Monday 24 April 2017

Ceidwadwyr ar y blaen yng Nghymru

Yn ganol torf o  rhwng 2,000 a 3,000 o ddilynwyr brwd fe ddaeth Jeremy Corbyn i Gaerdydd I ddechrau ei ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol. Dyma’r arweinydd cyntaf i ddod traws clawdd Offa.

Nid hawdd oedd clywed neges arweinydd Llafur roedd y system PA yn warthus, gyda rhai aelodau Llafur yn holi bod swyddogion y blaid yn creu difrod i’w arweinydd trwy natur y trefniant.

Ond fel dywedodd Carwyn Jones mae gan y blaid Lafur “mynydd i ddringo” i ennill grym. Ac mae’r pôl piniwn diweddar yn cadarnhau barn prif weinidog Cymru.

Gobaith Corbyn yw bydd y miliynau o’r aelodau newydd sydd gan ei blaid yn  trechu ar y garreg drws. Fel fase un o gymeriadau Daniel Owen yn dweud “Scarcely believe.”

Yn ôl pôl diweddar ITV Cymru  a Phrifysgol Caerdydd mae'r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen hefo 40%(+12), Llafur 30% (-3), Plaid Cymru 13%(d.n.), Democratiaid Rhyddfrydol 8% (-1), UKIP 6% (-7), Gwyrdd 2% a Gweddill 1% (-1). 

Os trowch yr arolwg i seddi fel mae’r Athro Roger Scully wedi ei wneud bydd yn golygu  y Ceidwadwyr i fyny 10 sedd ar yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda 21 o seddi sydd yn ei gwneud yn blaid fwyaf Cymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith. Y rheswm mwyaf, pleidleiswyr UKIP yn troi atynt.

Llafur i lawr 10 sedd i 15 a dim newid I Blaid Cymru gyda 3 a’r Rhyddfrydwyr Democratiaid yn dal hefo 1.

Y deg sedd base'r Ceidwadwyr yn ennill  base Alun a Dyfrdwy, Pen-y-bont, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, De Clwyd , Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam ac Ynys Môn.


Ond o bosib mae bod yn y blaen gymaint yn mynd i gael effaith ar y rhif o seddi enillwn hwy yn y diwedd. Mae’n gwrth-sythweledol, mwyaf yn y blaen yn y polau llai o seddi enillwch yn y diwedd

Ond dyma rhai elfennau sydd o bosib yn gwneud pethe yn fwy ansicr nag mae'r Athro Scully yn dehongli.

Yn gyntaf y mwyaf byd mae’r polau piniwn yn dangos y Ceidwadwyr yn y blaen mae hun yn mynd i leihau'r nifer sydd yn mynd i droi allan i bleidleisio. Os ydy’r canlyniad yn y ‘bag’ i’r Ceidwadwyr bydd na llai yn dueddol o drafferthu i bleidleisio. Mi fedrwch weld Llafur yn dal ei gafael ar seddi mae’r polau piniwn yn dweud dylent golli am fod y nifer ddaru bleidleisio yn isel.

Mae yna lawer yn casáu Corbyn ond yn gefnogol iawn o rhai aelodau seneddol Llafur yn eu hetholaethau. Beth wnewch chi? Ethol aelod Ceidwadol neu gefnogi aelodau seneddol Llafur sydd yn wrth-Corbyn. Fawr o ddewis, pleidleisio Llafur.

Maen na grŵp arall sydd yn gweld nad yw’n beth iach i’r wlad i adael Teresa May cael eu’i ffordd a rhoi mwyafrif  mawr iddi. Byddan yn cymryd piti ar Lafur wrth weld y polau piniwn ac ar y funud ddiwethaf yn rhoi ei phleidlais i’r iddynt.

Dyna pam rhaid cymryd y canlyniad o droi arolwg barn i seddi hefo pinsiad mawr o halen.

Thursday 20 April 2017

Pa seddi fydd yn newid dwylo?


Pa seddi fydd o ddiddordeb i’r pleidiau yng Nghymru?

Mae’r ras yn dechrau gyda Llafur hefo 25 sedd, y Ceidwadwyr 11, Plaid Cymru 3, Rhyddfrydwyr Democrataidd 1. Sut fydd hi erbyn y diwedd?

Tro diwethaf yng Nghymru fe enillwyd y Ceidwadwyr 3 sedd 2 oddi wrth Lafur ac 1 oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Fe gollodd Llafur 2 sedd i’r Ceidwadwyr ond enillwyd nwy 1 sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Ond beth am y tro yma? O ddiddordeb mwyaf i ganlyniad yr etholiad ei hun ydi’r ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Yn ôl y polau piniwn mae’r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen gyda mantais o 20% ar Lafur. 

Ceidwadwyr v Llafur

Os fydd hynna yn cael ei throsglwyddo i seddi mae 'na fyny i wyth sedd Llafur yng Nghymru yn edrych yn fregus. Sef Pen-y-bont ar Ogwr ble mae gan Lafur dim ond 4.89% o fwyafrif. Wrecsam Llafur 5.60% ar y blaen; De Clwyd 6.85%; Delyn 7.83%; Alun a Dyfrdwy 8.09%; Gorllewin Casnewydd 9.00%. Ac os fydd pethe yn ddrwg I Lafur ar y noson fe all De Caerdydd 14.6% a Gorllewin Caerdydd gyda mwyafrif 17.7% disgyn. Fase hynna yn ddipyn o sioc, daeargryn gwleidyddol.

Llafur v Ceidwadwyr

Os bydd yna newid byd ar Lafur mae ei gobeithion am ennill yn ôl y Gwŷr lle mae’r Ceidwadwy yn dal y sedd gyda 27 pleidlais (0.10%) a Dyffryn Clwyd gyda mwyafrif o 0.67%. Ar noson dda I Lafur fe fedrwn ennill  Gogledd Caerdydd (4.18%), Gorllewin Caerfyrddin (8.4%) a Preseli Penfro (12.26%)

Pleidiau eraill yn herio'r ddau blaid mawr

Mae Llafur yn cael ei herio hefyd gan Blaid Cymru yn Ynys Môn a gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Ganol Caerdydd.

Os fydd y polau piniwn yn hollol anghywir mi all y
Democratiaid Rhyddfrydol herio’r Ceidwadwyr yn
Brycheiniog Maesyfed (12.73%) a Drefaldwyn (13.77%)

Ac mae’n siŵr bydd Plaid Cymru yn llygadu sedd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yng Ngheredigion. Yr her - mwyafrif o 8.20%.


Ond un peth fydd  yn hollol sicr disgwyliwch yr annisgwyl ar y noson. Dyna sydd yn gwneud etholiad cyffredinol mor ddiddorol. Bydd llawer i geffyl blaen yn cael ei siomi, hwre dywedaf am hynny.

Tuesday 18 April 2017

Etholiad Cyffredinol 2017

“Rydym angen etholiad cyffredinol ac rydym eisio un nawr.”geiriau Teresa May tu allan i rif deg wrth gyhoeddi etholiad cyffredinol am 8 Mehefin.

Dyna’r u-bedol mwyaf mae’r prif weinidog wedi gwneud erioed. A pwy mae hi yn beio am yr ail etholiad cyffredinol yn ychydig dros 2 mlynedd? Yr wrth bleidiau wrth gwrs.

Mae eisio undod yn San  Steffan tra mae’r wlad yn trafod termau’r ysgariad o Ewrop. Eu bai nwy ydi’r cyfan! Er iddi gael ei ffordd yn rhwydd ar ergydio Erthygl 50.

Na'r unig reswm mae’r dyddiad wedi ei enwi ydi fantais bleidiol, mae’r blaid Geidwadol dros 20 pwnt  ymlaen yn y polau piniwn ac mae hi am chwyddo ei mwyafrif yn Dŷ’r Cyffredin.

Pum gwaith mae wedi mynnu na fydd yna etholiad cyffredinol tan 2020.

Yn Fehefin wrth lansio eu hymgyrch am arweinyddiaeth eu plaid dywedodd “Ni ddylai fod yna Etholiad Cyffredinol tan 2020.”

Wedyn yn Hydref 2016 dywedodd mewn cyfweliad gyda’r BBC “Beth da ni angen ydi sefydlogrwydd. Rydych wedi sôn am y sefyllfa economaidd ac am y farchnad, mewn gwirionedd beth mae’r farchnad eisio ydi sefydlogrwydd.”
Roedd yn iawn ar hwnna o beth fel danom ni’n gweld beth sydd wedi digwydd i’r bunt ers ei chyhoeddiad bore ‘mha.

Fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan yn Dachwedd 2016 “ Mae’n sefyllfa yn hollol  glir ni ddylif fod yna etholiad tan 2020 – dyna ydi dal barn y prif weinidog.”

Eleni yn dechrau mis Mawrth fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan pan ofynnwyd cwestiwn am etholiad cyffredinol buan “Rydio ddim am ddigwydd, rydio ddim yn rhywbeth mae yn cynllunio i neud nag yn dymuno gwneud.”

Ac erbyn diwedd y mis fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan “Does 'na ddim newid y lein safbwynt ar etholiad cyffredinol buan. Ni fydd yna etholiad cyffredinol.”

Beth sydd wedi newid eu meddwl – mantais wleidyddol yn unig. Mae wedi gweld sefyllfa Llafur yn wan ac mae am gymryd mantais. Dim egwyddorion uchel ond oportiwnistiaeth wleidyddol.

Monday 10 April 2017

Hollt y Ceidwadwyr


Pan benderfynodd Mark Reckless i adael UKIP fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ei fod am ymuno a’i grŵp   yn y Cynulliad.

Fe ddisgrifiwyd yr achos fel rhiw fath o fuddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn y bae – ar unwaith nwy oedd yr wrthblaid fwyaf yn Bae Caerdydd ac roedd Andrew RT Davies nawr yn medru galw ei hun yn ‘arweinydd yr wrthblaid’ - er nad oes y fath beth yn bodoli yn swyddogol.

Swyddogion y grŵp Ceidwadol oedd yn actio fel ‘minders’ i Mark Reckless wrth ei symud o gwmpas y Bae i ddarlledu a rhoi cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau

Ond mae’r brolio nawr wedi troi yn rhywbeth chwerw. Yn gyntaf fe gwynodd aelodau seneddol y blaid Geidwadol nag oedd gan y blaid yr hawl i dderbyn Mark Reckless I fod yn rhan o’r grŵp.

Ac mae’r colofnydd yma ar ddeall fod ffynonellau uchel yn y blaid Geidwadol wedi gofyn I Andrew RT Davies ymddiswyddo dros y mater a bod yr ACau Ceidwadol wedi "peryglu" eu safleoedd wrth ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw.

Wedyn dros y Saboth fe aeth Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay, ar yr awyr i fynegi ei farn. Ac nid farn o gefnogaeth i’w arweinydd yn y bae oedd. Ond cwestiynu nath y bonheddwr o Fynwy ble yn union oedd e'n  sefyll. Nid oedd yn gwybod bellach a oedd yn aelod o grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad yn dilyn y digwyddiadau.

Ac nid e oedd yr unig un o’r grŵp oedd yn anhapus, mi roedd yna dau arall wedi codi eu gofidion am y penderfyniad yn ôl pob tebyg.

Er bod arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynegu nad oedd y cyfansoddiad wedi ei atal er mwyn croesawu Mr Reckless i'r grŵp, a bod y grŵp wedi cytuno'n "unfrydol" i'w groesawu.

Holltiad yn rhenciau’r blaid ydi’r peth diwethaf mae’r Ceidwadwyr eisio wrth ymladd i ennill seddi ar Cynghorau Cymru. Ond mae’n debyg bydd y ffrae rhwng aelodau’r cynulliad ac aelodau seneddol ac arweinyddion y blaid Geidwadol yn Llundain yn rhedeg am dipyn bellach yn sicr.

Roedd yna anhapusrwydd yn erbyn Andrew RT Davies ar ôl canlyniadau sâl etholiad y Cynulliad ac roedd rhai eisio fo ymddiswyddo ar y pryd. Nawr fydd y pwyso yn cynyddu arno i fynd.


Monday 3 April 2017

Y tlawd sydd yn cael y bwrdwm


Mae George Osborne wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am ei holl swyddi ond ei hen swydd fel Canghellor fydd yn poeni pobol yr wythnos yma. Pam, am y newidiadau  a chreodd i’r tlawd yn ei gyllideb haf 2015.

Yn ôl Child Poverty Action Group (CPAG) dyma’r effaith.

Toriad  1: Budd-dal Tai I bobol ifanc.
Pryd: 4 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Oedran 18 i 21 mi fyddant yn colli’r hawl i fuddsoddiad tai
Faint: £35 miliwn
Toriad 2: Lwfans cynhaliad cyflogaeth
Pryd: Llun  3 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd i’r lwfans cynhaliad cyflogaeth sydd wedi eu barnu i fod yn abl i weithio, mi fyddant yn colli  £1,510 y flwyddyn.
Faint: £350 miliwn
Toriad 3: Cyfyngu budd I Ddau Blentyn
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: Ceiswyr newydd am Gredydau Cyffredinol, credydau treth i blant a budd-dal tai yn cael ei chyfyngu i ddau blentyn yn unig. Bydd yn effeithio 500,000 o deuluoedd erbyn  2019 ac yn golygu bydd yna golled o £2,780 i bob plentyn anghymwys. Yn ôl CPAG mae’n “torri'r cysylltiad rhwng cymorth ac angen” yn y system budd-daliadau a fydd yn golygu mi fydd yn  gwthio t200,000  o deuluoedd i dlodi.
Faint:£1.2 biliwn
Toriad 4: Credyd treth plentyn elfen deuluol ac elfen y plentyn cyntaf yn y Credyd Cyffredinol
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be: mae’r ddau fudd yn cael ei sgrapio i geiswyr newydd. Bydd yn gadael 970,000 o deuluoedd  £545 y flwyddyn yn dlotach erbyn 2019.
Faint: £540 miliwn
Toriad 5: Buddion Profedigaeth
Pryd: Iau 6 Ebrill
Pwy fydd yn colli be:  Bydd y “taliadau buddion profedigaeth” newydd yn golygu bod 91% o rieni yn cael ei chefnogi am lai o amser a bydd 75% yn  cael llai o arian -   £12,000 y flwyddyn i’r rhiant sydd yn gweithio.
Faint: £100 miliwn

Mae’r cyfanswm yn creu toriadau o £2.1 biliwn fydd yn effeithio canodd ar filoedd o bobol o’r wythnos yma ymlaen

Annhebyg iawn fyddwch yn darllen y stori yma yn yr Evening Standard.…