Saturday 26 October 2013

Dewis y dydd



West Ham fydd yn ymweld ag Abertawe. Mae tîm Allardyce  yn chwarae'r em yn hollol wahanol i Abertawe yn defnyddio’r bel hir ac yn ymosodol iawn. Fydd yn rhaid i Abertawe canolbwyntio am y 90 munud os am fuddugoliaeth.

Mae Malky Mackay yn mynd a Gaerdydd i’w hen glwb Norwich. Mae Norwich yn anodd Ei churo wrth chwarae gartref felly fydd yn em galed i Gaerdydd.

Roedd dewis Sadwrn diwethaf yn goblyn o wael, fe newidiodd y tywydd ac felly roedd y tir yn eithafol feddwl ac o ganlyniad roedd llawer i geffyl allan o’i chynefin. Gobeithio cawn well hwyl heddiw.

Mae’r 3.50 yn Doncaster yn rhoi rhiw fath o syniad o ba geffylau fydd yn hawlio sylw yn y rasys clasur flwyddyn nesaf. Yn sicr mae Aidan O’Brien wedi defnyddio'r achlysur i ddangos rhai o’i cheffylau ieuaf ac mae ei geffylau wedi ennill 3 allan o’r pedwar ras ddiwethaf.  Mae ganddo tri cheffyl yn y ras sef Buonarroti, Century a Johann Strauss. Rwyf yn tybio na Century ydi’r gorau o’r tri.

Ond fy nau ddewis i yn y ras ydi ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Richard Hannon a fydd Richard Hughes ar ei gefn, sef Chief Barker – mae yn geffyl o safon. Fy ail newis, ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Roger Varian,  Kingston Hill. Mae hwn yn haeddu sylw wedi gwneud pob dim yn iawn hyd yr hun.

Mae gweddill fy newis i isod. Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1. Fedrwch ei gweld ar Sianel Pedwar Lloegr.

Doncaster
2.40         Thomas Hobson/Ennistown
3.15         Steps/Take Cover
3.50         Chief Barker/Kingston Hill
Newbury
2.20         Piping Rock/Trading Profit
2.55         Prince Bishop/Quiz Mistress
3.30         Break Rank/Sam Sharp
Aintree
1.55         Karinga Dancer/Cool Baranca
3.05         Wishfull Thinking/Walkon

Saturday 19 October 2013

Ceffylau a mwy



Mae Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Sunderland tîm sydd yn dal y tabl i fyny.  Sefyllfa fase rhywun yn edrych ymlaen am fuddugoliaeth rhwydd… ond, ie mae 'na ond. Mae gan Sunderland rheolwr newydd, sef Gus Poyet. Yn sicr fydd  chwaraewyr Sunderland ar eu gorau i drio dylanwadu ar eu bos newydd.

Mae gan Gaerdydd dipyn o dasg yn ymweld â Chelsea, yn enwedig ar ôl y lol efo’r perchennog yn cael gwared o Iain Moody a rhoi bachgen 23 fel pennaeth recriwtio, jest am ei fod wedi bod yn ffrind ysgol i fab y perchennog. Wel, os ydych eisio arian y cyfoethog mae rhaid rhoi i fyny a’i echreiddiad.

Blwyddyn yn ôl ddaru Frankel ddod a’i yrfa i ben ar ôl ennill 14 ras allan o 14. Anhygoel. Mai ofn does dim ceffyl o’r fath yn rhedeg heddiw.

Yn y ras gyntaf fe enillodd Estimate, ceffyl y Frenhines, y Cwpan Aur yn Royal Ascot ac mae’n swclen flaengar ac mi ddylai gwneud yn dda heddiw.

Yn yr ail ras Maarek sydd yn cael y sylw ond mae’n geffyl braidd yn ddiog yn y dechrau o’n yn codi cyn y diwedd. Mi fydd hun yn ei adael i lawr rhyw ddydd ond dim heddiw gobeithio.

Talent fydd llawer ar ei hol yn y trydydd fe enillodd yr Oaks a'n  ail yn y St Leger ond i mi mae’r pellter yn siwtio Dalkala.

Ar ei ddiwrnod mae Soft Falling Rain yn goblyn o geffyl anodd ei drin. Mae’n well ceffyl na’r gweddill ond nid yn gyson ar ei ddiwrnod heb ei ail. Mae’n gambl ond dyna hwyl rasio.

Yn y ras mawr mae Cirrus Des Aigles yn gosod y safon ac ar y ceffyl bydd fy arian.

Loteri lwyr ydi’r ras ddiwethaf gyda 29 yn rhedeg ond cewch od da, cofiwch bob ffordd am dani yn y ras yma.

Bob lwc.
Ascot
1.45         Estimate/Eye of the Storm
2.20         Maarek/Viztoria
2.55         Dalkala/Waila
3.30         Soft Falling Rain/Top Notch Tonto
4.05         Cirrus Des Aigles/Mukhadram
4.45         Balty Boys/Intrigo         

Saturday 12 October 2013

Rasys y Sadwrn


Fawr o amser i ganol bwyntio bore mha gan fy mod yn gweithio yn gynhadledd Plaid Cymru. 

Mi ro fy sylwadau ar un ras yn unig, sef y Cesarewitch ras a enwyd ar ôl Tsar Alexander II.

Mi fase Domination yn gwneud pris byrrach pe base yn cael ei hyfforddi gan hyfforddwr mwy ffasiynol, ond mae Charles Byrnes wedi gwneud gwyrth efo’r ceffyl yma. Fe drechodd y cae yn y ras prawf llynedd ac mae wedi bod n ennill yn gyson eleni tros yr hyrdlai.

Mae Oriental Fox yn cael ei gyfri ar ben y brig a hefo Johnny Murtagh ar ei gefn bydd yn llawn hyder. Fe gefais dip gan fy mrawd  am Tiger Cliff enillydd yr Ebor i’r Foneddiges Cecil ond mae ar ben y pwysau gyda Oriental Fox

Efrog
1.50 THOUWRA/King George River
2.20 OUT OF BOUNDS/Excellent Result
2.55 RUFFORD/ Haikbidiac
3.30 BACCARAT/ Doc Hay

Newmarket
2.05 HIGHLAND COLORI/ Lockwood
2.35 SUPPLICANT/Sudirman
3.10 OUTSTRIP/ War Command
3.50 DOMINATION/ Oriental Fox/ Tiger Cliff/ Pallasator

Saturday 5 October 2013

Dewis y diwrnod


Mae Sianel Pedwar Lloegr yn ymweld â thri chwrs heddiw. Felly dyna fydd ein dewis.

Yn gyntaf  tri dewis o Newmarket. Yn y ras gyntaf rwyf am fynd am Oxsana. Yn ei ras ddiwethaf collodd o liw blewyn I Wedding ring pan yn 20/1 dwi yn credu bydd pethau yn agos eto heddiw a bydd buddugoliaeth yn dod iddi hi.

Ein hail dewis yn Newmarket(2.20) Toofi. Johnny Muragh ar y cefn, mae yn cael hwyl dda ar bethaf ac mae’r ceffyl wedi ennill ar y cwrs o’r blaen.
Y trydydd dewis yn ras 2.55 fydd Mabiait fe enillodd ei unig ras mewn tair blynedd ar y cwrs ac ar yr un pellter. Siŵr fe gallith ail wneud y gamp.

Pedwar ras Ascot yn dechrau am 2.05. Y dewis cyntaf sef Hay Chewed. Mae yn rhedeg am y tro cyntaf yn y safon yma. Ond tro diwethaf dywedodd ei joci ei bod yn geffyl o safon. Cawn weld. Ceffyl sydd wedi profi ei hun ar y lefel yma yn barod Hot streak fydd y bygwth.

Am 2.40 ROYAL EMPIRE. Keiran Fallon fydd y joci felly bydd gorau yn cael ei thynnu o’r marchogaeth. Y sialens yn dod o Gatewood sydd newydd ddod yn ôl o dymor buddugol yn Awstralia.

INTRANSIGENT yn yr 3.15. mae'r record yn dda, ond ydi’r ceffyl ddim yn hoff o redeg ar laswellt meddal.

I gloi ein hymweliad a Ascot(3.50) Ascription. Fy newis gorau am y diwrnod. Fe dynnwyd allan o Gaergrawnt gan fod y cyflyrau ddim yn iawn, mi ddylu pethau fod yn “teidi” heddiw.
Mae stabl Godolphin yn rhedeg Emirate Flyer yn Redcar fy newis yn y ras.

Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1.

Pob Hwyl

Newmarket 1.50 OXSANA/ Wedding Ring
Ascot 2.05 HAY CHEWED/ Hot Streak
Newmarket 2.20 TOOFI/ Oklahoma City
Ascot 2.40 ROYAL EMPIRE/ Gatewood
Newmarket 2.55 MABAIT/ Validus
Ascot 3.15 INTRANSIGENT/ Heeraat
Redcar 3.30 EMIRATE FLYER/Deeds not words
Ascot 3.50 ASCRIPTION/ Big Johnny