Thursday 20 April 2017

Pa seddi fydd yn newid dwylo?


Pa seddi fydd o ddiddordeb i’r pleidiau yng Nghymru?

Mae’r ras yn dechrau gyda Llafur hefo 25 sedd, y Ceidwadwyr 11, Plaid Cymru 3, Rhyddfrydwyr Democrataidd 1. Sut fydd hi erbyn y diwedd?

Tro diwethaf yng Nghymru fe enillwyd y Ceidwadwyr 3 sedd 2 oddi wrth Lafur ac 1 oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Fe gollodd Llafur 2 sedd i’r Ceidwadwyr ond enillwyd nwy 1 sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Ond beth am y tro yma? O ddiddordeb mwyaf i ganlyniad yr etholiad ei hun ydi’r ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Yn ôl y polau piniwn mae’r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen gyda mantais o 20% ar Lafur. 

Ceidwadwyr v Llafur

Os fydd hynna yn cael ei throsglwyddo i seddi mae 'na fyny i wyth sedd Llafur yng Nghymru yn edrych yn fregus. Sef Pen-y-bont ar Ogwr ble mae gan Lafur dim ond 4.89% o fwyafrif. Wrecsam Llafur 5.60% ar y blaen; De Clwyd 6.85%; Delyn 7.83%; Alun a Dyfrdwy 8.09%; Gorllewin Casnewydd 9.00%. Ac os fydd pethe yn ddrwg I Lafur ar y noson fe all De Caerdydd 14.6% a Gorllewin Caerdydd gyda mwyafrif 17.7% disgyn. Fase hynna yn ddipyn o sioc, daeargryn gwleidyddol.

Llafur v Ceidwadwyr

Os bydd yna newid byd ar Lafur mae ei gobeithion am ennill yn ôl y Gwŷr lle mae’r Ceidwadwy yn dal y sedd gyda 27 pleidlais (0.10%) a Dyffryn Clwyd gyda mwyafrif o 0.67%. Ar noson dda I Lafur fe fedrwn ennill  Gogledd Caerdydd (4.18%), Gorllewin Caerfyrddin (8.4%) a Preseli Penfro (12.26%)

Pleidiau eraill yn herio'r ddau blaid mawr

Mae Llafur yn cael ei herio hefyd gan Blaid Cymru yn Ynys Môn a gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Ganol Caerdydd.

Os fydd y polau piniwn yn hollol anghywir mi all y
Democratiaid Rhyddfrydol herio’r Ceidwadwyr yn
Brycheiniog Maesyfed (12.73%) a Drefaldwyn (13.77%)

Ac mae’n siŵr bydd Plaid Cymru yn llygadu sedd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yng Ngheredigion. Yr her - mwyafrif o 8.20%.


Ond un peth fydd  yn hollol sicr disgwyliwch yr annisgwyl ar y noson. Dyna sydd yn gwneud etholiad cyffredinol mor ddiddorol. Bydd llawer i geffyl blaen yn cael ei siomi, hwre dywedaf am hynny.

No comments:

Post a Comment