Datganiad
yr Hydref oedd y cyfle cyntaf i gymryd stoc economaidd ar ôl y bleidlais y
genedl i adael Ewrop.
Daeth
Y Canghellor I’r Tŷ Cyffredin ac mae’n rhaid dweud bod y cyfan fel sgwib
llaith.
O
flaen llaw roedd y 'spin' i gyd oedd
sôn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Ond yn y diwedd codiad dim ond
codiad o 0.3% I 0.4% o’r GDP ym
mhob blwyddyn ariannol rhwng 2017
i2020. Mae’r ffigyrau jest tipyn yn uwch na beth oedd y llywodraeth Llafur yn
gwario cyn yr argyfwng ariannol.
Gan
fod lefelau llog mor isel mi ddylai ni fod yn gwario llawer llawer mwy. Mae Philip Hammond wedi cymryd mantra
Ed Balls o ddifri a rhoi hwb i isadeileddau, tai a sgiliau ond nid i’r graddau
i sefydlu economi cadarn a llai o lawer na’r gwledydd diwydiannol yn ein cylch cyfoedion.
Beth
roedd yr economi eisio oedd ei ailgychwyn ond be gafodd o roedd dipyn o
‘makeover’ ysgafn.
Fe
roedd ‘cap’ ar wariant ar fudd-daliadau a bydd y tlawd – rhai yn gweithio a’r
di-waith – yn colli tua 2% y flwyddyn. Bydd ei safonau byw yn dirywio.
Ac
yn ôl Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) mae’r rhagolwg a’r gyflog yn
“ofnadwy.” Yn ôl yr IFS bydd gweithwyr yn ennill llai o gyflogau yn 2021 ac roeddent yn ennill yn 2008.
Ac
yn ôl y datganiad Philip Hammond
bydd cost gadael yr Undeb Ewropeaidd I’r economi tua £58.6 biliwn. Pam?
Llai o ymfudiad, llai o gynhyrchaeth a’r economi ar ei lawr gan fod yna
ansicrwydd.
Pris
go fawr i dalu am adael Ewrop.