Monday 3 September 2018

Yr arwr Frank Field!


Ydi gelyn fy ngelyn ddim yn awtomatig yn dod yn ffrind. Ond tydi’r wers yna ddim wedi ei dysgu gan rhai elfennau o wrthwynebwyr Jeremy Corbyn yn y blaid Lafur.  

Mae hyn yn cael ei thanlinellu tuag at eu hagwedd i benderfyniad Frank Field I roi gorau i chwip Llafur ar ôl i’w blaid leol mynegi ddim hyder ynddo fel eu haelod  seneddol. 

Nawr mae  wedi ei dyrchafu bron i sancteiddrwydd gan elynion Corbyn

Mae gelynion Corbyn, oedd yn gyson trwy ei  yrfa wleidyddol yn wrth hiliol,   nawr yn ei gyhuddo o fod yn wrth-semitig. Ond nawr maen't yn clodfori Field am ei safiad egwyddorol gwrth-semitig. Dyma’r gwleidydd a chyhuddodd yr Arglwydd Keith Joseph “fel aelod blaenllaw o’r gymuned Iddewig o weithredu polisïau Natsiaidd tuag at y tlawd.” Does dim byd mwy gwrth-seimitig.

Sawl Gwaith mae’r cyhuddiad wedi ei wneud bod Corbyn yn rhyw fath o gefnogwr brecsid eithafol, ond pan geisiodd atal “dim del” dinistriol, Frank Field a tri aelod Llafur arall ddaru danseilio hyn trwy bleidleisio gyda’r llywodraeth Geidwadol. A trwy hun  safio gyrfa Theresa May ac o bosib atal etholiad Cyffredinol a rhoi gyfle i ethol llywodraeth Llafur Dyma’r dyn sydd nawr yn cael ei glodfori can rhai o garfan “aros” y blaid Lafur.


Er bod  y Rabi Jonathan Sacks wedi cyhuddo Corbyn o fod fel Enoch Powell ond yn wir mae’r label wedi ei ddefnyddio o’r blaen. Ie, ar y bonheddwr Frank Field am ei safiad o fod yn wrthwynebwr eithafol o fewnfudwyr. O ganlyniad yw  areitheg gyson yn erbyn mewnfudo fe rodd yr Esgob Peter Selby o’r Eglwys yn Lloegr, label ar Field “yr Enoch Powell newydd.” 


A dyma’r  arwr newydd! 

Y ffaith yw mai yn gyfleus fel cocyn hitio yn erbyn Corbyn. Does fawr o faddeuant gan garfan helaeth o aelodau Blairaidd seneddol Llafur bod Jeremy Corbyn wedi cipio arweinyddiaeth y blaid Lafur a symud y blaid i’r chwith.