Friday 15 March 2013

Y stadiwm a mwy



Stadiwm y Mileniwm fydd yn cael sylw’r genedl heddiw. A fydd ein tîm cenedlaethol digon da i rwystro’r hen elyn gael y ‘grand slam’ ar goron triphlyg. Mae’n ‘na ots o 3/1 ar fuddugoliaeth i Gymru eu rhwystro. Beth amdani? Arian a buddugoliaeth, a fydd yna well Sadwrn.

I lawr yr M4 gem fawr i Abertawe. Arsenal fydd yr ymwelwyr. Bydd y ‘Gunners’ yn trio cael ei chais o orffen yn y pedwar uchel o’r cynghrair yn ôl ar drac ar ôl gael ei bwrw allan o Gynghrair Pencampwyr  Ewrop yn yr wythnos.

Mae Michael Laudrop yn gobeithio gael Leon Britton yn y tim ers ei anafiad yn West Brom lle cafoodd y tim ei twyllo o gol i wneud y canlyniad yn gyfartal. Wel, dyna ydi pel droed, cymysgedd o sgi`l a lwc.

Bydd Caerdydd yn teithio i Swydd Efrog i drio gwella ar ei chanlyniadau diwethaf yn erbyn  Sheffield Wednesday. Dave Jones cyn rheolwyr Caerdydd sydd nawr yn rheoli'r tîm cartref. Does ganddo ddim problem gyda'i ddewis neb wedi ei hanafu ond mae’n colli  Connor Wickham  sgoriwr  y gôl fuddugol iddynt yn erbyn Leicester. Mae wedi cael ei alw yn ôl i Sunderland gan fod ar fenthig i Wednesday

Nid felly Caerdydd. Mae’r capten Mark Hudson ai partner canol yr amddiffyn Ben Turner mewn amheuaeth am y gêm. Dyna pam mae Malky Macay wedi arwyddo amddiffynnwr o Norwich sef Leon Barnett am fis i lenwi’r bwlch.
Mae’r ‘Gleision’ neu’r ‘Cochion’, cymerwch eich dewis, wedi rhedeg allan o stem yn ddiweddar. A’i heddiw byddent yn dod o hyd i’w hwyl unwaith eto?

 Y gêm fwyaf pwysig y dydd wrth gwrs fydd yr ail yn erbyn y cyntaf yn gynghrair Cymru. TNS adref a rhoi croeso  i Fangor. C’mon y ddinas.

Ac ar ôl hwyl a sbri Cheltenham ein traed yn ôl ar y ddaear yn Uttoxer a Lingfield. Beth fedrai ddweud ond rhoi ichwi fy newis am y diwrnod. Dyma graff ar dipwyr gorau Cheltenham


Dewis y dydd i gyd i’w gweld ar C4. C'mon S4C beth amdani rasys ceffylau i Gymry Cymraeg eu hiaith.


2.05 Uttoxeter                       Rocky Elsom/Khazium

2.20 Lingfield (pob tywydd)   Intransigent(nb)/Farmleigh      House

2.40 Uttoxeter                       Savant Bleu/ Grouse Lodge

2.55 Lingfield (pt)                  Ashamaly/Hoarding

3.15 Uttoxeter                       Connectivity/ The Tracey Shuffle

3.30 Lingfield (pt)                  Farraaj(nap)/ Robin Hood Bay

3.50 Uttoxeter                       Master Overseer/ Cool Operator


Pob Hwyl, Joiwch


Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb y “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/

2 comments:

  1. Canlyniad gret i Gymru. Canlyniad Bangor yn siomedig.

    ReplyDelete
  2. Fase ennill bob tro ddim yn gwneud hi’n gystadleuaeth. Canlyniad da i Everton, elw ar y rasys a hefyd Cymru fel wyt ti’n i ddweud. Ar y cyfan penwythnos boddhaol. Ond mae’n rhaid i Fangor gwella cu’n gêm nesa Cwpan Cymru.

    ReplyDelete