Yn ganol torf o rhwng 2,000
a 3,000 o ddilynwyr brwd fe ddaeth Jeremy Corbyn i Gaerdydd I ddechrau ei
ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol. Dyma’r arweinydd cyntaf i ddod traws
clawdd Offa.
Nid hawdd oedd clywed neges arweinydd Llafur roedd y system PA yn
warthus, gyda rhai aelodau Llafur yn holi bod swyddogion y blaid yn creu difrod
i’w arweinydd trwy natur y trefniant.
Ond fel dywedodd Carwyn Jones mae gan y blaid Lafur “mynydd i ddringo” i
ennill grym. Ac mae’r pôl piniwn diweddar yn cadarnhau barn prif weinidog
Cymru.
Gobaith Corbyn yw bydd y miliynau o’r aelodau newydd sydd gan ei blaid
yn trechu ar y garreg drws. Fel
fase un o gymeriadau Daniel Owen yn dweud “Scarcely believe.”
Yn ôl pôl diweddar ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd mae'r Ceidwadwyr yn bell yn
y blaen hefo 40%(+12), Llafur 30% (-3), Plaid Cymru 13%(d.n.), Democratiaid
Rhyddfrydol 8% (-1), UKIP 6% (-7), Gwyrdd 2% a Gweddill 1% (-1).
Os trowch yr arolwg i seddi fel mae’r Athro Roger Scully wedi ei wneud bydd
yn golygu y Ceidwadwyr i fyny 10
sedd ar yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda 21 o seddi sydd yn ei gwneud yn
blaid fwyaf Cymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith. Y rheswm mwyaf, pleidleiswyr
UKIP yn troi atynt.
Llafur i lawr 10 sedd i 15 a dim newid I Blaid Cymru gyda 3 a’r
Rhyddfrydwyr Democratiaid yn dal hefo 1.
Y deg sedd base'r Ceidwadwyr yn ennill base Alun a Dyfrdwy, Pen-y-bont, De Caerdydd a Phenarth,
Gorllewin Caerdydd, De Clwyd , Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd,
Wrecsam ac Ynys Môn.
Ond o bosib mae bod yn y blaen gymaint yn mynd i gael effaith ar y rhif
o seddi enillwn hwy yn y diwedd. Mae’n gwrth-sythweledol, mwyaf yn y blaen yn y
polau llai o seddi enillwch yn y diwedd
Ond dyma rhai elfennau sydd o bosib yn gwneud pethe yn fwy ansicr nag
mae'r Athro Scully yn dehongli.
Yn gyntaf y mwyaf byd mae’r polau piniwn yn dangos y Ceidwadwyr yn y
blaen mae hun yn mynd i leihau'r nifer sydd yn mynd i droi allan i bleidleisio.
Os ydy’r canlyniad yn y ‘bag’ i’r Ceidwadwyr bydd na llai yn dueddol o
drafferthu i bleidleisio. Mi fedrwch weld Llafur yn dal ei gafael ar seddi
mae’r polau piniwn yn dweud dylent golli am fod y nifer ddaru bleidleisio yn
isel.
Mae yna lawer yn casáu Corbyn ond yn gefnogol iawn o rhai aelodau
seneddol Llafur yn eu hetholaethau. Beth wnewch chi? Ethol aelod Ceidwadol neu
gefnogi aelodau seneddol Llafur sydd yn wrth-Corbyn. Fawr o ddewis, pleidleisio
Llafur.
Maen na grŵp arall sydd yn gweld nad yw’n beth iach i’r wlad i adael
Teresa May cael eu’i ffordd a rhoi mwyafrif mawr iddi. Byddan yn cymryd piti ar Lafur wrth weld y polau
piniwn ac ar y funud ddiwethaf yn rhoi ei phleidlais i’r iddynt.
Dyna pam rhaid cymryd y canlyniad o droi arolwg barn i seddi hefo
pinsiad mawr o halen.