Cwpan yr FA fydd yn cymryd sylw pawb heddiw mae’n
debyg. Manchester City yn erbyn Wigan. Mae’r ornest yma tros y blynyddoedd wedi
ei selio ar ein synnu. Ond heddiw,
dwi ddim yn meddwl. Fe fase yn
syndod mawr pe bai Wigan yn cael
buddugoliaeth gan fod Manchester City yn ddim owtffit llawer gwell.
Dwi yn gweld y gêm drosodd i bob pwrpas cyn hanner
amser. Yn y saith tro diwethaf i’r
ddau gyfarfod mae City wedi ennill heb ildio un gôl ac maen nhw 40 pwn o’i
blaen yn y “premier.” Ar ben hun maen nhw wedi ennill ei 13 gem ddiwethaf.
Felly fawr o obaith I Wigan ydi’r casgliad. Mi welwch y cyfan ar ITV.
Fory fydd Syr Alex Ferguson yn cymryd ei gem olaf
yn Old Trafford ac fe fydd na seremoni o drosglwyddo cwpan y premier i’r tîm ar
ôl y gêm yn erbyn Abertawe. A budd
Abertawe yn medru cymryd y sglein o’r achlysur go annhebyg, ond cawn weld.
Yn ôl gartref mae ‘play-offs’ Cynghrair Cymru
rhwng Bangor yn erbyn Bala a Phort Talbot yn erbyn Caerfyrddin. C’mon Bangor ar
ôl siomedig Cwpan Cymru buddugoliaeth a lle yn gwpan Ewropa yw’r nod.
A nawr y ceffylau. Dwi am ganolbwyntio ar Ascot
heddiw oherwydd mwy na thebyg bydd pawb yn gwylio'r bêl droed ac nid y rasio.
Felly dyma’r dewis.
Ascot
1.30 Ifwecan
2.05 Scatter
Dice
2.40 Thomas
Chippendale
3.15 Sharp
and Smart
3.50 Tartiflette
4.25 Apollo
D’Negro
Mae’r rhwyd waith yn gadael rhyw un wybod yn syth
pam nad mha ddyn yn plesio. Dwi ar
ddeall bod rhai o’n dilynwyr mwyaf selog yn mynd i edrych ar y rasio ar Sianel
4, felly dyma’r dewis yn llawn
1.50 Haydock Battlegroup
2.05 Ascot Scatter Dice
2.20 Lingfield Secret Gesture
2.40 Ascot Thomas Chippendale
2.55 Lingfield Greatwood
3.15 Ascot Sharp and Smart
3.30 Haydock Forgotten Voice
3.50 Ascot Tartiflette
Pob lwc.
No comments:
Post a Comment