol glir ni ddylif fod yna etholiad tan
2020 – dyna ydi dal barn y prif weinidog.”
Eleni yn dechrau mis
Mawrth fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan pan ofynnwyd cwestiwn am etholiad
cyffredinol buan “Rydio ddim am ddigwydd, rydio ddim yn rhywbeth mae yn
cynllunio i neud nag yn dymuno gwneud.”
Ac erbyn diwedd y mis
fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan “Does 'na ddim newid y lein safbwynt ar
etholiad cyffredinol buan. Ni fydd yna etholiad cyffredinol.”
Beth sydd wedi newid
eu meddwl – mantais wleidyddol yn unig. Mae wedi gweld sefyllfa Llafur yn wan
ac mae am gymryd mantais. Dim egwyddorion uchel ond oportiwnistiaeth wleidyddol.
No comments:
Post a Comment