Thursday, 6 October 2016

Pwyso am newidiadau i Mesur Cymru

“Tydi Mesur Cymru ddim yn ddigon da i’r pwrpas ac mae yn gam yn ôl.” Crynodeb o farn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Cymru ar Fesur Cymru.

Yn ôl Cadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, bydd rhaid i’r Tŷ Arglwyddi, sydd yn dechrau trafod y Mesur dydd Llun nesaf (Hydref ’16), newid llawer ar y Mesur i wneud e’n deilwng o’r pwrpas gwreiddiol, sef cryfhau a symleiddio cyfansoddiad llywodraeth Cymru.

Fe aeth yn bellach gan ddweud bod y Mesur “yn gam yn ôl i'r broses ddatganoli.” Heb newidiadau sylfaenol ni fydd y mesur yn ddigon i sicrhau setliad datganoli parhaol. 

Pwrpas y Mesur yw diffinio'n gliriach pa lywodraeth, un a'i San Steffan neu Bad Caerdydd, sy'n gwneud beth. 

Felly mae Bil Cymru yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y fframwaith fel y gall y Cynulliad deddfu yng Nghymru mewn meysydd megis iechyd ac addysg i wella  bywydau a chyfleoedd trigolion y wlad.

Ar lawer achlysur mae Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol wedi mynnu y byddai'r Mesur yn gwneud  datganoli yn gryfach, clir a theg.

Bwriad aelodau’r pwyllgor ydi nawr ceisio dylanwadu ar Dŷ’r Arglwyddi i wneud gwelliannau sylweddol tra mae’r mesur yn mynd ar ei siwrne drwy’r Tŷ.

Sylw

Pan gyhoeddwyd y mesur diweddara y bwriad oedd y base’n para oes.  Hyd nod fase’r ysgrifennydd gwladol yn gwneud tro bedol a derbyn holl argymhellion pwyllgor Huw Iranca-Davies mae’n debyg bydd rhaid cael deddf arall yn hwyr neu'n hwyrach. Pam? Yn syml ‘brexit.’ Bydd termau gadael yr UE yn rhoi straen  cyfansoddiadol ar y Deyrnas. Yn y pen draw fydd rhaid cael confensiwn cyfansoddiadol i ddelio a’r newidiadau ac fydd rhaid gofyn y cwestiwn ble mae’r DU yn mynd? Beth yw ei phwrpas? a pham ddylem fod yn rhan ohoni? Cwestiynau fydd rhaid eu hateb.  Fydd had y felltith brexit yn tyfu yn rhwydd  ond yn wahanol yn dir ein pedwar gwlad.



No comments:

Post a Comment