Ar
ddiwrnod y Gyllideb fe roedd yna ddatganiad arall. Yn gyfleus iawn fe
gyhoeddwyd swydd newydd George Osborne.
Tra
roedd Philip Hammond yn difyrru’r
genedl gyda’i gyllideb gyntaf fe gyhoeddwyd tri chofnod newydd yn gofrestr
diddordebau Aelodau Seneddol gan ei rhagflaenydd fel Canghellor.
Roedd
un yn dangos bod Osborne wedi ei gyflogi fel ymgynghorydd gan gwmni rheolaeth Blackrock, bydd yn cael ei
dalu “£162,500 y chwarter am ymrwymiad o 12 diwrnod y chwarter.”
Mae
hwn yn gweithio allan fel cyflog o £13,541 y diwrnod, neu £54,166 y mis neu
glamp o £650,000 y flwyddyn – am
weithio un diwrnod yr wythnos. Wrth gwrs mae hwn ar ben ei gyflog o £74,962 fel Aelod Seneddol.
Ond
ydi ei threfniant gyda Blackrock ddim yn edrych yn rhy dda i gymharu â faint
mae wedi cael fel ffi am ddarlithio.
Mae
'na ddau gofnod arall yn y gofrestr yn dangos bod yr AS Torri dros Tatton wedi
cael £51,082 gan gymdeithas
fasnach a diwydiant Fflandrys a £15,081 gan Fanc Lloyds am siarad â hwy.
Mae
hyn yn gwneud 10 araith ers cael y sac gan Theresa May Gorffennaf diwethaf.
Mae
hun yn golygu ei fod wedi pocedi
£771,367
mewn ffioedd siarad am weithio 32 awr – yn golygu £24,105 yr awr.
Wel
y cyfoethog sydd yn cael y pleser ar dlawd yn cael y bai, neu fel dywed yr hen
ddihareb Cyfoeth, fel gelyn a ddwg ei gyrch ar y gwannaf.
No comments:
Post a Comment