Fe newidwyd Barak Obama yn ei ddyddiau olaf fel Arlywydd y ddedfryd o 35 mlynedd o garchar ar Chelsea Manning. Mi fydd Ms Manning a chafodd rhan o’i haddysg yn Sir Benfro yn cael ei rhyddha Mis Mai.
Disgrifiwyd Stephen Crabb AS Benfro'r
"Gweithred o drugaredd a thosturi yn nyddiau olaf arlywyddiaeth Obama.
Bydd ffrindiau a theulu Manning yn fy etholaeth yn croesawu hyn."
Ychwanegodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd: "Newyddion
gwych i Chelsea, ei theulu a'i ffrindiau fu'n ymgyrchu mor galed. Diolch yn
fawr i'r Arlywydd Obama."
Ond roedd
gan Obama fawr o drugaredd at un arall sydd wedi ei garcharu ers saith degau'r
ganrif ddiwethaf sef yr actifedd dros hawliau'r Indiaid Americanaidd, Leonard
Peltier. Bron sicr mae ei gyfle olaf o gael ei
rhyddid wedi diflannu gyda’r penderfyniad. Er I’r Pab ofyn I Obama ei rhyddhau.
Bu cafodd
Peltier yn euog o lofruddio dau
asiant FBI ar ôl brwydr saethu yn Diriogaeth Indiaid Americanaidd Pine Ridge yn
De Dakotsa yn 1975.
Mae rhai
yn gweld y penderfyniad fel symbal o’r gamdriniaeth o’r Indiaid Americanaidd yn
system cyfiawnder troseddol yr UD; tra mha eraill yn ei weld fel llofruddiwr a
ddylai dal talu ei ddyled i’r gymdeithas.
Mae Peltier erioed wedi haeru ei ddiniweidrwydd ac mae
cefnogaeth llawer drwy’r byd yn cynnwys y Pab.
Ond yn
fwy pwysig roedd Atwrni yr Unol Daleithiau oedd yn rhan o’r erlyniad wedi annog
Obama I roi trugaredd I Peltier wrth
sgwennu yn y Chicago Tribune fe ddywedodd James Reynolds “Er nad ydi unrhyw
brawf yn berffaith roedd un
Peltier yn anarferol o drwblus, yn enwedig o edrych yn ôl……Roedd yr achos yn un
tenau ac yn annhebyg o gael ei gynnal yn y llysoedd heddiw. Mae yn llwyr
gorbwysais i labeli Peltier fel ‘llofrydd gwaed oer’ ar y ffeithiau
a’r ychydig prawf ddaru oroesi’r apeliai yn yr achos.”
Fase
rhywun yn meddwl bod 41 blynedd yn y ddalfa yn ddigon o gosb ac mae
penderfyniad Obama yn un sydd yn un siomedig.
Fel
dywedodd John Ryan cyn asiant yn yr FBI tra yn annog I Obama I weithredu
trugaredd “Fel y mwyafrif o asiantau yr FBI, fe ymunais ar asiantaeth I gwneud
y byd yn well lle. Roedd yn credu yr amser honno fel rwyn credu nawr bod yn yr
America gwerthoedd am cyfiawnder a tecwch, ond wrth edrych yn ol tros y 41
blynedd dwi yn gweld yr un yn achos Peltier.”
No comments:
Post a Comment