West Ham fydd yn ymweld ag Abertawe. Mae
tîm Allardyce yn chwarae'r em yn
hollol wahanol i Abertawe yn defnyddio’r bel hir ac yn ymosodol iawn. Fydd yn
rhaid i Abertawe canolbwyntio am y 90 munud os am fuddugoliaeth.
Mae Malky Mackay yn mynd a Gaerdydd i’w hen
glwb Norwich. Mae Norwich yn anodd Ei churo wrth chwarae gartref felly fydd yn
em galed i Gaerdydd.
Roedd dewis Sadwrn diwethaf yn goblyn o
wael, fe newidiodd y tywydd ac felly roedd y tir yn eithafol feddwl ac o
ganlyniad roedd llawer i geffyl allan o’i chynefin. Gobeithio cawn well hwyl
heddiw.
Mae’r 3.50 yn Doncaster yn rhoi rhiw fath o
syniad o ba geffylau fydd yn hawlio sylw yn y rasys clasur flwyddyn nesaf. Yn
sicr mae Aidan O’Brien wedi defnyddio'r achlysur i ddangos rhai o’i cheffylau
ieuaf ac mae ei geffylau wedi ennill 3 allan o’r pedwar ras ddiwethaf. Mae ganddo tri cheffyl yn y ras sef
Buonarroti, Century a Johann Strauss. Rwyf yn tybio na Century ydi’r gorau o’r
tri.
Ond fy nau ddewis i yn y ras ydi ceffyl
sydd yn cael ei hyfforddi gan Richard Hannon a fydd Richard Hughes ar ei gefn,
sef Chief Barker – mae yn geffyl o safon. Fy ail newis, ceffyl sydd yn cael ei
hyfforddi gan Roger Varian,
Kingston Hill. Mae hwn yn haeddu sylw wedi gwneud pob dim yn iawn hyd yr
hun.
Mae gweddill fy newis i isod. Cofiwch bob
ffordd ar od dros 7/1. Fedrwch ei gweld ar Sianel Pedwar Lloegr.
Doncaster
2.40 Thomas
Hobson/Ennistown
3.15 Steps/Take
Cover
3.50 Chief
Barker/Kingston Hill
Newbury
2.20 Piping Rock/Trading Profit
2.55 Prince
Bishop/Quiz Mistress
3.30 Break
Rank/Sam Sharp
Aintree
1.55 Karinga
Dancer/Cool Baranca
3.05 Wishfull
Thinking/Walkon
No comments:
Post a Comment