Thursday, 10 November 2016

Pam Trump?

Heb ddeall bod 'na lawer o bobol yn y gorllewin mewn poen fedrwn ni ddim deall y ffenomena o Donald Trump, Brexit  a dyrchafiad y De eithafol yn wleidyddiaeth llawer i wlad.

A’r rheswm am hun neo-rhyddfrydiaeth a’r polisïau sy’n dilyn yn uniongyrchol o’r athroniaeth. Mae 'na niferoedd o bobol  sydd wedi gweld ei safonau byw yn dirywio yn ddiffwysol o dan bolisïau o ddadreoleiddio, preifateiddio, llymder a masnacha corfforedig.

Colli gwaith, pensiynau ac y rhwyd ddiogelwch a oedd ar gael dan y wladwriaeth les oedd hanes niferoedd o bobol yn wledydd y gorllewin yn cynnwys wrth gwrs Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddifrifol Iddynt hwy a’i phlant.

Ar y llaw arall maent yn gweld llawer yn cael bywyd cyffyrddus. Y dosbarth uwch, bancwyr, gwleidyddion  ar fyd sy’n llawn o ‘selebs. ’ Mae’n na pharti yn mynd ymlaen a ydynt ddim yn cael gwadd i’r bwrdd. Cyfoeth yn codi a grym yn codi i rai a dyled a thlodi i nwy.

Mae arweinyddion fel  Donald Trump a Nigel Farrage wedi sylweddoli’r poen ac yn ei ecsbloetio. Felly hefyd y pleidiau asgell Dde ar y cyfandir. Mae’n rhwydd troi pobol yn erbyn  ei gilydd. Rhoi’r bai  ar fewnfudwyr, Mwslimiaid, Merched, y croenddu. Troi I mewn ar ei hunain ac edrych yn ôl gyda hiraeth am yr hen ddyddiau.

Y diffyg ydi ei siomi y cawn gan y sefyllfa newydd, gan fydd ei harweinydd ddim yn fodlon delio ar broblem sef gwneud yr economi gweithio i’r llawer. Nid hynna yw natur cyfalafiaeth.

Nid fydd hi yn hir tan fydd pobol yn cael ei siomi gan Trump a hefyd  Brexit yn y wlad yma, ond yn anffodus fydd na llawer mwy o boen iddynt o dan y drefn maent wedi pleidleisio i hebrwng i mewn.

Yr ateb ydi troi ein cefn ar neo-rhyddfrydiaeth a threfnu ei’n economi a’n cymdeithas a’r llinella sy’n rhoi gobaith, cymdeithas gynhwysfawr ble mae pawb yn cael chwarae teg. 

Gobaith leddfa y galon luddedig.

Friday, 4 November 2016

Y wasg a barnwyr

Un o elfennau pwysig  cyfansoddiad yr DU ydi rheolaeth cyfraith ac annibyniaeth barnwyr. Ond yn sicr nid felly mae rhai o’n papurau yn ei gweld hi yn dilyn dyfarniad yr uchel Lys  ar Erthygl 50. Mae eu hymateb wedi bod yn ffyrnig, yn llawn casineb at y barnwyr, rhai yn mynd mor bell a  gofyn iddynt gael y sac.

A heb golli cyfle roedd David Davies aelod Mynwy yn trydar
‪”@DavidTCDavies
Unelected judges calling the shots. This is precisely why we voted out. Power to the people!” a Douglas Carswell AS yn awgrymu bod rhaid cael barnwyr gwahanol trwy ddiwygio'r system o ddewis barnwyr. Er mwyn cael rhai fase yn siwtio eu hagwedd gwleidyddol o, mae’n debyg.

Ond beth yn union oedd trosedd y barnwyr? Edrych ar y gyfraith  ac nid ar wleidyddiaeth. Roeddent yn gadarn yn eu barn nad oedd yr hun yn ddim i wneud a’r teilyngdod o fod i mewn neu allan o’r UE ond ar gwestiwn a oedd hi’n gyfreithiol i’r llywodraeth penderfynu ar erthygl 50 neu’r senedd.

Ac yn unfrydol fe benderfynwyd nad oedd gan y llywodraeth y grym. Pam? Am fod hi’n egwyddor sylfaenol o’r cyfansoddiad fod y rhagorfraint y Goron ddim yw defnyddio i gymryd hawliau roedd wedi eu trosglwyddo i ddinasyddion trwy’r senedd. A dyna fase wedi digwydd pe bau’r llywodraeth yn cael eu ffordd.

Yn y bôn a’ yw ein papurau newydd ac ein gwleidyddion eisio cyrtiau annibynnol neu ddim. Yn sicr ar ôl yr ymateb yr ateb i’w “na.” Ac yn wir  mae hun yn mynd a ni i lawr ffordd lithrig tros ben fel cymdeithas.



Wednesday, 26 October 2016

'Balans'

Yn ddiweddar cefais y fraint o fod ar banel o ddarlledwyr a newyddiadurwyr yn trafod darlledu gwleidyddiaeth i bobol ifanc a fu trafodaeth ar y cwestiwn o ‘balans.’

Does dim dwywaith bod y cyfryngau darlledu ac yn enwedig y BBC yn gwneud job ragorol o gyfleu gwybodaeth i’r gwyliwr yn hygyrch, rhwydd i ddeall ac yn addysgiadol. Ond y munud mae’r pwnc yn un gwleidyddol mae’r ddawn yn mynd allan drwy’r ffenestr.

Y rheswm, os yw’r pwnc yn wleidyddol mae rhaid rhoi ‘balans’ dros bob dim arall.  Mae gwleidyddiaeth yn cymryd lle cywirdeb ac yn amyl  y gwir.

Daeth hun yn amlwg yn y refferendwm diwethaf  pan roedd barn mwyafrif helaeth (364 i fod yn fanwl gywir) o economegwyr yn dweud bod gadael yr undeb Ewropeaidd am wneud niwed i economi ein gwlad yn cael ei balansio gyda barn un neu ddau o rhai yn dal y syniad i’r gwrthwyneb ond roedd y darlledwr dim yn crybwyll ei fod yn farn leiafrifol o dra un neu ddau o economegwyr ac nid rhan o’r brif ffrwd.

Esiampl arall o esgeulusid ein darlledwyr ydi gadael i wleidyddion dweud anwiredd heb ei herio ar bob achlysur mae’r anwiredd yn cael eu dweud. Enghraifft o hun oedd creu'r myth fod afradlonedd Llafur wedi creu llymder. Os nad yw ein cyfryngau yn cywiro gwleidyddion pan mae’n yn dweud celwydd, mae hun yn rhoi cymhelliad i’r gwleidyddion i gelwydda. Mae hun yn ystumio ein democratiaeth.

Gyda’r twf  o rwydweithiau cymdeithasol sydd yn cyfleu rhagfarnau fel ffeithiau does neb ond ein darlledwyr cyhoeddus i fynegi i’r cyhoedd y gwir. Mae yn ddyletswydd arnynt i wahaniaethu rhwng y ‘ffeithiau’ ar ’spin.’ Ond yn amyl mae hun yn cael ei foddi gan wleidyddion yn  gweiddi - ‘bias.’


Does 'na ddim ond un ffordd o osgoi ffeithiau yn cael eu hystumio, a hynny drwy eu cywiro yn y fan ar le. Fel y gwelir yn y ddadl rhwng Trump a Clinton un o oblygiadau'r cymedrolwr ydi cywiro. Os oes un o’r ymgeisydd yn dweud X ac X ddim yn wir mi ddylai'r cymedrolwr dweud hun. Ac mi ddylai hun fod yn rhan o ddyletswydd pob cyfwelydd.

Mae eisiau trin a thrafod gwleidyddiaeth ar y tonfeddi, ond mae’n rhaid i’r drafodaeth  dod a goleuni i’r gwrandäwr ac nid eu camarwain. Mae’r rheolau presennol ar balans yn camarwain.


Thursday, 20 October 2016

Donald Trump yn iawn



Mae Donald Trump yn iawn. Dyna chi frawddeg roeddwn roed wedi meddwl baswn ni yn sgwennu.  Mae'r ymgeisydd yn iawn i sôn am ddiffygion yn system pleidleisio'r Unol Daleithiau, ond nid yn y ffordd mae o yn ei drafod.

Os cofiwch pan roedd Al Gore yn sefyll yn erbyn George Bush ar bleidlais yn Florida. Yn y dalaith fe fu terfyn ar y cyfrif ac o ganlyniad fe gafodd Bush y fuddugoliaeth ac yr arlywyddiaeth ar gefn 567 o bleidleisiau  dadleuol.

Yn 1960 pan lwyddodd Kennedy I drechu Nixon ar ganran tenau cenedlaethol ar gefn llawer i gyhuddiad bod  “y mob” wedi newid taleithiau allweddol fel Illinois er enghraifft.

Mae’r Gweriniaethwyr am ddegau wedi bod yn ymarfer ataliadau’r pleidleiswyr ac yn gyrru pleidleiswyr croenddu i ffwrdd o’r rôl pleidleisio. Mae 'na hefyd gerimandro gan y ddwy blaid ar lefel y dalaith  a'r Tŷ.

Yn fwy elfennol mae 'na wahaniaeth enfawr rhwng y rhifodd sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio a’r pleidleiswyr potensial ble mae’r sustem wedi ei sgiwio yn erbyn pleidleisiwr   groenddu,  y tlawd  ar ifainc.

Symptom yw Donald Trump o’r poen, y loes ar anhrefn sydd i lawer o gwynion difreintiedig America. Ond mae wedi cyflwyno cennad dychrynllyd i’r dyfodol: hiliaeth, senoffobia a misogonistaith a fawr ddim o wybodaeth am polosiau a materion tramor.

Ond efallai bydd ddadl neithiwr yn cosi pryder gyda’r sôn am “etholiad wedi ei rigio” a “rhyfel cartref” os nad yw yn ennill ac e’n gwrthod dweud ei fod am dderbyn y canlyniad pe fase yn colli.

Oes, mae na ddiffygion mawr yn democratiaeth yr UD ond nid Donald Trump yw'r ateb.  Nid democrat yw’r dyn ond demagog.



Thursday, 6 October 2016

Pwyso am newidiadau i Mesur Cymru

“Tydi Mesur Cymru ddim yn ddigon da i’r pwrpas ac mae yn gam yn ôl.” Crynodeb o farn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Cymru ar Fesur Cymru.

Yn ôl Cadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, bydd rhaid i’r Tŷ Arglwyddi, sydd yn dechrau trafod y Mesur dydd Llun nesaf (Hydref ’16), newid llawer ar y Mesur i wneud e’n deilwng o’r pwrpas gwreiddiol, sef cryfhau a symleiddio cyfansoddiad llywodraeth Cymru.

Fe aeth yn bellach gan ddweud bod y Mesur “yn gam yn ôl i'r broses ddatganoli.” Heb newidiadau sylfaenol ni fydd y mesur yn ddigon i sicrhau setliad datganoli parhaol. 

Pwrpas y Mesur yw diffinio'n gliriach pa lywodraeth, un a'i San Steffan neu Bad Caerdydd, sy'n gwneud beth. 

Felly mae Bil Cymru yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y fframwaith fel y gall y Cynulliad deddfu yng Nghymru mewn meysydd megis iechyd ac addysg i wella  bywydau a chyfleoedd trigolion y wlad.

Ar lawer achlysur mae Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol wedi mynnu y byddai'r Mesur yn gwneud  datganoli yn gryfach, clir a theg.

Bwriad aelodau’r pwyllgor ydi nawr ceisio dylanwadu ar Dŷ’r Arglwyddi i wneud gwelliannau sylweddol tra mae’r mesur yn mynd ar ei siwrne drwy’r Tŷ.

Sylw

Pan gyhoeddwyd y mesur diweddara y bwriad oedd y base’n para oes.  Hyd nod fase’r ysgrifennydd gwladol yn gwneud tro bedol a derbyn holl argymhellion pwyllgor Huw Iranca-Davies mae’n debyg bydd rhaid cael deddf arall yn hwyr neu'n hwyrach. Pam? Yn syml ‘brexit.’ Bydd termau gadael yr UE yn rhoi straen  cyfansoddiadol ar y Deyrnas. Yn y pen draw fydd rhaid cael confensiwn cyfansoddiadol i ddelio a’r newidiadau ac fydd rhaid gofyn y cwestiwn ble mae’r DU yn mynd? Beth yw ei phwrpas? a pham ddylem fod yn rhan ohoni? Cwestiynau fydd rhaid eu hateb.  Fydd had y felltith brexit yn tyfu yn rhwydd  ond yn wahanol yn dir ein pedwar gwlad.



Wednesday, 5 October 2016

Edrych yn ôl ar gynhadledd y Ceidwadwyr


Cynllun i ddod i ben y rhwyg yn y blaid geidwadol ar Ewrop oedd y refferendwm. Ond mae’r rhaniadau heddiw yn ddyfnach yn y blaid nag erioed. Ac fe ddaeth hun i’r amlwg yn eu cynhadledd ym Mirmingham yr wythnos yma.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ei rhwygo i dair carfan ar  brexit. Mae dilynwyr David Davis a Liam Fox o blaid ‘brexit’ caled. Mae cyn gweinidogion fel Anna Soubry a Nicky Morgan yn ceisio gweld y DU  yn gweithio yn agos gyda'r UE ‘Brexit’ meddal.

Ac yn y canol mae 'na weinidogion sydd yn cael ei arwain gan y canghellor Phillip Hammond sydd yn derbyn bod ‘brexit yn golygu brexit’ ond fase eisio gweld y DU yn cael mynediad i’r farchnad sengl.

 Pe base y rhai sydd eisio brexit caled yn cael ei ffordd fase yn tanseilio un o fanteision mwyaf eu plaid sef y canfyddiad o enw da  ar gymhwysedd economaidd – mantais sydd yn ennill etholiadau i’r blaid. Ac yn sicr yn rhai o’r seddi ymylol fase yn lleihau eu hapêl.

Er I Terresa May dweud ei bod am roi'r ergyd ar ddechrau'r broses o ymadael yn fis Mawrth nesaf does 'na ddim eglurder ar sut ddyfodol gydag Ewrop mae’r DU eisio. Mae’n dechrau siwrne heb unrhyw syniad o’ ble mae’r daith yn dod i ben.

 Yr opsiwn gorau i’r elit gwleidyddol ac ariannol fase  rhywbeth yn debyg  I ‘Norwy plws.’ Mae gan rain tipyn o ddylanwad yn y blaid Geidwadol. Ond mae cael bod yn rhan o’r farchnad sengl hun yn golygu derbyn symudiad rhydd i weithwyr a chyfraniad at y cyllid Ewropeaidd a hefyd derbyn rheoliadau'r UE heb y gallu i ddylanwadu ar y rheolai hun. Mae’r opsiwn yma yn edrych yn fwy  annhebyg yn ddyddiol.

Am resymau jingoistiaeth mae rhan fwyaf o aelodaeth yn blaid Geidwadol o blaid Ond ar y llaw arall fase symud at bolisi masnach unochroldeb yn creu sioc strwythurol enfawr i economi Prydain. Base hynna yn gwahanu’r blaid geidwadol o’i sylfaen etholedig yn fyd corfforaethol Dinas Llundain. Bydd blynyddoedd  o ansicrwydd sydd yn cael ei greu trwy flynyddoedd o drafodaethau cymhleth yn sicr yn her i fuddsoddiad o’r tu allan (ac mae Cymru a’r DU yn fwy dibynnol ar fuddsoddiad tramor na llawer i uwch economi.) Bydd llawer i benderfyniad ar fuddsoddi yn cael ei ohirio neu eu canslo fel mae Nissan newydd i arwyddo yn Sunderland.

Ac yn sicr fydd methu cael hawliau pasbort i’r sector ariannol  i fasnachu mewn gweithgareddau'r Euros a fase yn peryglu Dinas Llundain fel canolfan ariannol y byd. I hun ddigwydd o dan lywodraeth Geidwadol fase hun yn ddatblygiad hynod o dro bedol ar gefnogaeth hanesyddol y blaid i’r sector.

Mae brexit yn her hefyd i wladwriaeth Prydain. Mae’n  rhaid i’r llywodraeth Geidwadol  gwneud penderfyniadau economaidd yn y cyd-destun system wleidyddol sy’n gamweithredol ac mewn argyfwng. Mae annibyniaeth yr Alban ac yr holl broblem o gytundeb y Pasg yn datglymu a hud yn oed Llundain eisio hawliau arbennig mae hun oll yn pwyntio at Brydain yn chwalu.

Felly mae’r her i’r blaid Geidwadol yn un aruthrol fawr. A does ddim arwydd yn dod o’i chynhadledd bod ganddynt unrhyw syniad sut i ateb yr her.


Monday, 2 March 2015

Cheltenham

Dydd Mawrth
Pencampwr y clwydi
Mae hi’n wythnos fawr Cheltenham ac ar y diwrnod cyntaf faswn yn tybio na’r hyfforddwr fydd yn cael y sylw fydd Willie Mullins a’i geffyl Faugheen. Fe enillodd yn rhwydd yn Ascot yn ras clwydi Nadolig.  Dwi ddim ond yn gweld dau geffyl a fedrith rhoi her i Faugheen, sef Jezki a’r The New One. Jezki a enillodd llynedd ac fe ddylai dangos ei allu eto. Mae The New One wedi ennill ei phedwar ras ddiwethaf ac fe yn sicr ydi’r gorau i gael ei hyfforddi yn Lloegr
1 Faugheen
2 Jezki
3 The New One

Dydd Mercher
Pencampwr helfa'r Fam Frenhines
Eto'r hen Mullins fydd yn cymryd sylw gyda Champagne Fever. Mae’n geffyl arbennig ar ei ddydd ond nid yw yn gyson. Mae yn neidio yn dda eleni ac yn edrych yn fwy sefydlog.  Mae enillydd y ras flwyddyn yn ôl sef Sire De Grugy ond mae wedi bod allan o honni braidd hefo fan anafiadau ac fe gafodd ras gwarthus yn Ebrill ond ar ei orau mae’n well na’r gweddill. Nid yw Dodging Bullets wedi gwneud llawer o’i le ers gorffen yn drydydd ar ôl ailymddangos yn Dachwedd.
1 Champagne Fever
2 Sire De Grugy
3 Dodging bullets

Dydd Iau
Ryanair Chase
Mae  Menorah yn un o’r ceffylau fedrith rhywun colli dipyn o arian yn ei gefnogi. Heb os fe ydi’r ceffyl gorau yn y ras ac ar ei ddydd mae heb ei ail ond ac mae yn ond mawr did yw yn gyson.  I fi mae Cue Card yn fwy cyson o lawer ac mae wrth ei fodd a Cheltenham wedi ennill 3, yn ail ddwywaith allan o saith ras. Fe fydd fy newis i. Hefyd Balder Success mae 'na ras mawr yn y ceffyl yma, a’i hon fydd y ras?
1 Cue Card
2 Balder Success
3 Menorah

Clwydi'r byd Ladbroke
Ar ôl i Big Bucks ymddeol mae'r llwyfan yn glir am bencampwr newydd. Dewis y bwci ydi More of That ond mae’na ofnau  am iechyd y ceffyl. Mae Paul Nicholls yn gwybod sut i hyfforddi am y ras ac yn sicr fydd Saphir Du Rheu yn ddewis i lawer. Ond mae'r hyfforddwr Harry Fry yn sicr yn un sydd yn llawn o obeithion gyda Rock on Ruby sydd wedi ennill ei ddwy ras ddiwethaf  i fi mae yn barod am yr un mawr.
1 Rock on Ruby
2 Sapphir Du Rheu
3 More of That

Dydd Gwener
Y Cwpan Aur
Fel yn yr eisteddfod dyma ruban glas yr ŵyl. Mae gan Paul Nicholls hanes hir o lwyddiant yn y ras gyda cheffylau fel Denman a Kauto Star. Nawr dos ganddo ddim ceffyl ar ru’n safon eleni ond mae ganddo obaith da gyda Silviniaco Conti ceffyl sydd wedi ennill y King George yn Kempton a’r Lancashire Chase yn Haydock. Fedrwch i ddim anwybyddu ceffyl Nicky Henderson a enillodd yn 2013 Bobs Worth. Un arall sydd wedi cael llwyddiant eleni ydi Coneygree a werth ei wneud bob ffordd.
1 Silviniaco Conti
2 Bobs Worth

3 Coneygree