Saturday 13 April 2013

Rasys Sianel Pedwar


Wel, dyma ni ân’ sgidiau ar y ddaear ar ôl y Grand National. Dau enillydd ar y dydd a thip am yr ail a hefyd  hyfforddwr o Gymru. Bendigedig.

Tasg anodd i Gaerdydd adref heddiw. Nottingham Fforest ydi’r tîm mewn hwyl dda ar hun o bryd yn y Cynghrair. Base Caerdydd yn ennill heddiw fase’n bluen go fawr yn ei het. Tra maen nhw yn ymlusgo i frig y gynghrair ac i’r Premier, gobeithio.

Yn y bwrlwm dydd Sadwrn diwethaf nes i ddim nodio gem fawr Bangor. Buddugoliaeth tros TNS I fynd a nhw i em cwpan Cymru yn erbyn  Prestatyn.  Heddiw maen nhw adref yn erbyn Caerfyrddin.

 Wel at y mater pwysig, tips y diwrnod. I gyd ar Sianel 4 Lloegr. Lloegr gwelwch nid Cymru.. “Nuff said”

Mae’n fwy anodd gwneud gwaith da ar dipio ar ddechrau tymor y “fflat” gan oes 'na ddim llawer o brofiad  i selio fy ngwaith ar. Dwedi wneud fy ngorau heddiw. Cawn weld sut eith hi.

2.05 Kempton Grey Mirage.  Mae wedi ennill tros filltir tai gwaith unwaith yn Kempton. Dwi’n disgwyl iddo gwneud y rhedeg er mwyn llosgi’ eu cysladwyr.

2.20 Doncaster. Highland Knight,  Mi ddylai ceffyl Andrew Balding gwneud yn dda'r ar ddaear gadarn.

2.40 Kemton Code of Honour. (N.B.)Roed wedi rhedeg ar gwrs bob tywydd. Mae gan yr hyfforddwr  record 100%.  Ond di hynn ddim yn anodd tydi mond wedi rhedeg un!

2.55 Doncaster Bowdlers Magic. Enillodd ei ddwy ras ddiwethaf dros ddwy filltir i Mark Johnston cyn symud i iard Danny Nicholls.

3.15 Kempton Strirring Ballad (Nap) Gobeithio’r gora’ r hwn heb ddim profiad ar gwrs bob tywydd

3.30 Doncaster Jack Dexter Mae’n mynd ar y pwysau uchaf, enillodd yn rhwydd yn ras gyntaf y tymor tros y cwrs ar bellter.  Tydi ddim mor hoff o ddaear gadarn. Gweddïwch tros law.

3.50 Kempton Solar Diety. Gobeithio medrith dal at ei hwyl dechrau’r tymor ac ennill eto.

No comments:

Post a Comment