Wednesday, 5 October 2016

Edrych yn ôl ar gynhadledd y Ceidwadwyr


Cynllun i ddod i ben y rhwyg yn y blaid geidwadol ar Ewrop oedd y refferendwm. Ond mae’r rhaniadau heddiw yn ddyfnach yn y blaid nag erioed. Ac fe ddaeth hun i’r amlwg yn eu cynhadledd ym Mirmingham yr wythnos yma.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ei rhwygo i dair carfan ar  brexit. Mae dilynwyr David Davis a Liam Fox o blaid ‘brexit’ caled. Mae cyn gweinidogion fel Anna Soubry a Nicky Morgan yn ceisio gweld y DU  yn gweithio yn agos gyda'r UE ‘Brexit’ meddal.

Ac yn y canol mae 'na weinidogion sydd yn cael ei arwain gan y canghellor Phillip Hammond sydd yn derbyn bod ‘brexit yn golygu brexit’ ond fase eisio gweld y DU yn cael mynediad i’r farchnad sengl.

 Pe base y rhai sydd eisio brexit caled yn cael ei ffordd fase yn tanseilio un o fanteision mwyaf eu plaid sef y canfyddiad o enw da  ar gymhwysedd economaidd – mantais sydd yn ennill etholiadau i’r blaid. Ac yn sicr yn rhai o’r seddi ymylol fase yn lleihau eu hapêl.

Er I Terresa May dweud ei bod am roi'r ergyd ar ddechrau'r broses o ymadael yn fis Mawrth nesaf does 'na ddim eglurder ar sut ddyfodol gydag Ewrop mae’r DU eisio. Mae’n dechrau siwrne heb unrhyw syniad o’ ble mae’r daith yn dod i ben.

 Yr opsiwn gorau i’r elit gwleidyddol ac ariannol fase  rhywbeth yn debyg  I ‘Norwy plws.’ Mae gan rain tipyn o ddylanwad yn y blaid Geidwadol. Ond mae cael bod yn rhan o’r farchnad sengl hun yn golygu derbyn symudiad rhydd i weithwyr a chyfraniad at y cyllid Ewropeaidd a hefyd derbyn rheoliadau'r UE heb y gallu i ddylanwadu ar y rheolai hun. Mae’r opsiwn yma yn edrych yn fwy  annhebyg yn ddyddiol.

Am resymau jingoistiaeth mae rhan fwyaf o aelodaeth yn blaid Geidwadol o blaid Ond ar y llaw arall fase symud at bolisi masnach unochroldeb yn creu sioc strwythurol enfawr i economi Prydain. Base hynna yn gwahanu’r blaid geidwadol o’i sylfaen etholedig yn fyd corfforaethol Dinas Llundain. Bydd blynyddoedd  o ansicrwydd sydd yn cael ei greu trwy flynyddoedd o drafodaethau cymhleth yn sicr yn her i fuddsoddiad o’r tu allan (ac mae Cymru a’r DU yn fwy dibynnol ar fuddsoddiad tramor na llawer i uwch economi.) Bydd llawer i benderfyniad ar fuddsoddi yn cael ei ohirio neu eu canslo fel mae Nissan newydd i arwyddo yn Sunderland.

Ac yn sicr fydd methu cael hawliau pasbort i’r sector ariannol  i fasnachu mewn gweithgareddau'r Euros a fase yn peryglu Dinas Llundain fel canolfan ariannol y byd. I hun ddigwydd o dan lywodraeth Geidwadol fase hun yn ddatblygiad hynod o dro bedol ar gefnogaeth hanesyddol y blaid i’r sector.

Mae brexit yn her hefyd i wladwriaeth Prydain. Mae’n  rhaid i’r llywodraeth Geidwadol  gwneud penderfyniadau economaidd yn y cyd-destun system wleidyddol sy’n gamweithredol ac mewn argyfwng. Mae annibyniaeth yr Alban ac yr holl broblem o gytundeb y Pasg yn datglymu a hud yn oed Llundain eisio hawliau arbennig mae hun oll yn pwyntio at Brydain yn chwalu.

Felly mae’r her i’r blaid Geidwadol yn un aruthrol fawr. A does ddim arwydd yn dod o’i chynhadledd bod ganddynt unrhyw syniad sut i ateb yr her.


Monday, 2 March 2015

Cheltenham

Dydd Mawrth
Pencampwr y clwydi
Mae hi’n wythnos fawr Cheltenham ac ar y diwrnod cyntaf faswn yn tybio na’r hyfforddwr fydd yn cael y sylw fydd Willie Mullins a’i geffyl Faugheen. Fe enillodd yn rhwydd yn Ascot yn ras clwydi Nadolig.  Dwi ddim ond yn gweld dau geffyl a fedrith rhoi her i Faugheen, sef Jezki a’r The New One. Jezki a enillodd llynedd ac fe ddylai dangos ei allu eto. Mae The New One wedi ennill ei phedwar ras ddiwethaf ac fe yn sicr ydi’r gorau i gael ei hyfforddi yn Lloegr
1 Faugheen
2 Jezki
3 The New One

Dydd Mercher
Pencampwr helfa'r Fam Frenhines
Eto'r hen Mullins fydd yn cymryd sylw gyda Champagne Fever. Mae’n geffyl arbennig ar ei ddydd ond nid yw yn gyson. Mae yn neidio yn dda eleni ac yn edrych yn fwy sefydlog.  Mae enillydd y ras flwyddyn yn ôl sef Sire De Grugy ond mae wedi bod allan o honni braidd hefo fan anafiadau ac fe gafodd ras gwarthus yn Ebrill ond ar ei orau mae’n well na’r gweddill. Nid yw Dodging Bullets wedi gwneud llawer o’i le ers gorffen yn drydydd ar ôl ailymddangos yn Dachwedd.
1 Champagne Fever
2 Sire De Grugy
3 Dodging bullets

Dydd Iau
Ryanair Chase
Mae  Menorah yn un o’r ceffylau fedrith rhywun colli dipyn o arian yn ei gefnogi. Heb os fe ydi’r ceffyl gorau yn y ras ac ar ei ddydd mae heb ei ail ond ac mae yn ond mawr did yw yn gyson.  I fi mae Cue Card yn fwy cyson o lawer ac mae wrth ei fodd a Cheltenham wedi ennill 3, yn ail ddwywaith allan o saith ras. Fe fydd fy newis i. Hefyd Balder Success mae 'na ras mawr yn y ceffyl yma, a’i hon fydd y ras?
1 Cue Card
2 Balder Success
3 Menorah

Clwydi'r byd Ladbroke
Ar ôl i Big Bucks ymddeol mae'r llwyfan yn glir am bencampwr newydd. Dewis y bwci ydi More of That ond mae’na ofnau  am iechyd y ceffyl. Mae Paul Nicholls yn gwybod sut i hyfforddi am y ras ac yn sicr fydd Saphir Du Rheu yn ddewis i lawer. Ond mae'r hyfforddwr Harry Fry yn sicr yn un sydd yn llawn o obeithion gyda Rock on Ruby sydd wedi ennill ei ddwy ras ddiwethaf  i fi mae yn barod am yr un mawr.
1 Rock on Ruby
2 Sapphir Du Rheu
3 More of That

Dydd Gwener
Y Cwpan Aur
Fel yn yr eisteddfod dyma ruban glas yr ŵyl. Mae gan Paul Nicholls hanes hir o lwyddiant yn y ras gyda cheffylau fel Denman a Kauto Star. Nawr dos ganddo ddim ceffyl ar ru’n safon eleni ond mae ganddo obaith da gyda Silviniaco Conti ceffyl sydd wedi ennill y King George yn Kempton a’r Lancashire Chase yn Haydock. Fedrwch i ddim anwybyddu ceffyl Nicky Henderson a enillodd yn 2013 Bobs Worth. Un arall sydd wedi cael llwyddiant eleni ydi Coneygree a werth ei wneud bob ffordd.
1 Silviniaco Conti
2 Bobs Worth

3 Coneygree

Saturday, 7 June 2014

Y Derby

Diwrnod y Derby, un o rasys mwyaf y byd. A’r ffefryn ydi  Australia. Yn ôl ei hyfforddwr,  Aidan O’Brien tydi e ddim wedi cael gwell ceffyl i  hyfforddi. Mae  O’Brian wedi ennill yr ornest clasurol hwn pedair gwaith felly mae’n dipyn o ddweud. Yn sicr mae’r bwci yn sylweddoli bod y ceffyl yn ‘special’ a phris gwael iawn a gewch am eich arian.

Fy nghyngor i chwiliwch am geffyl a phris da a baciwch e bob ffordd i ddod yn ail neu yn drydydd. Ond pa un ydi’r cwestiwn?  Wel, imi'r ceffyl sydd am roi ras I Australia ydi Kingston Hill, mae’n geffyl sydd wedi arfer ennill. Un arall sydd a mesur Australia ydi ceffyl arall O’Brian, Geoffrey Chaucer. Mae 'na sibrwd ei fod yn cael y gwell ar Australia yn y rasys hyfforddi. Ond fy newis i fydd Orchestra, welais e yn rhedeg yn Gaer a dwi yn meddwl ei fod yn ddigon abl i ddod yn ail ond ar bris da.

Y dewis felly i ddod yn ail i Australia.  Orchestra, Kingston Hill, Geoffrey Chaucer.

Gweddill y rasys

1.35 Black Shadow
2.05 Baitha Alga
2.40 Talent
3.15 Caspian Prince
4.00 Kingston Hill
4.50 Kelinni

5.25 Normal Equilibrium

Friday, 6 June 2014

Yr Oaks

Diwrnod yr Oaks yn Epsom ar y twyni. Ras yr ebolesau yw hyn a digon o ddewis.  Mae 'na bedwar ceffyl yn cymryd fy sylw. 
Mae Marvellous yn gaseg sydd wedi ennill y 1000 gini yn Iwerddon a fydd ddigon o gyflymder ganddi i losgi ond  dwi yn amau braidd eu stamina.  Fedrwch  byth dibrisio Aidan O’Brien yn y rasys mawr mae ganddo dau arall yn rhedeg sef Dazzling a Palace.

Yn ddiddorol nid rhan o gynllun Hughie Morrison, hyfforddwr  Marsh Daisy  oedd eu rhedeg yn yr Oaks rhedeg yn yr Hydref oedd y nod.  Ond ail feddwl ddaru nhw ar y fyned olaf. Dim ar chwarae plant mae hyfforddwr yn newid ei chanllawiau felly mae hi yn werth meddwl am ryw fet neu ddau.

Mae gan  Taghrooda ddigon o gwmpas i wella  ar y pellter hir yma. Fe laniodd y  Pretty Polly Stakes, sy’n ganllaw da i’r ras yma.

Ond i fi IHTIMAL ydi’r gaseg. Mae eillith rhoi llwyddiant cyntaf i stabl Godolphin yn yr Oaks, mi oedd yn trydydd  Qipco 1000 gini tu ôl i Miss France. Heddiw fydd Kieron Fallon ar ei chefn, joci profiadol.

Felly dyma’r drefn i mi Ihtimal, Marsh Daisy, Marvellous a Taghrooda.

Dyma ddewis gweddill y rasys.
1.35          Odeliz Just the Judge
2.10         Tres Coronas Steckonian Star
2.45         French Navy Gregorian
3.20         Llanarmon Lad Abseil        
4.00         Ihtimal Marsh Diary
4.45         This is the Spirit
5.20         Kafeel





.

Saturday, 28 December 2013

Y Genedlaethol

Diwrnod arbennig o rasys yng Nghas-gwent heddiw – “Grand National” Cymru.

Ras i geffylau tros bedwar blwydd oed dros 3 milltir a phump a hanner ystaden neu i’r ifainc 5,934 metr a hefyd tros ddau ar hugain naid. Dipyn o dasg felly. Buddugoliaeth weddol leol oedd hi yn 2012 ceffyl yr hyfforddwr Michael Scudmore sef Monbeg Dude. Pwy fydd yn cael y fuddugoliaeth eleni?

Wel mae 'na bedwar ar bymtheg o geffylau yn rhedeg y ras, tri sydd yn cymryd fy ffansi.

Wel fy newis cyntaf ydi hen law sef Tidal Bay. Pwy fase yn dewis ceffyl sydd yn tri ar ddeg pen ychydig ddyddiau.  Mae wedi profi ei hun  dros y  blynyddoedd ac fe enillodd y cwpan aur yn Sandown  yn Ebrill y llynedd ac mae hi yn dal yn medru cymysgu gyda’r gorau.  Fydd y tir trwm yn ei siwtio.

Highland Lodge ddaru ddod allan o’r Hennesy yn weddol dda ac mae ganddo ddigon o stamina i ddelio a daear fydd yn eithriadol flinedig.

Ceffyl sydd wedi gwneud y pellter ac i mi sydd yn werth edrych arno gyda phris eithriadol ar 20/1 ydi Hey Big Spender. Rydio ddim wedi dangos  ei allu'r tymor yma, ai heddiw fydd yn dangos ei hen ddawn?

Pob lwc a blwyddyn newydd dda.

Gweddill y rasys
12.30              Deputy Dan
1.0                  Bertie Boru
1.30                Moorlands Mist
2.00                Violet Dancer
2.35                Tidal Bay/Highland Lodge/ Hey Big      Spender
3.10                Coverholder

3.45                Capilla

Saturday, 9 November 2013

Rasys Sadwrn am y tro diwethaf.

Fy newis am heddiw. Maen nhw i gyd i weld ar Sianel 4 Lloegr. Ni fydd y golofn yn ymddangos ar ôl heddiw ond ar achlysurai arbennig. Mae prinder amser yn golygu na fedrai rhoi amser i ymchwilio fy newis. Felly gobeithio gadael y llwyfan  efo dipyn o stwr. Pob Hwyl

1.50 Doncaster
FAVOURITE TREAT
Mae’r  ceffyl tair blwydd oed yn cael ei hyfforddi gan Mark Johnston. Dim ond tair ras mae’r ceffyl wedi rhedeg ond fe redodd yng Nghas-gwent am y tro cyntaf yn fis Medi a enillodd o naw meithder ac yn ail yn Lingfield.  Fy ail ddewis ydi Tariq Too

2.05 Wincanton
KARINGA DANCER (Nb
Fe enillodd ceffyl Harry I ni yn Aintree pan iddi yn ei hael ymddangosiad a dechreuodd  y tymor neidio lle ddaru hi orffen flwyddyn ddiwethaf... Fy ail ddewis ydi Melodic Rendezvous.

2.25 Doncaster
HIGHLAND COLORI (NAP)
Hen ffefryn i mi a dyma fy newis nap. Fe enillodd dros 7 ystaden pythefnos yn ôl. A bydd meddaldra'r tir ddim yn broblem i’r ceffyl. Fy ail ddewis ydi Eton Rifles.

2.40 Wincanton
STANDING OVATION
Mae yn rasio o’r pwysa isaf ac i fyny dosbarth ond mae yn mynd am ei trydedd fuddugoliaeth heddiw. Mae ceffyl David Piper wedi ennill dros y cwrs a’r pellter. Fy ail ddewis ydi Pantxoa

3.00 Doncaster
CUSHION
Swclen John Gosden oedd y ffefryn a gollodd yn Newmarket mis un ôl ond er hynny hi sydd yn cymryd fy sylw yn y ras yma. Fy ail ddewis ydi Yojojo.


1.50 Doncaster
FAVOURITE TREAT/Tariq Too

2.05 Wincanton
KARINGA DANCER (Nb) /Melodic Rendezvous

2.25 Doncaster
HIGHLAND COLORI (NAP)/Eton Rifles

2.40 Wincanton
STANDING OVATION/Pantxoa

3.00 Doncaster
CUSHION/Yojojo


3.35 Doncaster
HI THERE / Lahaag




Saturday, 2 November 2013

Dewis y diwrnod


Pen wythnos wych a chwaraeon wedi dechrau neithiwr gyda buddugoliaeth Bangor yng nghynradd Cymru dros Gei Connah


Abertawe a Caerdydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn gynghrair Lloegr. Pwy fydd yn brolio nos fory? Cawn weld.

Heddiw ddigon o ddiddordeb yn y rasys hefyd. Ar ôl penwythnos llewyrchus gyda thair buddugoliaeth wythnos diwethaf rhaid adeiladu ar y llwyddiant. Dyma nhw. Cofiwch y rheol bob ffordd ar dros 7/1. Pob lwc

1.50 Wetherby
COCKNEY SPARROW/L’Unique

2.10 Ascot
KING EDMUND/Fairy Rath

2.30 Down Royal
SIZING EUROPE/First Lieutent

2.45 Ascot
COURT MINSTREL/Makari

3.00 Wetherby
TIDAL BAY/Trustan Times

3.20 Ascot
TRIOLO D’ALENE/Same Difference

3.35 Wetherby
LONG RUN/ Cape Tribulation