Un o elfennau
pwysig cyfansoddiad yr DU ydi rheolaeth cyfraith ac annibyniaeth barnwyr. Ond yn sicr nid felly
mae rhai o’n papurau yn ei gweld hi yn dilyn dyfarniad yr uchel Lys ar Erthygl 50. Mae eu hymateb wedi bod
yn ffyrnig, yn llawn casineb at y barnwyr, rhai yn mynd mor bell a gofyn iddynt gael y sac.
A heb golli
cyfle roedd David Davies aelod Mynwy yn trydar
”@DavidTCDavies
Unelected
judges calling the shots. This is precisely why we voted out. Power to the
people!” a Douglas Carswell AS yn awgrymu bod rhaid cael barnwyr gwahanol trwy
ddiwygio'r system o ddewis barnwyr. Er mwyn cael rhai fase yn siwtio eu hagwedd
gwleidyddol o, mae’n debyg.
Ond beth
yn union oedd trosedd y barnwyr? Edrych ar y gyfraith ac nid ar wleidyddiaeth. Roeddent yn gadarn yn eu barn nad
oedd yr hun yn ddim i wneud a’r teilyngdod o fod i mewn neu allan o’r UE ond ar
gwestiwn a oedd hi’n gyfreithiol i’r llywodraeth penderfynu ar erthygl 50 neu’r
senedd.
Ac yn
unfrydol fe benderfynwyd nad oedd gan y llywodraeth y grym. Pam? Am fod hi’n
egwyddor sylfaenol o’r cyfansoddiad fod y rhagorfraint y Goron ddim yw
defnyddio i gymryd hawliau roedd wedi eu trosglwyddo i ddinasyddion trwy’r
senedd. A dyna fase wedi digwydd pe bau’r llywodraeth yn cael eu ffordd.
Yn y bôn
a’ yw ein papurau newydd ac ein gwleidyddion eisio cyrtiau annibynnol neu ddim.
Yn sicr ar ôl yr ymateb yr ateb i’w “na.” Ac yn wir mae hun yn mynd a ni i lawr ffordd lithrig tros ben fel
cymdeithas.
No comments:
Post a Comment