24,000
ydi nifer o swyddi gwag nyrsio ym Mhrydain yn ôl Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN).
Ac yn ôl yr RCN mae Brexit wedi gwneud prinder nyrsys yn waeth.
Mae
dadansoddiad gan yr RCN yn dangos llai na 200 o nyrsys o’r UE y mis yn
cofrestru gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth rhwng Medi a Rhagfyr 2016. Mae
hun yn cymharu ag 800 y mis yn yr un cyfnod yn 2015.
Nid
yn unig bod yna cwymp yn y recriwtio
ond mae yna 2,700 o nyrsys o’r UE wedi gadael cofrestr y nyrsys yn wirfoddol.
Eglurodd
Janet Davies Prif Swyddog y RCN y broblem. “Mae Llywodraeth y DU yn troi i
ffwrdd y cyflenwad o nyrsys cymwysedig o gwmpas y byd ar yr union bryd mae’r
gwasanaeth iechyd mewn argyfwng fel erioed o’r blaen.”
Fe
scrapwyd George Osborne tra yn Ganghellor y bwrsariaethau i nyrsys dan
hyfforddiant o ganlyniad roedd y ceisiadau am gyrsiau gradd nyrsio i lawr 20%.
Piti
fase rhywun ddim yn addo gwario £350m ecstra yr wythnos ar y gwasanaeth iechyd
fase huna yn ddigon i gyflogi 600,000 o nyrsys ychwanegol.
No comments:
Post a Comment