Friday 13 March 2020

Rasys Cheltenham 13 Mawrth



Gan fod pawb yn pryderu am y coronafeirws roeddwn yn meddwl base edrych ar y rasys yn Cheltenham yn codi eich ysbryd os r’ydych yn hunain-neilltuo.
Wrthgwrs os fyddwch yn colli eich harian bydd hun yn esgus go iawn am fod yn ddigalon.

Os fydd yr ods dros 7/1 maen werth bacio bob ffordd.

1.30 13 rhedwyr dros hyrdl (Gradd 1) 2m1f , Meddal, 4 blwydd.
Allmankind
Hyfforddwr: Dan Skelton
Joci: Harry Skelton 
4 blwydd oed 11st 0lb
Cyndyn, gwnaeth yn ddad yn Cas-gwent yn diweddar. 
4 ras diwethaf 1/8, 1/10, 1/14 a 2/17.

2.10 26 rhedwyr handicap hyrdl (Gradd 3)  2m1f , Meddal 5 blwydd+
Ciel De Neige (FR)
Hyfforddwr: W P Mullins
Joci: Mark Walsh 
5 blwydd oed 11st 0lb
11st 1lbs
4 pwys o boys ecstra ond yn dal a mantais.
4 ras diwetha 2/24 2/17, 4/15 a 3/21

2.50 19 rhedwyr nofis hyrdl (Gradd 1), 3m Meddal, 4 blwydd+.
Thyme Hill
Hyfforddwr: Philip Hobbs
Joci: Richard Johnston
6 blwydd oed 11st 5lb
Heb ciilli dros y hyrdlau
4 ras diwetha 1/5, 1/8, 1/9 a 3/14


3.30 12 rhedwyr Cwpan Aur Hela (Gradd 1)  3m2½f , Meddal, 5 blwydd+.
Albourn Photo
Hyfforddwr: W P Mullins
Joci: Paul Townsend
8 blwydd oed 11st 10lbs
Enillodd y ras llynedd
4 ras diwetha s 1/4, 2/8, 1/16 and 1/7


4.10 24 rhedwyr hela agorad
Dosbarth 2, 3m2½f , Meddal, 5 blwydd+.
Hazel Hill
Hyfforddwr: Philip Rowley
Joci: Mr Alex `Edwards
9 blwydd oed 12st 4lbs
Enillodd llynedd
4 ras diwetha 2/5, 1/7, 1/24 and 1/12

4.50 22 runners Cesig hyrdl (Grade 2)  2m1f , Soft, 4yo+.
Greanyteen
Hyfforddwr: Paul Nicholls
Joci: Harry Cobden
6 blwydd oed 11st 7lbs
Mwynhau y math yma o ras
4 ras diwetha 1/3, 1/10, 1/6 and 13/16


5.30 24 rhedwyr hyrdl
Class 2, 2m4½f , Soft, 4yo+.
Espoir De Romay
Hyfforddwr:  Kim Bailey
Joci: Chester Williams
6 blwydd oed 11st 6lbs
I fyny 10 pwys ar ol ennill yn dda yn Wincanton y tro diwetha
4 ras diwetha 1/11, 3/8, 1/13 and 3/7
Pob lwc!!


Wednesday 11 March 2020

Canlyniad y coronavirus


Ail le mae’r  economi  yn cymryd i effaith y coronavirus ar gyfrifiaeth marwolaeth  o dan  pandemic. 

Ond mae economeg yn bwysig fel rhybudd i beidio cymryd mesurau llymion  sydd ddim yn dylanwadu rhifodd y marwolaethau. 

Yr effaith lleiaf pwysig ar yr economi ydi cwymp cynhyrchiant gan fod gweithwyr yn cymryd amser i ffwrdd trwy salwch. Mae’n llai pwysig gan fod cwmnïau yn medru ffeindio ffyrdd o ddigolledu hyn  os ydi salwch yn lledaenu dros chwarter. Er enghraifft bydd y rhai a oedd yn sâl yn medru gweithio oriau ychwanegol ar ôl dod yn ôl. OK bydd yn codi costau a gelli greu chwyddiant dros dro ond dylai'r banc canolog anwybyddu hun.

Bydd canlyniad ‘uniongyrchol’  y pandemic yn lleihau’r GDP yn y chwarter yna o ychydig ganrannau. Faint yn union bydd y rhifau yn ddibynnol ar garfan y boblogaeth fydd yn sâl, a faint yn union fydd rhifau'r marwolaethau yn y DU, a faint o bobol fydd yn aros o’i gwaith i osgoi’r salwch. 

Mae’r effaith ar y GDP am y flwyddyn gyfan yn dilyn pandemic yn llai gan fod cynnyrch ar ôl pandemic yn uwch tra bod cwmnïau yn ailgyflenwi stoc wrth gyflenwi galwadau oedd wedi ei gohirio gan y cwsmeriaid.

Ond nid ar ochor y cyflenwad mae’r broblem fwyaf ond ar yr ochor galw.

Mae rhai sectorau yn mynd i gael hi’n anodd yn dibynnu ar sut dda ni’n ymddwyn - y sector cymdeithasol. Sector sydd yn dod a ni mewn cysylltiad â phobol eraill.  Pethau fel mynd i’r dafarn, bwytai neu bêl droed neu deithio.

Os ydi pobol yn ofn cael y salwch yn torri i lawr ar gymdeithasu mae hun yn cael dylanwad  ar yr GDP. A does fawr ddim fedrith y Canghellor gwneud i arbed hun ond dylanwadu ar y banciau i fenthig i’r busnesau sydd cael eu heffeithiol i gael nwy dros yr argyfwng.

Ond mae’r economi yn cael effaith ar y sefyllfa mewn un ffordd. Mae’r sector hunangyflogedig heb fudd-dal salwch yn gwneud hi’n anodd iddynt hunan-neilltuo os yn sâl. Heb I’r llywodraeth ffeindio ffordd i’w helpu maent am ledu’r afiechyd.

Mae’n rhaid i’n gwleidyddion dechrau meddwl am sut maen nhw am gadw ein gwasanaethau cyhoeddus ar fynd pan fydd gweithwyr yn dechrau syrthio gyda’r afiechyd. 

Ar amseroedd fel rhain  mae’n rhaid i’n llywodraethau ân wleidyddion  cymryd penderfyniadau sydyn a meddwl ymlaen. Mae coronvirus yn rhoi'r her fwyaf iddynt i gyd.