Sunday 6 June 2021

Cymru yn yr Ewro


 Mae nhw yn dim reit dda ond oes gennw ddim un fedrith sgorio gol. Faint o weithia da ni wedi clywed hynna yn cael ei ddweud. 


Mae na ddigon o chwaraewyr  ampryddawn one dim un rhif 9 traddodiadol.


Mae Grwp A lle mae Cymru yn chwarae yn esiampl dda o hun.


Mae hi’n sicyr bod hyn yn cwestiwn i tri o’r timau yn y grwp ac mae’r pedwerydd tim yn dibynnu ar saethwr fydd wedi troi 36 pedwar diwrnod ar ol 11 Gorffenaf diwrnod y gem terfynol.


Y dyn dan sylw ydyw  Burak Yilmaz, fydd yn arwain yr ymosodiad ar ran Twrci. 


Er nad yw Twrci wedi cael lawer o lwyddiant yn hanesyddol mae gennyt amddiffyn cadarn a cwpwl o chwaraewyr fedrith newid gem yn yr ymosod.


Nerth Twrci ydyw eu amddiffynfa, mae yn Caglar Soyuncu a Merih Demiral dau chwaraewyr corfforol o’r hen ysgol. 


Prawf hyn ydi’r faith bod Twrci wedi ildio llai gol na unrhyw tim yn yr ornest. 


Fe fedrwn creu y sioc mwyaf yn gem agoriadol y twrnamaint yn erbyn yr Eidal.


Wrthgwrs yr Eidal ydi'r ffefrynnau grwp a mae nwy wedi ennill ei 5 gem cystadleuol diwethaf. Tim sydd yn chwarae gem agored ond ydynt ddim yn debyg o gael bylchau i chwarae gem fel hun gan Cymru  na’r Swistir.


Mae’r dau dim yn chwarae’n ddwfn a chwarae peldroed y toriad ydyw eu steil.


A dyna fydd dull optimwm Cymru. Mae Cymru wedi weithiau defnyddio 4-2-3-1 ond yn gem yma mae’n debyg na sistem 3-4-3 bydd yn cael ei defnyddio, gyda cyflymdra i lawr yr ochrau. Mae ganddynt arferiad o ennill gem o un gol I ddim, chwech ers mis Medi! 


Yn y blaen mae na dau ddull arbenig o chwarae gan Cymru. Y gyntaf cael gwared o blaenwr canol traddodiadol a newid cast rhwng blaenwyr cyflym — Gareth Bale, Harry Wilson, Daniel James — gyda Aaron Ramsey  yn gwneud rhediad hwyr o ganol y cae i sefyllfa sgorio.


Ar achlysyrau eraill mae Cymru yn defnyddio uchelder Kieffer Moore fel canolbwynt yr ymosodiad. Er yn chwarae yn y Cyngrair yn unig mae wedi chwarae yn dda i’w wlad. 


Ond yn anffodus mae Cymru yn chwarae yn erbyn timau gyda chwaraewyr canol cefn fydd yn hapus cystadlu yn yr awyr yn ei erbyn!


Does gan Cymru fawr o chwaraewyr sydd wedi cael tymor da gydai clwbiau a tydi Bale a Ramsey ddim y chwareuwyr yr oeddent.


Mae’r Swistir hefyd wedi symud i amddifyn gyda tri dyn. Mae hyn yn sistem newydd iddynt hwy o dan ei rheolwr Vladimir Petkovic. 


Bydd y gem dydd Sadwrn nesaf fel  gem o gwyddbwyll y ddau dim yn chwarae er mwyn peidio a cholli eu gem cyntaf. Dwi ddim yn rhagweld gem agored.


Mae grwp A yn un nag oes unrhyw un o’r timau yn edrych allan o’i dyfnder a gall unrhyw un ohonynt symyd i’r cam nesaf.

 

Wrthgwrs ein gobeithion fel cenedl ydyw mae Cymru fydd un o’r dau fydd yn symud ymlaen.


C’mon Cymru!


No comments:

Post a Comment