Prydain Byd-eang – dyna’r cysyniad mwyaf twp a welwyd erioed. Mae’n slogan sydd wedi ei fyffro gan y brecsidiers er mwyn ein hargyhoeddi bod hi’n bosib osgoi effaith negyddol ar farchnata o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ffantasi llwyr.
Yn ôl y brecsidiers yr UE oedd yn ein hatal o wneud fargen da ar farchnata gan fod rhai o’r gwledydd yn yr Undeb yn edrych ar ôl eu budd eu hunain ac yn sefyll yn erbyn unrhyw fargen ar farchnata bydd o fantais i Brydain. Dadl heb fawr o sylfaen.
Yn gyntaf mae gan y UE cytundeb masnacha gyda 50 gwlad gyda llawer mwy yn y lein pibell. Yn sicr mae gwledydd eraill yn fwy awyddus i gael cytundeb gyda’r UE na gyda Phrydain gan fod e yn farchnad llawer mwy na un Prydain.
Mae marchnad mwy yn rhoi grym mewn unrhyw gytundeb. Mae 'na bryder yng Nghymru ar hyn o bryd ar y ffordd mae Trump yn torri cytundebau a rhoi mur tollau ar ddur sydd yn dod o Gymru. Os oes gennych farchnad cymaint ag yr Unol Daleithiau America fel sydd gan Ewrop mae’n bosib creu digon o boen i wneud yr UDA ail feddwl. Nid felly fase hi pe bai Prydain ar ben ei hun.
Pe bai ni yn gadael yr Undeb heb gytundeb a chael y perffaith ryddid i ddelio ag gwneud cytundebau gyda gwledydd gweddill y byd fase hun ddim yn dod yn agos i’r farchnad rydym am golli drwy adael yr undeb. Mae’n ffaith boed ein farchnad gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 5 gwaith mwy na’r hun sydd gennym gyda’r India.
Na, slogan heb unrhyw sylfaen ydi ‘Prydain Byd-eang.’ Slogan i’n cysuro bydd popeth yn iawn ar ôl troi ein cefnau ar y farchnad sengl. Ond fel llawer iawn o beth sydd wedi cael i ddweud am frecsid, twyll llwyr yw.
No comments:
Post a Comment