Gyda
mwyafrif o aelodau'r blaid Lafur eisio aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond hen
gadarnleoedd Llafur wedi pleidleisio i adael Ewrop mae arweinydd Llafur mewn
sefyllfa anodd fel dyweded yr hen ddihareb ‘rhwng y dyn a thinau’r gwartheg.’
Ac fel mae’r polau piniwn yn dangos mae cefnogaeth i’r blaid Lafur yn isel sydd
yn tan linellu'r teimlad bod Llafur wedi colli ei ffordd ac yn ansicr i ba gyfeiriad i symud.
Fe fy
Jeremy Corbyn yn crwydro’r stiwdios ac yn annerch cyfarfod yn Peterborough I
geisio ennill tir i’w blaid. Roedd y cyfan yn cael ei ddisgrifio fel “ail-lansiad” o ymgyrch Jeremy Corbyn.
Ar Ewrop
roedd Corbyn yn cofleidio’r syniad o adael Ewrop.
Dywedodd bod y Torïaid am flynyddoedd
wedi cuddio heibio rheolau'r UE ar gymorth gwladol gan nad oeddent eisio
ymyrryd. “Ond mae rheolau’r UE yn amyl yn rhwystro gweithredu ar gymorth i’r
economi, swyddi gweddus a safonau byw.”
'Lexit' y chwith
Beth oedd
yn ceisio cyflawni oedd y syniad o “Lexit” – ymadawiad asgell chwith o’r UE
wedi ei sefydlu ar egwyddorion sosialaidd. Mae ceisio derbyn realiti canlyniad
y refferendwm yn gwneud synnwyr ond yn sicr fydd yn cael ei ddefnyddio gan ei
elynion i geisio dweud bod Corbyn yn sgeptig ar Ewrop o’r dechrau er iddo
ddweud ddoe bod e wedi pleidleisio i aros yn y clwb.
Ond roedd
eisio aros yn y farchnad sengl ac o ganlyniad roedd llafur mudol yn debyg i fod
yn rhan o gost o aros yn y farchnad. Er hynny roedd yn fodlon derbyn y ffaith
bod yna pryderon can llawer ar mewn mudo ac roedd yn “fodlon derbyn rheolaeth
resymol ar mewn mudo.” Symudiad go fawr o’i safiant ar y pwnc yn y gorffennol. Er iddo geisio chwarae i
lawr y newid a mynnu bod o yn dal at ei egwyddorion gwreiddiol.
Cap ar gyflog
Ond nid
Ewrop a gafodd y sylw mwyaf ond ei gynllun beiddgar sosialaidd i roi cap ar
gyflog y gor-gyfaethog. Mae hyn yn sicr o fod yn boblogaidd gyda llawer iawn o
bobol gyffredin sydd yn grac gydag anghydraddoldeb cyflogau.
Er bod yn
‘soundbite’ da, ond fel polisi mae’n debyg o fod yn un anodd i weithredu. Bydd
yr un cwyn yn cael ei ddweud ag oedd yn cael ei ddweud am Ed Miliband bod
e’n ‘gwrth-dyheadol.’
Ond yn sicr
mae e wedi llwyddo cael sylw ac mae’n rhan o’r ail brandio o Corbyn er mwyn
gadael “Corbyn I fod yn Corbyn” er mwyn ennill tir yn bolau a cheisio manteisio
ar y teimlad poblyddol a gwelwyd y
bleidlais Brexit ac ethol Trump tros yr Iwerydd. Amser a ddengys a fydd hun yn
llwyddiannus ond bydd ei dîm mewnol yn hapus a sylw y cyfryngau a gafodd ei
ymdrechion.
No comments:
Post a Comment