Gareth Hughes sylwebydd gwleidyddol a newyddiadurwr/journalist and political commentator.
Mae'r blog yma o hyn ymlaen am ei ddefnyddio i drafod gwleidyddiaeth a phob dim sy'n cymryd fy ffansi fel chwaraeon yn enwedig rasys ceffylau a phel droed. Pwy a wyr ella y cewch 'dip' o dro i dro.
This blog will be used to look at politics from a Welsh perspective, but will from time roam into other fields as well.
Saturday, 10 August 2013
Eisteddfod Shergar
Eisteddfod y byd ceffylau heddiw, sef Cwpan Shergar. Cystadleuaeth i ddeuddeg joci, chwe ras, pedwar tîm, dau ryw ac un wobr.
Eleni'r pedwar tîm fydd Prydain ac Iwerddon, Ewrop, Gweddill y Byd a'r Merched. Mae gan bob tîm tri joci yn yr un lliw yn cystadlu ac mae’r cwbl yn gorfod rasio yn bump o’r chwe ras yn y gystadleuaeth.
Mae 'na wobr o £30,000 i bob un o’r rasys handicap o ddeg ceffyl, sy’n golygu dau neu dri cheffyl o bob tîm ym mhob ras. Mae bob lle mae’r ceffylau yn gorffen yn cael eu troi i bwyntiau ar bump gyntaf adref yn cael pwyntiau, sef 15, 10, 7, 5 a 3.
A hefyd mha na wobr arbennig i’r joci gyda mwyaf o bwyntiau. Fel dwedais i yn union yr un fath ar eisteddfod genedlaethol. Mi gewch ots gan y bwci am y joci buddugol. James Doyle yw’r ffefryn ar 5/1i ennill a Rosie Napravnik i ddod yn ail ar 6/1.
Dyma fy newis o geffylau am heddiw. I gyd ar Sianel Pedwar.
Fel gwelwch chwi yn y tabl isod roedd Sadwrn diwethaf yn Goodwood yn un uffernol, ond roedd yr wythnos yn llwyddiannus. Fase pawb a dilynodd yr wythnos wedi gwneud elw go ‘teidi.’
Gobeithio'r gorau am heddiw, gan fod y golofn yn mynd am wyliau am bythefnos ac annhebyg iawn fydd gan i signal i fedru rhoi fy newis ar y we.
No comments:
Post a Comment