Saturday 28 December 2013

Y Genedlaethol

Diwrnod arbennig o rasys yng Nghas-gwent heddiw – “Grand National” Cymru.

Ras i geffylau tros bedwar blwydd oed dros 3 milltir a phump a hanner ystaden neu i’r ifainc 5,934 metr a hefyd tros ddau ar hugain naid. Dipyn o dasg felly. Buddugoliaeth weddol leol oedd hi yn 2012 ceffyl yr hyfforddwr Michael Scudmore sef Monbeg Dude. Pwy fydd yn cael y fuddugoliaeth eleni?

Wel mae 'na bedwar ar bymtheg o geffylau yn rhedeg y ras, tri sydd yn cymryd fy ffansi.

Wel fy newis cyntaf ydi hen law sef Tidal Bay. Pwy fase yn dewis ceffyl sydd yn tri ar ddeg pen ychydig ddyddiau.  Mae wedi profi ei hun  dros y  blynyddoedd ac fe enillodd y cwpan aur yn Sandown  yn Ebrill y llynedd ac mae hi yn dal yn medru cymysgu gyda’r gorau.  Fydd y tir trwm yn ei siwtio.

Highland Lodge ddaru ddod allan o’r Hennesy yn weddol dda ac mae ganddo ddigon o stamina i ddelio a daear fydd yn eithriadol flinedig.

Ceffyl sydd wedi gwneud y pellter ac i mi sydd yn werth edrych arno gyda phris eithriadol ar 20/1 ydi Hey Big Spender. Rydio ddim wedi dangos  ei allu'r tymor yma, ai heddiw fydd yn dangos ei hen ddawn?

Pob lwc a blwyddyn newydd dda.

Gweddill y rasys
12.30              Deputy Dan
1.0                  Bertie Boru
1.30                Moorlands Mist
2.00                Violet Dancer
2.35                Tidal Bay/Highland Lodge/ Hey Big      Spender
3.10                Coverholder

3.45                Capilla

No comments:

Post a Comment