Saturday 27 July 2013

Dewis y dydd - Butterfly McQueen


Yn ôl ar ôl wythnos i ffwrdd. Ac i rai wythnos y Tywysog George oedd hi ond nid i fi, cewch fy marn ar y lol yn fan yma http://welshpolitics.co.uk/2013/07/unto-us-a-son-is-born/  Na'r King George fydd yn cymryd fy sylw yn Ascot y prynhawn ‘mha.

Ar y maes fydd ceffylau gorau’r byd, a chwpwl o rhai tair blwydd oed diddorol sef Trading Leather a Hillstar.

Mae gan Girrus Des Aigles handicap na fedrith yr un o’r ceffylau eraill ddod yn agos at. Mae wedi ennill yn Ascot ac wedi rhoi ras dda i’r hen Frankel yn ei ddydd. Dyna pam mae’r statws ganddo a hefyd yn dilyn hynny od byr. Ond fe gollodd yn ei ras gyntaf  o’r tymor newydd i Novellist.
Rwy yn credu bod yna fwy i ddod o’r ceffyl ond mi fase dipyn a llaw yn ei siwtio yn well, ond Novella fydd fy newis yn y ras mawr.

I ddilynwyr Manchester United, ac mae 'na un neu ddau, bydd Butterfly McQueen o ddiddordeb gan mae Syr Alex Ferguson yw’r perchennog ac mae ganddo siawns eithaf da yn y 2.40 yn Ascot.

Wythnos nesaf bydd Goodwood godidog ac mi ro wasanaeth llawn ar y blog mha os na fydd yna lawer o ddigwyddiadau gwleidyddol. O bosib fedrai gwneud yn well na 5 ymgeisydd yn isetholiad Môn.

Wel, hwyl am y tro, a chofiwch bob ffordd ar fet dros 7/1.

2.05 Ascot:                QUEEN CATRINE / Fig Roll
2.20 Efrog                  SMARTY SOCKS (nb) / Al Khan
2.40 Ascot                  BUTTERFLY McQUEEN (nap) / Intrigo
2.55 Efrog                  MUKHADRAM / Apache
3.15 Ascot                  PRINCE OF JOHANNE / Field Of Dream
3.30 Efrog                  TROPICS / Khubala
3.50 Ascot                  NOVELLIST / Cirrus Des Aigles 

No comments:

Post a Comment