Ras dau geffyl rhwng y Ceidwadwyr a
Llafur ydi hi yng Nghymru yn ôl
pôl piniwn diweddar ITV Cymru a Canolfan Llywodraethiant Cymru, Phrifysgol Caerdydd.
Mae Llafur 5 pwynt i fyny ar yr un diwethaf
gyda 35% a'r Ceidwadwyr i fyny 1 ar 41%.
Ond mae’r pleidiau eraill wedi cael ei
gwasgu.
Mae Plaid Cymru i lawr 2 i 11%; y
Democratiaid Rhyddfrydol i lawr 1
i 7%; UKIP i lawr 2 i 4% ar weddill i lawr hefyd i 2%
Er bod Llafur wedi cae’r bwlch ar y Ceidwadwyr yn y pythefnos ers y pôl diwethaf ond mae’r tir mae nwy wedi ennill oddi wrth y pleidiau
eraill ac nid wedi gwneud argraff o gwbl ar gefnogaeth y Ceidwadwyr.
Yn ôl dehongliad yr Athro Roger Scully o
brifysgol Caerdydd mae hun yn golygu bydd y Ceidwadwyr gyda 20 sedd yng Nghymru. Wedi ennill 9 sedd oddi wrth Lafur bydd 16 o seddi ar ôl gany blaid.
Bydd Plaid Cymru yn dal hefo 3 a Democratiaid Rhyddfrydol gyda 1.
Bydd Plaid Cymru yn dal hefo 3 a Democratiaid Rhyddfrydol gyda 1.
Bydd Plaid Cymru yn siomedig i weld bod y
Ceidwadwyr dal ar drac i ennill Sir Fôn oddi wrth Lafur ac nid hwy er iddynt
ddewis ei cyn arweinydd Ieuan Wyn Jones i’w cynrychioli yn yr ornest.
Mae’r pôl yn dangos ar ben canlyniad yr
etholiadau lleol nad yw Llafur am
ildio yn rhwydd ei lle fel y blaid
fwyaf dylanwadol yng Nghymru.
Gan fod y cyfryngau wedi canol bwyntio ar
yr ornest rhwng Corbyn a May mae
hun wedi newidio gobeithion y pleidiau eraill.
Ond heb os mae’r arolwg diweddar yma yn dal
i ddangos bod Llafur ar ei ffordd o ildio ei choron fel plaid fwyaf y genedl Cymraeg.
No comments:
Post a Comment