Yn ôl o’m gwyliau ar Sadwrn cyntaf Uwch
Gynghrair Cymru. Fel hynny dyla’ hi fod. Yr haf drosodd a pel-droed i’n diddori
yn fisoedd y gaeaf.
Mae Bangor yn y Drenewydd heddiw, dipyn
bach o ymarfer cyn yr em holl bwysig dydd Llun y banc yr em ddarbi Bangor yn
erbyn Y Rhyl.
Er mae carfan fach sydd gan Fangor disgwyl
pethau mawr o ohonynt eleni ar ôl siomedigaeth tymor diwethaf. Mae’n rhaid i
rywun rhoi dipyn o her i chwaraewyr amser llawn TNS a’r Dinasyddion ydi’r bois
i wneud hynny.
Ar ôl ei buddugoliaeth yn erbyn Petrolui
Ploiesti 5-1 yn gwpan Ewropa dydd
Iau mae Abertawe ar drip I White Hart Lane yn ogledd Llundain I chwarae Spurs.
Dim gem hawdd. Enillodd Spurs o 5-0 yn erbyn Dinamo Piolesti yn yr un ornest.
Yn dangos bod yna mwy i Spurs na Gareth Bale.
Bydd gan Gaerdydd dipyn o sialens yn eu gem
gyntaf gartref dydd Sul yn erbyn Manchester City. Yn ôl Malky Mackay mae eisio
gwneud Caerdydd yn gadarnle i dimau fydd yn ymweld. Cawn weld.
Diwrnod olaf gŵyl yr Ebor yn Efrog fydd yn cymryd ein sylw heddiw yn y
rasys. Mae’n debyg na Cable Bay bydd yn cymryd sylw puntars Sir Fôn ond My Catch fydd yn cymryd fy sylw iddo fe
roes tro da arni yn erbyn ceffylau o safon yn Deauville mis diwethaf. Mae’n
geffyl ar ei fyny.
Rwyf wedi tipio'r cyfan yn Efrog ar dair
ras a welwch ar S4 Lloegr o Goodwood. Pob lwc. Mae’n braf fod yn ôl ar y rhwyd
byd eang gobeithio y cawn hwyl ar ôl dod yn ôl.
Mae nhw wedi tyny Great Hall ac Agent Knight yn y 2.40 felly fy newis nawr ydi Havanna Cooler
Efrog
2.05 Rex
Imperator/Sirius Prospect
2.40 Great
Hall/Agent Knight
3.15 My
Catch/Cable Bay
3.50 Ted
Veale/Sun Central
4.25 Mecca’s Angel/Excel’s Beauty
5.00 Sennockian
Star/Charles Camoin
5.35 Jillnextdoor/Hoofalong
Goodwood
2.20 Amazing
Maria/Midnite Angel
2.55 Magic
City/Glen Moss
3.30 Afsare/Thistle
Bird
For any Welsh-challenged readers, Efrog isn't France on line, it's actually York !
ReplyDelete