Wednesday, 9 October 2019

Heddwch a chynigion Johnson




Mae heddwch, llonyddwch a chymdogaeth dda wedi para ar yr ynysoedd yma am yr 30 mlynedd diwethaf, ond am ba hyd?

Mae’r heddwch a enillwyd yn anodd yn Iwerddon ac a alwyd yn ‘cytundeb Gwener y Groglith’ nawr mewn perygl o dan gynigion Johnson. 

Fawr syndod bod yr Undeb Ewropeaidd ar fin ei gwrthod.

Mae’r ddwy ran o’r Iwerddon a'r Deyrnas Unedig wedi cael “ardal teithio gyffredin” ers sefydlu’r weriniaeth heb unrhyw wahardd ar symudiad pobol yn y ddwy ynys.

Ond roedd gogledd Iwerddon yn lle cymhleth gwleidyddol. 
Ers sefydlu gogledd Iwerddon yn 1922 mae mwyafrif y boblogaeth yn cyfrif ei hunain yn Brydeinwyr a lleiafrif yn cyfri eu hunain yn Wyddelig. 

Ers  i Stormont cael ei sefydlu mae’r Undebwyr wedi cael grym dilyffethair gwleidyddol yn y dalaith gyda’r lleiafrif yn teimlo bod yna anffafriaeth ddofn yn eu herbyn. 

Yn ‘60 y ganrif ddiwethaf fe ddechreuodd y lleiafrif ymgyrchu am ei hawliau ond yr ateb oedd ataliad. Ac yn dilyn yr ataliad fe ddechreuodd y brwydro arfog gwaedlyd a pharodd am 30 blwyddyn. Gyda ffin galed rhwng de ar ogledd ac o gwmpas y ffin roedd bywyd yn bell o fod yn normal. 

Yn y cyfamser roedd Iwerddon ar Deyrnas Unedig yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Ac ar haeriad Maggie Thatcher fe  ddaeth y farchnad sengl i fodolaeth. Felly wrth ochor yr Undeb Tollau ar ardal teithio gyffredin roedd yna ddim rheswm economaidd am ffin rhwng y Gogledd a’r De.

A gyda hun fe ddylanwadodd hun ar y wleidyddiaeth. Gyda chytundeb Gwener y Groglith fe ddaeth  y wahanol hunaniaethau cenedlaethol i gydfodoli yn dilyn yr heddwch bregus.  Roedd cwestiynau dirfodol am sofraniaeth yn cael ei phylu. Fe ddaeth y ffiniau diogelwch i lawr. Roedd ecosystem farchnadol a thollau’r Undeb Ewrop yn hanfodol i’r datblygiad yma ac yn wir mae’n hanfodol hyd nag at heddiw. Ond mae Brexit yn golygu bod y DU yn gadael yr ecosystem yma.

Mae cynlluniau Johnson yn dod a’r ffin yn ôl.  Nid yn unig bydd y rheolau yn creu difrod economaidd i Ogledd Iwerddon ond mae’n ail  agor y cwestiwn hunaniaeth genedlaethol a mater sofraniaeth yn ôl i'r agenda. 

Mae 'na risg uchel bydd trais  yn dod yn ôl i ynysoedd Prydain.