Diwrnod y Derby, un o rasys mwyaf y byd.
A’r ffefryn ydi Australia. Yn ôl
ei hyfforddwr, Aidan O’Brien tydi
e ddim wedi cael gwell ceffyl i
hyfforddi. Mae O’Brian wedi
ennill yr ornest clasurol hwn pedair gwaith felly mae’n dipyn o ddweud. Yn sicr
mae’r bwci yn sylweddoli bod y ceffyl yn ‘special’ a phris gwael iawn a gewch
am eich arian.
Fy nghyngor i chwiliwch am geffyl a phris da a baciwch e bob
ffordd i ddod yn ail neu yn drydydd. Ond pa un ydi’r cwestiwn? Wel, imi'r ceffyl sydd am roi ras I
Australia ydi Kingston Hill, mae’n geffyl sydd wedi arfer ennill. Un arall sydd
a mesur Australia ydi ceffyl arall O’Brian, Geoffrey Chaucer. Mae 'na sibrwd ei
fod yn cael y gwell ar Australia yn y rasys hyfforddi. Ond fy newis i fydd
Orchestra, welais e yn rhedeg yn Gaer a dwi yn meddwl ei fod yn ddigon abl i
ddod yn ail ond ar bris da.
Y dewis felly i ddod yn ail i
Australia. Orchestra, Kingston
Hill, Geoffrey Chaucer.
Gweddill y rasys
1.35 Black Shadow
2.05 Baitha Alga
2.40 Talent
3.15 Caspian Prince
4.00 Kingston Hill
4.50 Kelinni
5.25 Normal Equilibrium