Friday 9 December 2016

Yr isetholiad


Mae Ewrop yn dominyddu ein gwleidyddiaeth ac mae yn boddi pob mater arall. Ac yn hynny o beth mae’r blaid Lafur mewn sefyllfa anodd.

Doedd fawr o amheuaeth am ganlyniad isetholiad Sleaford a Gogledd Hykeham –buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr. Mae'r cornel yma o sir Lincoln wedi bod yn las ei liw erioed. Ond mae yn dangos yn glir y peryg i’r blaid Lafur yn rhannau helaeth o Loegr yn dilyn refferendwm gadael Ewrop.

Er holl frwdfrydedd Jim Clarke ymgeisydd Llafur ac yn ddyn lleol fe ddisgynnodd ei blaid o fod yn yr ail le tro diwethaf i fod yn bedwerydd yn yr isetholiad. Er I’r ymgeisydd ceisio canolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd a’r bygwth i gau ward damwain ac argyfwng lleol cath dim argraff o gwbl roedd meddwl yr etholwyr ar Ewrop a brexit.

Ond dyna broblem mawr Lafur tydi eu safiad  fel plaid ddim yn glir ar y mater. Os ydych yn bleidleisiwr sydd wedi pleidleisio i adael rydych yn dueddol o bleidleisio i blaid sydd yn di flewyn ar dafod o blaid gadael fel UKIP neu roi eich cefnogaeth i’r Llywodraeth sydd yn gwneud y gwaith o ‘gadael.’

Ac os ydych yn un ddaru bleidleisio ‘aros’ fase safiant y Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy derbyniol nawr na safiant y blaid Lafur.

A dyna sydd wedi digwydd yn yr isetholiad. Doedd rhaid rhannu'r bleidlais 60% a bleidleisiodd ‘allan’ rhwng  y Torïaid , UKIP, a Llafur - y cyfan i anfantais Llafur.

Tra roedd Y Democratiaid Rhyddfrydol wedi elwa o bleidlais o 40% oedd eisio ‘aros’ yn Ewrop ac fe bron dyblu ei rhan o’r bleidlais i ddod yn drydydd.

Wrth edrych ar y bleidlais neithiwr roedd y rhai a bleidleisiodd Llafur yn  yr etholiad cyffredinol i roi'r blaid yn ail, wedi aros adref.

O gymryd neithiwr a chanlyniad isetholiad Richmond ble collodd y blaid Lafur eu hernes mae 'na rybudd mawr i’r blaid pe bau Prif Weinidog May yn mynd am etholiad cyffredinol sydyn.




Plaid
Pleidlais
%
+/-
Ceidwadwyr
17,570
53.5
-2.7
Ukip
4,426
13.5
-2.2
Dem. Rh.
3,606
11
5.3
Llafur
3,363
10.2
-7.1
Annibynnol Lincoln
2,892
8.8
3

No comments:

Post a Comment