Saturday 28 December 2013

Y Genedlaethol

Diwrnod arbennig o rasys yng Nghas-gwent heddiw – “Grand National” Cymru.

Ras i geffylau tros bedwar blwydd oed dros 3 milltir a phump a hanner ystaden neu i’r ifainc 5,934 metr a hefyd tros ddau ar hugain naid. Dipyn o dasg felly. Buddugoliaeth weddol leol oedd hi yn 2012 ceffyl yr hyfforddwr Michael Scudmore sef Monbeg Dude. Pwy fydd yn cael y fuddugoliaeth eleni?

Wel mae 'na bedwar ar bymtheg o geffylau yn rhedeg y ras, tri sydd yn cymryd fy ffansi.

Wel fy newis cyntaf ydi hen law sef Tidal Bay. Pwy fase yn dewis ceffyl sydd yn tri ar ddeg pen ychydig ddyddiau.  Mae wedi profi ei hun  dros y  blynyddoedd ac fe enillodd y cwpan aur yn Sandown  yn Ebrill y llynedd ac mae hi yn dal yn medru cymysgu gyda’r gorau.  Fydd y tir trwm yn ei siwtio.

Highland Lodge ddaru ddod allan o’r Hennesy yn weddol dda ac mae ganddo ddigon o stamina i ddelio a daear fydd yn eithriadol flinedig.

Ceffyl sydd wedi gwneud y pellter ac i mi sydd yn werth edrych arno gyda phris eithriadol ar 20/1 ydi Hey Big Spender. Rydio ddim wedi dangos  ei allu'r tymor yma, ai heddiw fydd yn dangos ei hen ddawn?

Pob lwc a blwyddyn newydd dda.

Gweddill y rasys
12.30              Deputy Dan
1.0                  Bertie Boru
1.30                Moorlands Mist
2.00                Violet Dancer
2.35                Tidal Bay/Highland Lodge/ Hey Big      Spender
3.10                Coverholder

3.45                Capilla

Saturday 9 November 2013

Rasys Sadwrn am y tro diwethaf.

Fy newis am heddiw. Maen nhw i gyd i weld ar Sianel 4 Lloegr. Ni fydd y golofn yn ymddangos ar ôl heddiw ond ar achlysurai arbennig. Mae prinder amser yn golygu na fedrai rhoi amser i ymchwilio fy newis. Felly gobeithio gadael y llwyfan  efo dipyn o stwr. Pob Hwyl

1.50 Doncaster
FAVOURITE TREAT
Mae’r  ceffyl tair blwydd oed yn cael ei hyfforddi gan Mark Johnston. Dim ond tair ras mae’r ceffyl wedi rhedeg ond fe redodd yng Nghas-gwent am y tro cyntaf yn fis Medi a enillodd o naw meithder ac yn ail yn Lingfield.  Fy ail ddewis ydi Tariq Too

2.05 Wincanton
KARINGA DANCER (Nb
Fe enillodd ceffyl Harry I ni yn Aintree pan iddi yn ei hael ymddangosiad a dechreuodd  y tymor neidio lle ddaru hi orffen flwyddyn ddiwethaf... Fy ail ddewis ydi Melodic Rendezvous.

2.25 Doncaster
HIGHLAND COLORI (NAP)
Hen ffefryn i mi a dyma fy newis nap. Fe enillodd dros 7 ystaden pythefnos yn ôl. A bydd meddaldra'r tir ddim yn broblem i’r ceffyl. Fy ail ddewis ydi Eton Rifles.

2.40 Wincanton
STANDING OVATION
Mae yn rasio o’r pwysa isaf ac i fyny dosbarth ond mae yn mynd am ei trydedd fuddugoliaeth heddiw. Mae ceffyl David Piper wedi ennill dros y cwrs a’r pellter. Fy ail ddewis ydi Pantxoa

3.00 Doncaster
CUSHION
Swclen John Gosden oedd y ffefryn a gollodd yn Newmarket mis un ôl ond er hynny hi sydd yn cymryd fy sylw yn y ras yma. Fy ail ddewis ydi Yojojo.


1.50 Doncaster
FAVOURITE TREAT/Tariq Too

2.05 Wincanton
KARINGA DANCER (Nb) /Melodic Rendezvous

2.25 Doncaster
HIGHLAND COLORI (NAP)/Eton Rifles

2.40 Wincanton
STANDING OVATION/Pantxoa

3.00 Doncaster
CUSHION/Yojojo


3.35 Doncaster
HI THERE / Lahaag




Saturday 2 November 2013

Dewis y diwrnod


Pen wythnos wych a chwaraeon wedi dechrau neithiwr gyda buddugoliaeth Bangor yng nghynradd Cymru dros Gei Connah


Abertawe a Caerdydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn gynghrair Lloegr. Pwy fydd yn brolio nos fory? Cawn weld.

Heddiw ddigon o ddiddordeb yn y rasys hefyd. Ar ôl penwythnos llewyrchus gyda thair buddugoliaeth wythnos diwethaf rhaid adeiladu ar y llwyddiant. Dyma nhw. Cofiwch y rheol bob ffordd ar dros 7/1. Pob lwc

1.50 Wetherby
COCKNEY SPARROW/L’Unique

2.10 Ascot
KING EDMUND/Fairy Rath

2.30 Down Royal
SIZING EUROPE/First Lieutent

2.45 Ascot
COURT MINSTREL/Makari

3.00 Wetherby
TIDAL BAY/Trustan Times

3.20 Ascot
TRIOLO D’ALENE/Same Difference

3.35 Wetherby
LONG RUN/ Cape Tribulation


Saturday 26 October 2013

Dewis y dydd



West Ham fydd yn ymweld ag Abertawe. Mae tîm Allardyce  yn chwarae'r em yn hollol wahanol i Abertawe yn defnyddio’r bel hir ac yn ymosodol iawn. Fydd yn rhaid i Abertawe canolbwyntio am y 90 munud os am fuddugoliaeth.

Mae Malky Mackay yn mynd a Gaerdydd i’w hen glwb Norwich. Mae Norwich yn anodd Ei churo wrth chwarae gartref felly fydd yn em galed i Gaerdydd.

Roedd dewis Sadwrn diwethaf yn goblyn o wael, fe newidiodd y tywydd ac felly roedd y tir yn eithafol feddwl ac o ganlyniad roedd llawer i geffyl allan o’i chynefin. Gobeithio cawn well hwyl heddiw.

Mae’r 3.50 yn Doncaster yn rhoi rhiw fath o syniad o ba geffylau fydd yn hawlio sylw yn y rasys clasur flwyddyn nesaf. Yn sicr mae Aidan O’Brien wedi defnyddio'r achlysur i ddangos rhai o’i cheffylau ieuaf ac mae ei geffylau wedi ennill 3 allan o’r pedwar ras ddiwethaf.  Mae ganddo tri cheffyl yn y ras sef Buonarroti, Century a Johann Strauss. Rwyf yn tybio na Century ydi’r gorau o’r tri.

Ond fy nau ddewis i yn y ras ydi ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Richard Hannon a fydd Richard Hughes ar ei gefn, sef Chief Barker – mae yn geffyl o safon. Fy ail newis, ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Roger Varian,  Kingston Hill. Mae hwn yn haeddu sylw wedi gwneud pob dim yn iawn hyd yr hun.

Mae gweddill fy newis i isod. Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1. Fedrwch ei gweld ar Sianel Pedwar Lloegr.

Doncaster
2.40         Thomas Hobson/Ennistown
3.15         Steps/Take Cover
3.50         Chief Barker/Kingston Hill
Newbury
2.20         Piping Rock/Trading Profit
2.55         Prince Bishop/Quiz Mistress
3.30         Break Rank/Sam Sharp
Aintree
1.55         Karinga Dancer/Cool Baranca
3.05         Wishfull Thinking/Walkon

Saturday 19 October 2013

Ceffylau a mwy



Mae Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Sunderland tîm sydd yn dal y tabl i fyny.  Sefyllfa fase rhywun yn edrych ymlaen am fuddugoliaeth rhwydd… ond, ie mae 'na ond. Mae gan Sunderland rheolwr newydd, sef Gus Poyet. Yn sicr fydd  chwaraewyr Sunderland ar eu gorau i drio dylanwadu ar eu bos newydd.

Mae gan Gaerdydd dipyn o dasg yn ymweld â Chelsea, yn enwedig ar ôl y lol efo’r perchennog yn cael gwared o Iain Moody a rhoi bachgen 23 fel pennaeth recriwtio, jest am ei fod wedi bod yn ffrind ysgol i fab y perchennog. Wel, os ydych eisio arian y cyfoethog mae rhaid rhoi i fyny a’i echreiddiad.

Blwyddyn yn ôl ddaru Frankel ddod a’i yrfa i ben ar ôl ennill 14 ras allan o 14. Anhygoel. Mai ofn does dim ceffyl o’r fath yn rhedeg heddiw.

Yn y ras gyntaf fe enillodd Estimate, ceffyl y Frenhines, y Cwpan Aur yn Royal Ascot ac mae’n swclen flaengar ac mi ddylai gwneud yn dda heddiw.

Yn yr ail ras Maarek sydd yn cael y sylw ond mae’n geffyl braidd yn ddiog yn y dechrau o’n yn codi cyn y diwedd. Mi fydd hun yn ei adael i lawr rhyw ddydd ond dim heddiw gobeithio.

Talent fydd llawer ar ei hol yn y trydydd fe enillodd yr Oaks a'n  ail yn y St Leger ond i mi mae’r pellter yn siwtio Dalkala.

Ar ei ddiwrnod mae Soft Falling Rain yn goblyn o geffyl anodd ei drin. Mae’n well ceffyl na’r gweddill ond nid yn gyson ar ei ddiwrnod heb ei ail. Mae’n gambl ond dyna hwyl rasio.

Yn y ras mawr mae Cirrus Des Aigles yn gosod y safon ac ar y ceffyl bydd fy arian.

Loteri lwyr ydi’r ras ddiwethaf gyda 29 yn rhedeg ond cewch od da, cofiwch bob ffordd am dani yn y ras yma.

Bob lwc.
Ascot
1.45         Estimate/Eye of the Storm
2.20         Maarek/Viztoria
2.55         Dalkala/Waila
3.30         Soft Falling Rain/Top Notch Tonto
4.05         Cirrus Des Aigles/Mukhadram
4.45         Balty Boys/Intrigo         

Saturday 12 October 2013

Rasys y Sadwrn


Fawr o amser i ganol bwyntio bore mha gan fy mod yn gweithio yn gynhadledd Plaid Cymru. 

Mi ro fy sylwadau ar un ras yn unig, sef y Cesarewitch ras a enwyd ar ôl Tsar Alexander II.

Mi fase Domination yn gwneud pris byrrach pe base yn cael ei hyfforddi gan hyfforddwr mwy ffasiynol, ond mae Charles Byrnes wedi gwneud gwyrth efo’r ceffyl yma. Fe drechodd y cae yn y ras prawf llynedd ac mae wedi bod n ennill yn gyson eleni tros yr hyrdlai.

Mae Oriental Fox yn cael ei gyfri ar ben y brig a hefo Johnny Murtagh ar ei gefn bydd yn llawn hyder. Fe gefais dip gan fy mrawd  am Tiger Cliff enillydd yr Ebor i’r Foneddiges Cecil ond mae ar ben y pwysau gyda Oriental Fox

Efrog
1.50 THOUWRA/King George River
2.20 OUT OF BOUNDS/Excellent Result
2.55 RUFFORD/ Haikbidiac
3.30 BACCARAT/ Doc Hay

Newmarket
2.05 HIGHLAND COLORI/ Lockwood
2.35 SUPPLICANT/Sudirman
3.10 OUTSTRIP/ War Command
3.50 DOMINATION/ Oriental Fox/ Tiger Cliff/ Pallasator

Saturday 5 October 2013

Dewis y diwrnod


Mae Sianel Pedwar Lloegr yn ymweld â thri chwrs heddiw. Felly dyna fydd ein dewis.

Yn gyntaf  tri dewis o Newmarket. Yn y ras gyntaf rwyf am fynd am Oxsana. Yn ei ras ddiwethaf collodd o liw blewyn I Wedding ring pan yn 20/1 dwi yn credu bydd pethau yn agos eto heddiw a bydd buddugoliaeth yn dod iddi hi.

Ein hail dewis yn Newmarket(2.20) Toofi. Johnny Muragh ar y cefn, mae yn cael hwyl dda ar bethaf ac mae’r ceffyl wedi ennill ar y cwrs o’r blaen.
Y trydydd dewis yn ras 2.55 fydd Mabiait fe enillodd ei unig ras mewn tair blynedd ar y cwrs ac ar yr un pellter. Siŵr fe gallith ail wneud y gamp.

Pedwar ras Ascot yn dechrau am 2.05. Y dewis cyntaf sef Hay Chewed. Mae yn rhedeg am y tro cyntaf yn y safon yma. Ond tro diwethaf dywedodd ei joci ei bod yn geffyl o safon. Cawn weld. Ceffyl sydd wedi profi ei hun ar y lefel yma yn barod Hot streak fydd y bygwth.

Am 2.40 ROYAL EMPIRE. Keiran Fallon fydd y joci felly bydd gorau yn cael ei thynnu o’r marchogaeth. Y sialens yn dod o Gatewood sydd newydd ddod yn ôl o dymor buddugol yn Awstralia.

INTRANSIGENT yn yr 3.15. mae'r record yn dda, ond ydi’r ceffyl ddim yn hoff o redeg ar laswellt meddal.

I gloi ein hymweliad a Ascot(3.50) Ascription. Fy newis gorau am y diwrnod. Fe dynnwyd allan o Gaergrawnt gan fod y cyflyrau ddim yn iawn, mi ddylu pethau fod yn “teidi” heddiw.
Mae stabl Godolphin yn rhedeg Emirate Flyer yn Redcar fy newis yn y ras.

Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1.

Pob Hwyl

Newmarket 1.50 OXSANA/ Wedding Ring
Ascot 2.05 HAY CHEWED/ Hot Streak
Newmarket 2.20 TOOFI/ Oklahoma City
Ascot 2.40 ROYAL EMPIRE/ Gatewood
Newmarket 2.55 MABAIT/ Validus
Ascot 3.15 INTRANSIGENT/ Heeraat
Redcar 3.30 EMIRATE FLYER/Deeds not words
Ascot 3.50 ASCRIPTION/ Big Johnny

Saturday 28 September 2013

Y Sir Caergrawnt


Y wobr am ras mwyar dydd ras  Sir Caergrawnt. Yn y ras mae yna 37 ceffyl yn chwilio am lwyddiant. Felly mae hon yn fwy o gambl na’r arfer. Mae rhai  bwci yn talu ar y chwech cyntaf.

Ond heb fentro, heb lwyddiant. Dyma fy chwe dewis. Mae Ascription wedi bod mewn cyflwr ffantastig wedi ennill yn Glorious Goodwood a hefyd yn y St Leger. Yn ail  Top Notch Tonto enillydd annisgwyl yn Haydock ar od o 22/1. Hefyd Graphic wedi ennill tri ar y trot ac Frankie Dettori yn marchogaeth. Bronze Angel enillydd y ras llynedd. A’n dewis diwethaf Pacific Heights.

Ras arall i fyny sylw bydd yr ornest rhwng Elusive Kate a Sky Lantern.  Bydd yna fawr ynni mae’r bwci’n ffansio Elusive Kate ond mae Sky Lantern yn cael ei hyfforddi gan Richard Hannon, hyfforddwr craff a Richard Hughes yw’r joci, felly nhw caeiff fy newis i.

Yn y byd pêl droed mae gan Abertawe dipyn o fynydd i ddringo yn erbyn Arsenal.  Mae Arsenal wedi bod yn chwarae yn eithriadol dda eleni. Ornest bydd yn cymryd fy sylw heddiw ac yn ffodus bydd yn galluogi rhywun gweld y rasys gyntaf cig cychwyn am 5.30pm. Mae Caerdydd yn ymweld â Fulham. Mae gem gyfartal wedi sgwennu ar hon.

Gobeithio bydd fy ngheffylau yn gwneud yn well na Bangor neithiwr. Colli eto oedd eu hanes, maen nhw yn cael fawr o dymor o honni.

Newmarket
2.00         Somewhat/Berkshire
2.35         Kiyoshi/Joyese
3.10         Sky Lantern/Elusive Kate
3.50         Ascription/* gwelwch y blog

Market Rasen
2.15         Laudatory/Watered Silk
2.50         Bold Chief/The Disengager

Haydock
3.30         Noble Storm/Free Zone

Friday 20 September 2013

Ayr a Newmarket


Mi fydd yna flwyddyn tan y refferendwm, felly i fyny i’r Alban awn heddiw am hanner ein rasys. A hefyd i’r de I Newmarket.
Does gen i fawr o amser i ymdroi a phethau heddiw gan fy mod allan yn fuan am y dydd felly dyma’r dewis.
Pob Lwc

Ayr
2.05         First Mohican/Hajras
2.40         Harrison George/Pearl Ice
3.15         Remember You/Coral Mist
3.50         Tropics/Highland Colori

Newbury
1.50         Kassiano/Camborne
2.20         Supplicant/Shamshon
2.55         Saxo Jack/Disclaimer
3.30         Stepper Point/Caledonia Lady

Saturday 14 September 2013

Gŵyl Sant Leger


Diwrnod y Sant Leger yn Doncaster. Y ras sydd yn cau'r tymor fflat. Mae’n gored i geffylau tair oed dros filltir 6 ystaden a 132 llath neu os ydych yn llai rhamantus 2,937 metr.

Mae'r hynna o’r pum ras clasurol, wedi ei sefydlu yn 1776. Ond dyna ddigon o hanes. Pwy sydd yn mynd i ennill ydi’r cwestiwn.

Wel fy newis i ydi Leading Light. Mae’n dod yma heb ei churo'r tymor yma ond ydi ebol Aidon O’Brien ddim wedi ei weld ers ennill  y fas y frenhines yn Royal Ascot. Ar ôl hynny ddaru O’Brien benderfynu  na’r clasur yma fase’r nod.
Fe orffennodd Galileo Rock yn drydydd yn y Derby ac yn ail yn ras cyfwerth yn yr Iwerddon ond mae hwn hefyd wedi bod i ffwrdd o’r trac ers Mehefin.
Redodd Foundry yn ail I Telescope yn y “Great Voltigeur Stakes” yn ei unig ras y tymor yma.

Mae Brian Meeham wedi body n aneli at yr ras yma trwy’r flwyddyn ac ydi’r ots mawr Great Hall ddim yn adlywrchu fydd yr hyforddwr yn ei geffyl.
Fe ennillodd Talent yr Oaks yn trawiadol. Ond ydi’r gaseg rioed wedi rhedeg yn erbyn y bechgyn o’r blaen.
Fe enillodd Cap O’Rushes yn erbyn Excess Knowledge o ben yn y Gordon Stakes.

Wel dyna nhw. Mae dewis cwbwl o rasus yr Wyl isod ac hefyd dau o rasys Gaer I rhai heini sydd yn edrych ar y  teledy ac eisio gwneud Scoop6 y Tote.

Pob hwyl


Gŵyl Sant Leger, y dewis

2.05: OUTSTRIP  / Treaty Of Paris
2.40: CONFESSIONAL / Bogart
3.15: GREGORIAN / Sirius Prospect
3.50: LEADING LIGHT / Galileo Rock
4.25: BISHOP ROKO / Guising
5.00: WHAT ABOUT CARLO / Fire Fighting
6.05: MONT RAS / Ascription

Dewis Scoop6
Leg 1: OUTSTRIP (2.05 Doncaster)
Leg 2: BALTY BOYS (2.20 Caer)
Leg 3: CONFESSIONAL (2.40 Doncaster)
Leg 4: CAMERON HIGHLAND (2.55 Caer)
Leg 5: GREGORIAN (3.05 Doncaster)
Leg 6: LEADING LIGHT (3.50 Doncaster)


Saturday 7 September 2013

Dewis y diwrnod


Dim ond gwasanaeth bur fore mha, gan fy mod yn orllewin Cymru ac yn cael trafferth i lwytho pethe ar y we. Rasys i gyd i’w gweld ar sianel pedwar Lloegr. Cofiwch rhoed eich arian bob ffordd dros 7/1. Pob hwyl

Haydock
2.05         Burning Thread/Harrison George
2.40         Montridge/Towhid
3.15         Platinum/Pallasater
3.50         Lethal Force/Rex Imperator

Ascot
1.55         Gabriel’s Lad/Ascription
3.30         Special Meaning/Pether’s Moon        

Kempton
2.20         Royal Empire/Main Sequence
2.55         Ehtedaam/Seek Again

Friday 30 August 2013

Dewis y diwrnod


Caerdydd yn chwilio am fuddugoliaeth dros Everton gartref. A fydda nhw yn medru curo eto yn eu hail gêm gartref? Ar hun o bryd mae Abertawe ar waelod y tabl heb ennill gem yn y gynghrair a fedra e nhw codi o’r gwaelod yn ganolbarth Lloegr wrth ymweld â West Brom? Cawn weld.

Wel, elw reit dda wythnos ddiwethaf hefo 3 enillydd yn Goodwood, fawr o hwyl ar y dewis yn Efrog ond rhaid peidio bod yn rhy drachwantus. Fel yr arfer rasys Sianel 4 Lloegr eto.

Gan fy mod i gyffiniau Newton Abbot fory, rwy’n postio fy newis heno, felly gwnewch siŵr bod y ceffylau i gyd yn rhedeg  a chofiwch bob ffordd ar od dros 7/1

Pob lwc.


Sandown
2.05         Tidal’s Baby/Burning Thread
2.40         Music Theory/Kingsman
3.15         Zibelina/Integral
3.50         Sennockian Star/Nemushka

Gaer
2.20         Doctor Parkes/Smart Daisy K
2.55         Es Que Love/Correspondent
3.30         Sun Central/Star Lahib

Bevereley
2.30         Stepper Point/Masannah

Saturday 24 August 2013

Gwyl Ebor yr Efrog


Yn ôl o’m gwyliau ar Sadwrn cyntaf Uwch Gynghrair Cymru. Fel hynny dyla’ hi fod. Yr haf drosodd a pel-droed i’n diddori yn fisoedd y gaeaf.

Mae Bangor yn y Drenewydd heddiw, dipyn bach o ymarfer cyn yr em holl bwysig dydd Llun y banc yr em ddarbi Bangor yn erbyn Y Rhyl.

Er mae carfan fach sydd gan Fangor disgwyl pethau mawr o ohonynt eleni ar ôl siomedigaeth tymor diwethaf. Mae’n rhaid i rywun rhoi dipyn o her i chwaraewyr amser llawn TNS a’r Dinasyddion ydi’r bois i wneud hynny.

Ar ôl ei buddugoliaeth yn erbyn Petrolui Ploiesti  5-1 yn gwpan Ewropa dydd Iau mae Abertawe ar drip I White Hart Lane yn ogledd Llundain I chwarae Spurs. Dim gem hawdd. Enillodd Spurs o 5-0 yn erbyn Dinamo Piolesti yn yr un ornest. Yn dangos bod yna mwy i Spurs na Gareth Bale.

Bydd gan Gaerdydd dipyn o sialens yn eu gem gyntaf gartref dydd Sul yn erbyn Manchester City. Yn ôl Malky Mackay mae eisio gwneud Caerdydd yn gadarnle i dimau fydd yn ymweld. Cawn weld.

Diwrnod olaf  gŵyl yr Ebor yn Efrog fydd yn cymryd ein sylw heddiw yn y rasys. Mae’n debyg na Cable Bay bydd yn cymryd sylw puntars Sir Fôn ond My  Catch fydd yn cymryd fy sylw iddo fe roes tro da arni yn erbyn ceffylau o safon yn Deauville mis diwethaf. Mae’n geffyl ar ei fyny.

Rwyf wedi tipio'r cyfan yn Efrog ar dair ras a welwch ar S4 Lloegr o Goodwood. Pob lwc. Mae’n braf fod yn ôl ar y rhwyd byd eang gobeithio y cawn hwyl ar ôl dod yn ôl.

Mae nhw wedi tyny Great Hall ac Agent Knight yn y 2.40 felly fy newis nawr ydi Havanna Cooler
Efrog

2.05 Rex Imperator/Sirius Prospect
2.40 Great Hall/Agent Knight
3.15 My Catch/Cable Bay
3.50 Ted Veale/Sun Central
4.25 Mecca’s Angel/Excel’s Beauty
5.00 Sennockian Star/Charles Camoin
5.35 Jillnextdoor/Hoofalong

Goodwood

2.20 Amazing Maria/Midnite Angel
2.55 Magic City/Glen Moss
3.30 Afsare/Thistle Bird