Thursday, 1 December 2016

Gadael y Farchnad Sengl.


Fe enillwyd y bleidlais ar refferendwm ymgynghorol gan fwyafrif bychan i adael yr Undeb Ewropeaidd.  A dyna’r unig beth ddaru'r mwyafrif tenau  benderfynu.

Ddaru nhw ddim pleidleisio i adael y farchnad sengl (FS)  gan fod rhan fwyaf o’ arweinydd yr ymgyrch gadael wedi dweud wrthym fod gadael yr UE yn gydnaws o aros yn y FS. Ddaru nwy  ddim pleidleisio i ddod a rhyddid symud i ben er bod rhai yn sicr eisio lleihau mewnfudo. 

Y ffaith am dani ydi gadael yr UE ddim yn un polisi ond amrywiaeth eang o bolisïau gydag effeithiau gwahanol a tydi’r etholwyr wedi dweud dim am eu blaenoriaethau rhwng yr holl bosibiliadau. Yn fyr, roedd y refferendwm am yr UE ac nid y FS, a beth bynnag mae nwy yn dweud nawr mae yn bosib bod yn rhan o’r FS heb fod yn rhan o’r UE.

Ond mae  Teresa May a’i llywodraeth newydd heb unrhyw fandad wedi penderfynu na nwy a nwy yn unig fydd yn cael yr hawl i ddehongli beth fydd gadael y r UE yn golygu, ac ni ddylai’r etholwyr trwy eu cynrychiolwyr gael unrhyw ddweud ar y mater. Dyna pam mae llywodraeth Cymru yn mynd i’r uchel lys yr wythnos nesaf, i sicrhau bod llais pobol Cymru trwy eu cynrychiolwyr yn y cynulliad yn cael eu dweud ar y mater.

Os caiff Teresa a’i chriw ei ffordd ni caiff y bobol unrhyw ddylanwad ar le yn union mae nwy yn cael eu harwain. Mae’r gwahaniaethau rhwng y llwybrau o adael yr UE yn enfawr, a bydd y dewis o ba ffordd i adael yn cael anferth o effaith ar bob dinesydd. Er hynny tydi’r bobol na eu cynrychiolwyr ddim yn hud nod cael gwybod pa opsiynau mae’r llywodraeth yn  anelu at.

Ond mae’r propagandwyr ar ideolegwyr o’r ochor ‘allan’ yn disgrifio unrhyw gais i gael llais i’r senedd yn San Steffan ac i’r cynulliad fel rhyw fath o frad ar y bobol. Dyma oedd agwedd UKIP yn y Cynulliad yr wythnos yma. Mae unrhyw ymgais i aros yn y FS a hyd nod jest ofyn y cwestiwn yn cael ei disgrifio fel ymdrech i roi stop ar Brexit er nad ydyw. Pam dim ond gweld beth sydd ar gael, cyn i’r cloc dechrau a ni'n gael ein taflu allan heb ddim?

Beth am ail refferendwm ar ôl gwybod beth sydd ar gael yn y diwedd? Mae trio cael gwybod beth mae’r etholwyr yn meddwl ar y peth yn erbyn ewyllys y bobol, ac yn hollol annerbyniol i’r ochor ‘allan.’ Dyna ichwi eironi. Pan mae rhywun yn dweud bod cysylltu'r bobol neu ei chynrychiolwyr yn erbyn ewyllys y bobl yn rhywbeth fase rhywun yn disgwyl yn y nofel 1984 dim yn wlad ddemocratig fodern.

Y gobaith yw bydd y goruchaf lys yn rhoi'r hawl yn ôl i’r aelodau seneddol cael dweud pryd a sut mae erthygl 50 yn cael ei danio. Ond oes 'na ddim arwydd bod San Steffan am wneud llawer i arbed y llywodraeth daflyd i ffwrdd ein haelodaeth o’r FS, mae'r ASau fel tyrcwn am pleidleisio dros Nadolig. Felly ein gobaith yw bydd ein cynulliad Cenedlaethol yn dangos dipyn mwy o asgwrn cefn a dal pethe i fyny tan bod 'na sicrwydd am ddyfodol economaidd Cymru. 


No comments:

Post a comment