“Dwi
yn gwneud fy ngwaith wedi ei selio ar ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad,
a chynllunio gweithredol ac i ffwrdd o hun mi roddaf atebion sy’n ffeithiol ac
yn gywir. Nid llinellau sydd yn
cael ei thaflu allan.”
Dyna
sut dechreuodd yr ysgrifennydd Brexit David Davis wrth bwyllgor Brexit Tŷ’r
Gyffredin wythnos diwethaf. Gwir dweud ar ôl yr agoriad positif yna i lawr aeth
ei dystiolaeth.
Bron
ar unwaith roedd rhaid I Davis cyfaddef nad oedd ei lywodraeth wedi gwneud
asesiad economaidd o effaith gadael yr UE heb gael bargen ar fasnachu – er I
Terresa May dweud “Fase dim bargen yn well na bargen wael.”
Ac
er mewn twll, dal i gloddio y gwnaeth. Pan ofynnwyd iddo pam nag oedd yna
asesiad, ei ateb “Mae’r pethe yma yn cael eu gwneud darn fel darn. Ar ôl creu'r
bloc Lego, mi adeiladwn y tŷ.”
Er
i ddeddf Brexit cael ei basio dywedodd y gwleidydd bydd yn cymryd dipyn hirach
i weithio allan yr effaith economaidd,
“Fedra I ddim mesur ichwi'r manylion eto, mae’n bosib y medraf wneud hun
pen rhyw flwyddyn.”
Pan
ofynnwyd iddo eto a oedd o yn bersonol wedi gwneud asesiad o effaith gadael yr
UE heb fargen, dywedodd “Mae gennyf farn eithaf clir sut bydd yn gweithio
allan. Dwi jest ddim wedi ei dadansoddi eto.”
Fe
aeth ymlaen i ddweud “ does ddim rhaid cael darn o bapur gyda rhif arno i gael
asesiad economaidd.”
Fe
drïodd cysuro'r pwyllgor drwy ddweud “ Bu imi dreulio rhan fwyaf o’m mywyd yn
gweithio fel dyn busnes cyn dod i wleidyddiaeth. Yn amyl da chi’n gwybod beth
sydd yn fargen dda er ichwi ddim cael y ffigyrau.”
Mae
diffyg “ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol” yn
dweud y cwbl mi dybiwn. Mae’n debyg bod David Davis yn gweithio ar well yr hun
a fegir na’r hyn a brynir.
No comments:
Post a Comment