Wednesday 26 October 2016

'Balans'

Yn ddiweddar cefais y fraint o fod ar banel o ddarlledwyr a newyddiadurwyr yn trafod darlledu gwleidyddiaeth i bobol ifanc a fu trafodaeth ar y cwestiwn o ‘balans.’

Does dim dwywaith bod y cyfryngau darlledu ac yn enwedig y BBC yn gwneud job ragorol o gyfleu gwybodaeth i’r gwyliwr yn hygyrch, rhwydd i ddeall ac yn addysgiadol. Ond y munud mae’r pwnc yn un gwleidyddol mae’r ddawn yn mynd allan drwy’r ffenestr.

Y rheswm, os yw’r pwnc yn wleidyddol mae rhaid rhoi ‘balans’ dros bob dim arall.  Mae gwleidyddiaeth yn cymryd lle cywirdeb ac yn amyl  y gwir.

Daeth hun yn amlwg yn y refferendwm diwethaf  pan roedd barn mwyafrif helaeth (364 i fod yn fanwl gywir) o economegwyr yn dweud bod gadael yr undeb Ewropeaidd am wneud niwed i economi ein gwlad yn cael ei balansio gyda barn un neu ddau o rhai yn dal y syniad i’r gwrthwyneb ond roedd y darlledwr dim yn crybwyll ei fod yn farn leiafrifol o dra un neu ddau o economegwyr ac nid rhan o’r brif ffrwd.

Esiampl arall o esgeulusid ein darlledwyr ydi gadael i wleidyddion dweud anwiredd heb ei herio ar bob achlysur mae’r anwiredd yn cael eu dweud. Enghraifft o hun oedd creu'r myth fod afradlonedd Llafur wedi creu llymder. Os nad yw ein cyfryngau yn cywiro gwleidyddion pan mae’n yn dweud celwydd, mae hun yn rhoi cymhelliad i’r gwleidyddion i gelwydda. Mae hun yn ystumio ein democratiaeth.

Gyda’r twf  o rwydweithiau cymdeithasol sydd yn cyfleu rhagfarnau fel ffeithiau does neb ond ein darlledwyr cyhoeddus i fynegi i’r cyhoedd y gwir. Mae yn ddyletswydd arnynt i wahaniaethu rhwng y ‘ffeithiau’ ar ’spin.’ Ond yn amyl mae hun yn cael ei foddi gan wleidyddion yn  gweiddi - ‘bias.’


Does 'na ddim ond un ffordd o osgoi ffeithiau yn cael eu hystumio, a hynny drwy eu cywiro yn y fan ar le. Fel y gwelir yn y ddadl rhwng Trump a Clinton un o oblygiadau'r cymedrolwr ydi cywiro. Os oes un o’r ymgeisydd yn dweud X ac X ddim yn wir mi ddylai'r cymedrolwr dweud hun. Ac mi ddylai hun fod yn rhan o ddyletswydd pob cyfwelydd.

Mae eisiau trin a thrafod gwleidyddiaeth ar y tonfeddi, ond mae’n rhaid i’r drafodaeth  dod a goleuni i’r gwrandäwr ac nid eu camarwain. Mae’r rheolau presennol ar balans yn camarwain.


No comments:

Post a Comment