Yn ddiweddar
cefais y fraint o fod ar banel o ddarlledwyr a newyddiadurwyr yn trafod
darlledu gwleidyddiaeth i bobol ifanc a fu trafodaeth ar y cwestiwn o ‘balans.’
Does dim
dwywaith bod y cyfryngau darlledu ac yn enwedig y BBC yn gwneud job ragorol o
gyfleu gwybodaeth i’r gwyliwr yn hygyrch, rhwydd i ddeall ac yn addysgiadol.
Ond y munud mae’r pwnc yn un gwleidyddol mae’r ddawn yn mynd allan drwy’r
ffenestr.
Y
rheswm, os yw’r pwnc yn wleidyddol mae rhaid rhoi ‘balans’ dros bob dim
arall. Mae gwleidyddiaeth yn
cymryd lle cywirdeb ac yn amyl y
gwir.
Daeth
hun yn amlwg yn y refferendwm diwethaf
pan roedd barn mwyafrif helaeth (364 i fod yn fanwl gywir) o economegwyr
yn dweud bod gadael yr undeb Ewropeaidd am wneud niwed i economi ein gwlad yn
cael ei balansio gyda barn un neu ddau o rhai yn dal y syniad i’r gwrthwyneb
ond roedd y darlledwr dim yn crybwyll ei fod yn farn leiafrifol o dra un neu
ddau o economegwyr ac nid rhan o’r brif ffrwd.
Esiampl arall o esgeulusid ein darlledwyr ydi gadael i
wleidyddion dweud anwiredd heb ei herio ar bob achlysur mae’r anwiredd yn cael
eu dweud. Enghraifft o hun oedd creu'r myth fod afradlonedd Llafur wedi creu
llymder. Os nad yw ein cyfryngau yn cywiro gwleidyddion pan mae’n yn dweud
celwydd, mae hun yn rhoi cymhelliad i’r gwleidyddion i gelwydda. Mae hun yn
ystumio ein democratiaeth.
Gyda’r twf
o rwydweithiau cymdeithasol sydd yn cyfleu rhagfarnau fel ffeithiau does
neb ond ein darlledwyr cyhoeddus i fynegi i’r cyhoedd y gwir. Mae yn
ddyletswydd arnynt i wahaniaethu rhwng y ‘ffeithiau’ ar ’spin.’ Ond yn amyl mae
hun yn cael ei foddi gan wleidyddion yn
gweiddi - ‘bias.’
Does
'na ddim ond un ffordd o osgoi ffeithiau yn cael eu hystumio, a hynny drwy eu
cywiro yn y fan ar le. Fel y gwelir yn y ddadl rhwng Trump a Clinton un o
oblygiadau'r cymedrolwr ydi cywiro. Os oes un o’r ymgeisydd yn dweud X ac X
ddim yn wir mi ddylai'r cymedrolwr dweud hun. Ac mi ddylai hun fod yn rhan o
ddyletswydd pob cyfwelydd.
Mae
eisiau trin a thrafod gwleidyddiaeth ar y tonfeddi, ond mae’n rhaid i’r
drafodaeth dod a goleuni i’r
gwrandäwr ac nid eu camarwain. Mae’r rheolau presennol ar balans yn camarwain.