Wednesday, 5 October 2016

Edrych yn ôl ar gynhadledd y Ceidwadwyr


Cynllun i ddod i ben y rhwyg yn y blaid geidwadol ar Ewrop oedd y refferendwm. Ond mae’r rhaniadau heddiw yn ddyfnach yn y blaid nag erioed. Ac fe ddaeth hun i’r amlwg yn eu cynhadledd ym Mirmingham yr wythnos yma.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ei rhwygo i dair carfan ar  brexit. Mae dilynwyr David Davis a Liam Fox o blaid ‘brexit’ caled. Mae cyn gweinidogion fel Anna Soubry a Nicky Morgan yn ceisio gweld y DU  yn gweithio yn agos gyda'r UE ‘Brexit’ meddal.

Ac yn y canol mae 'na weinidogion sydd yn cael ei arwain gan y canghellor Phillip Hammond sydd yn derbyn bod ‘brexit yn golygu brexit’ ond fase eisio gweld y DU yn cael mynediad i’r farchnad sengl.

 Pe base y rhai sydd eisio brexit caled yn cael ei ffordd fase yn tanseilio un o fanteision mwyaf eu plaid sef y canfyddiad o enw da  ar gymhwysedd economaidd – mantais sydd yn ennill etholiadau i’r blaid. Ac yn sicr yn rhai o’r seddi ymylol fase yn lleihau eu hapêl.

Er I Terresa May dweud ei bod am roi'r ergyd ar ddechrau'r broses o ymadael yn fis Mawrth nesaf does 'na ddim eglurder ar sut ddyfodol gydag Ewrop mae’r DU eisio. Mae’n dechrau siwrne heb unrhyw syniad o’ ble mae’r daith yn dod i ben.

 Yr opsiwn gorau i’r elit gwleidyddol ac ariannol fase  rhywbeth yn debyg  I ‘Norwy plws.’ Mae gan rain tipyn o ddylanwad yn y blaid Geidwadol. Ond mae cael bod yn rhan o’r farchnad sengl hun yn golygu derbyn symudiad rhydd i weithwyr a chyfraniad at y cyllid Ewropeaidd a hefyd derbyn rheoliadau'r UE heb y gallu i ddylanwadu ar y rheolai hun. Mae’r opsiwn yma yn edrych yn fwy  annhebyg yn ddyddiol.

Am resymau jingoistiaeth mae rhan fwyaf o aelodaeth yn blaid Geidwadol o blaid Ond ar y llaw arall fase symud at bolisi masnach unochroldeb yn creu sioc strwythurol enfawr i economi Prydain. Base hynna yn gwahanu’r blaid geidwadol o’i sylfaen etholedig yn fyd corfforaethol Dinas Llundain. Bydd blynyddoedd  o ansicrwydd sydd yn cael ei greu trwy flynyddoedd o drafodaethau cymhleth yn sicr yn her i fuddsoddiad o’r tu allan (ac mae Cymru a’r DU yn fwy dibynnol ar fuddsoddiad tramor na llawer i uwch economi.) Bydd llawer i benderfyniad ar fuddsoddi yn cael ei ohirio neu eu canslo fel mae Nissan newydd i arwyddo yn Sunderland.

Ac yn sicr fydd methu cael hawliau pasbort i’r sector ariannol  i fasnachu mewn gweithgareddau'r Euros a fase yn peryglu Dinas Llundain fel canolfan ariannol y byd. I hun ddigwydd o dan lywodraeth Geidwadol fase hun yn ddatblygiad hynod o dro bedol ar gefnogaeth hanesyddol y blaid i’r sector.

Mae brexit yn her hefyd i wladwriaeth Prydain. Mae’n  rhaid i’r llywodraeth Geidwadol  gwneud penderfyniadau economaidd yn y cyd-destun system wleidyddol sy’n gamweithredol ac mewn argyfwng. Mae annibyniaeth yr Alban ac yr holl broblem o gytundeb y Pasg yn datglymu a hud yn oed Llundain eisio hawliau arbennig mae hun oll yn pwyntio at Brydain yn chwalu.

Felly mae’r her i’r blaid Geidwadol yn un aruthrol fawr. A does ddim arwydd yn dod o’i chynhadledd bod ganddynt unrhyw syniad sut i ateb yr her.


No comments:

Post a Comment